Beth fyddwn i’n ei ddweud wrth y Beatles am unigrwydd

A dweud y gwir, dydw i ddim yn un o ffans mawr y Beatles. Ond yn rhyfedd ddigon, wrth ganu yn y gawod, un o’r caneuon sydd ymhlith fy 10 uchaf yw “Eleanor Rigby” a’r geiriau “all the lonely people”. Wn i ddim pam; efallai am fy mod i’n cofio’r geiriau i gyd.

Mae’r gân yr un oed â fi. Ac eto, 50 mlynedd a mwy ers iddi gael ei rhyddhau, mae unigrwydd yn parhau’n rhywbeth rydyn ni’n dal i geisio ei ddeall a’i ddatrys.

Hyd yn oed cyn i Coronafeirws ymddangos, gyda’i holl gyfyngiadau o ran pwy y gallen ni gyfarfod â nhw ac i ble y gallen ni fynd, roedd unigrwydd fel pwnc yn codi yn ein papurau newydd, ar y radio ac ar y teledu. Roedden ni wedi bod yn clywed mwy a mwy am yr effaith niweidiol y gallai ei gael ar lesiant iechyd meddyliol a chorfforol pobl. Fe glywson ni hefyd fod pobl 16-24 oed ddwywaith yn fwy tebygol o brofi unigrwydd na’r rheini dros 75. Rwy’n credu bod hyn wedi synnu llawer o bobl.

Ond er ein bod ni i gyd wedi teimlo’n unig ar ryw adeg mae’n siŵr, mae’n tueddu i fod yn rhywbeth dros dro. Rwy’n cofio dechrau mewn ysgol newydd a theimlo ar fy mhen fy hun, yn unig ac yn cael fy ngadael allan. Ond drwy bêl-rwyd a chyfarfod a “ffans Bay City Rollers” o’r un anian, dechreuodd pethau wella. Dechreuais i wella. Roeddwn i’n teimlo’n rhan o rywbeth. Ond ddywedais i ddim erioed wrth neb fy mod i’n teimlo’n unig.

Mae’r pandemig wedi dod ag unigrwydd i’r amlwg. Yn sydyn roedd yr holl gysylltiadau cymdeithasol roedden ni’n eu gwneud bob dydd – cerdded i’r ysgol gyda’n ffrindiau; dweud helo wrth wynebau cyfarwydd ar y trên; dod i’r gwaith a sgwrsio wrth y llungopïwr wrth geisio gweld pam fod y papur yn sownd eto fyth; edrych ymlaen at gwrdd â ffrindiau yn y ganolfan ddydd neu alw heibio am sgwrs – wedi diflannu. Ac wrth i hyn ddigwydd roedd llawer yn dechrau teimlo’n unig.

Yr hyn a amlygodd y pandemig hefyd yw pa mor gryf y gall ysbryd cymunedol fod a sut gall sefydliadau ddod at ei gilydd i sicrhau newid cadarnhaol. Rwy’n credu bod hyn wedi synnu llawer hefyd.

Gydag unigrwydd, undod cymunedol a chydweithio dan y chwyddwydr, rwy’n credu bod digwyddiadau fel hwn a drefnir gan CPPC mor bwysig i’n helpu i ddysgu a symud ymlaen er gwell.

Pan gyhoeddon ni “Cysylltu Cymunedau”, ein strategaeth unigrwydd ac ynysu cymdeithasol ym mis Chwefror 2020, ychydig a wyddem ni beth oedd yn llechu rownd y gornel.  Drwy gydol y pandemig mae ein grŵp cynghori strategaeth sy’n cynnwys cydweithwyr o’r sector statudol a’r trydydd sector a sefydliadau llawr gwlad wedi bod yn hanfodol yn ein helpu yn Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr ein bod ni’n ymdrin ag unigrwydd gyda’n gilydd.

Felly, pe bai John, Paul, George neu Ringo yn gofyn i fi ‘yr holl bobl unig yma, o ble maen nhw’n dod?’ gallwn i ateb, maen nhw’n dod o’n cymunedau ond yma yng Nghymru rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i sicrhau eu bod yn gwybod eu bod yn rhan o’n cymuned ni hefyd.

 

Am yr awdur

Mae Ali Wood yn Uwch Swyddog Ymgysylltu (Unigrwydd ac Arwahanrwydd Cymdeithasol) yn Llywodraeth Cymru