Incwm sylfaenol: beth ydyw a beth nad ydyw

Yn yr blog gwadd ar incwm sylfaenol, mae Dr Francine Mestrum yn edrych ar dri math gwahanol o incwm sylfaenol, gan roi sylwadau ar eu potensial i gyflawni cyfiawnder cymdeithasol: incwm sylfaenol cyffredinol, incwm sylfaenol i’r rhai sydd ei angen, a difidend cyffredinol.

Wrth ddechrau trafodaeth ar ‘incwm sylfaenol’ mae’n hanfodol clirio’r niwl semantig yn gyntaf. Beth yn union ydyn ni’n sôn amdano?

Mae dau brif ystyr ‘incwm sylfaenol’ yn wahanol iawn i’w gilydd. Mae’n bosib bod o blaid y naill ac yn erbyn y llall.

Pan ddechreuodd y dadleuon cyfredol ar ‘incwm sylfaenol’, ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif, gyda Philippe Van Parijs yn Ewrop ac Eduardo Suplicy ym Mrasil, y pwnc oedd ‘incwm sylfaenol cyffredinol’ (UBI) ac ‘incwm y dinesydd’. Roedd yn golygu swm penodol o arian yn cael ei roi i holl ddinasyddion neu drigolion gwlad, yn ddiamod ac heb ystyried y sefyllfa economaidd-gymdeithasol neu gyfranogiad yn y farchnad lafur. Felly y ‘cyffredinol’. Ystyriwyd bod incwm sylfaenol cyffredinol yn fater o gyfiawnder cymdeithasol ac yn gam tuag at gydraddoldeb.

Mae’n amlwg bod cost enfawr i hyn hyd yn oed os dywedwyd y byddai’r cyfoethog yn talu eu trethi yn ôl, gan dybio bod y cyfoethog yn talu eu trethi.

Fodd bynnag, cynigiodd eraill ‘incwm sylfaenol’ ‘ar gyfer y rhai sydd ei angen’ fel mesur gwrth-dlodi, er, unwaith eto, yn ddiamod. Mae yna wahanol ffyrdd i ddylunio incwm sylfaenol o’r fath hyd yn oed os yw bob amser yn awgrymu un ffordd neu’r llall o ‘dargedu’ y tlawd, ymarfer hynod o anodd.

I wneud materion hyd yn oed yn fwy cymhleth, dechreuodd rhai siarad am ‘ddifidend sylfaenol cyffredinol’, dull dosbarthu incwm gan ddiwydiannau cloddiol, boed yn olew neu’n fwynau. Y syniad sylfaenol yw bod yr adnoddau naturiol hynny yn fath o eiddo naturiol cyffredinol sy’n perthyn i holl ddinasyddion gwlad.

Mae’r dadleuon ynghylch y materion hyn bob amser yn fywiog iawn, ond yn aml iawn bydd pobl yn defnyddio’r un derminoleg, wrth siarad am bethau sylfaenol wahanol.

Yn y cyfraniad hwn, rwyf am roi sylwadau byr ar y tri chynnig a grybwyllwyd uchod.

Gadewch imi ddechrau gyda’r un hawsaf: y difidend sylfaenol cyffredinol. Mae’n seiliedig ar swm cyfartal o arian parod i bob dinesydd neu drigolyn mewn endid daearyddol, ond nid oes ganddo unrhyw effaith ag unrhyw ddimensiwn o ddiogelwch cymdeithasol ac nid yw’n cael ei ariannu trwy arian treth. Mae athroniaeth sylfaenol yr ‘eiddo cyffredinol’ yn wir fater o gyfiawnder i bawb. Mae’n gydnabyddiaeth o’n cydfod a’n perchnogaeth o’r blaned. Mewn gwirionedd, gan fod ffiniau cenedlaethol yn hollol fympwyol, dylem allu siarad am ‘eiddo cyffredinol byd-eang’ a difidend cyffredinol byd-eang ar gyfer poblogaeth y byd i gyd. Mae pob dinesydd ar y Ddaear yn berchennog ac mae ganddo hawl i enillion adnoddau’r Ddaear. Mae hwn yn ddull tra argymelledig o gyfiawnder cymdeithasol. Ei unig anghyfleustra yw bod yr enillion hyn ac o ganlyniad y difidend yn amrywio o un flwyddyn i’r llall. Mae Cronfa Barhaol Alaska yn enghraifft o’r math hwn o ddifidend, gan dalu $1,600 y flwyddyn ar gyfartaledd i drigolion, wedi’i ariannu gan refeniw olew.

Yr ail ddull yw’r incwm sylfaenol ‘ar gyfer y rhai sydd ei angen’ fel posibilrwydd i frwydro’n erbyn tlodi neu ei ddileu. Unwaith eto, mae hyn yn gysylltiedig yn uniongyrchol â’r cysyniad o gyfiawnder cymdeithasol. Nid yw rhai pobl, oherwydd salwch, analluogrwydd neu oedran, yn gallu ennill bywoliaeth ar y farchnad lafur, neu maent dan anfantais gymdeithasol mewn ffyrdd eraill. Mae ganddyn nhw hawl ddynol i safon byw gweddus, a delir amdano drwy undod yr holl bobl eraill sydd ag incwm digonol. Mae llawer o gynlluniau peilot o’r math hwn o incwm sylfaenol wedi digwydd ar draws y byd, gan ganolbwyntio’n bennaf ar helpu naill ai pobl ddi-waith, neu’r rhai ag incwm isel. Mae hyn yn cynnwys Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl sy’n Gadael Gofal yng Nghymru, sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd, gan ddarparu incwm ôl-dreth o £1,280 y mis i’r rhai sy’n gadael gofal yng Nghymru yn 18 oed.

Er bod y math hwn o incwm sylfaenol wedi’i gyfyngu i raddau helaeth i gynlluniau peilot, mae gan y rhan fwyaf o wledydd y byd rywfaint o system o drosglwyddo arian parod neu ‘isafswm incwm gwarantedig’ eisoes, er enghraifft ar ôl i’r hawliau i fudd-daliadau diweithdra gael eu disbyddu. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o wledydd maent yn amodol iawn a ran amlaf nid ydynt yn ddigonol i warantu bywyd mewn urddas. Mae’r systemau hyn yn hanfodol i bob gwlad wâr ac yn perthyn i undod cymdeithasol elfennol a sylfaenol. Yn anochel, maent yn awgrymu rhywfaint o dargedu sydd bob amser yn go anodd, ond gyda sgiliau gweinyddol ac yn ddelfrydol digidol llywodraethau lleol, gellir gwarantu ffordd dda o fyw i bawb, heb unrhyw stigmateiddio.

Hollol wahanol yw achos yr ‘incwm sylfaenol cyffredinol’ na ellir ei ystyried yn welliant mewn systemau amddiffyn cymdeithasol, ond yn cymryd eu lle.

Yn wir, dim ond os yw’n caffael incwm digonol ar gyfer ffordd weddus o fyw y gall incwm sylfaenol cyffredinol fod yn ystyrlon. Os caiff ei dalu i bawb, waeth beth yw incwm a chyfranogiad y farchnad lafur, mae’n mynd yn ddrud iawn ac ni all fodoli ochr yn ochr â phensiynau, gofal iechyd, lwfansau teulu neu fudd-daliadau diweithdra. Un peth neu’r llall ydyw, fel y mae’r rhan fwyaf o eiriolwyr incwm sylfaenol cyffredinol yn ei gyfaddef.  Fodd bynnag, mae llawer o sefydliadau rhyngwladol amlwg, fel y Sefydliad Llafur Rhyngwladol, y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Banc y Byd – nad ydynt yn gwneud eu cyfrifiadau ar chwarae bach– yn eu hystyried yn rhy ddrud. Dyna pam mae hyd yn oed Philippe Van Parijs yn cynnig ‘cychwyn’ gyda swm cyfyngedig ymhell islaw’r llinell dlodi. A dyna lle mae problemau’n dod yn grisial glir.

Yn gyntaf, mae’r ddadl o ‘gyfiawnder’ yn troi’n ddim pan nad yw’r incwm sylfaenol cyffredinol hyd yn oed yn ddigon i dalu am rent neu fwyd ac nid yw’n caniatáu i bobl oroesi.

Yn ail, mae nifer sylweddol o bobl gyfoethog naill ai ddim yn talu trethi neu mae ganddynt ddulliau sy’n eu caniatáu i’w hosgoi gymaint â phosibl. Gellir ystyried bod talu incwm sylfaenol i ddosbarthiadau canol uwch ac i’r cyfoethog yn annheg iawn.

Yn drydydd, os mai bach iawn o gymhorthdal incwm y bydd pawb yn ei gael, un risg bosibl yw gostwng cyflogau, sy’n golygu bod y rhan fwyaf o fuddion y system yn mynd i gyflogwyr. Yn y senario hwn, daw’r incwm sylfaenol cyffredinol yn gymhorthdal cyflog, gan symud cost llafur o gwmnïau i awdurdodau cyhoeddus. Mae’n ei gwneud yn haws datblygu swyddi hyblyg a mini-swyddi.

At hynny, mae system o’r fath yn ein hatgoffa o brofiad Speenhamland – system o liniaru tlodi yn Lloegr ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif lle’r oedd awdurdodau lleol yn gwarantu isafswm incwm penodol, gan ganiatáu i gyflogwyr gadw cyflogau islaw lefel cynhaliaeth – lle mae pob cymhelliant i gronni cyflogau uwch a threfniadaeth lafur yn diflannu pan fydd llywodraethau lleol yn gwarantu lefel o incwm byw i’w dinasyddion. Fodd bynnag, dylai cyflogwyr hefyd fod yn gyfrifol am les eu gweithwyr.

Yn olaf, oni ddylai pawb mewn cymdeithas gyfrannu rhyw fath o lafur os gallant? Er bod tynnu’n ôl yn economaidd yn llwyr yn llai tebygol yng nghyd-destun incwm sylfaenol cyffredinol nag y tybir weithiau, a ydyw’n dderbyniol bod rhai pobl yn tynnu’n ôl o gymdeithas? A all hyn fyth fod yn dderbyniol yn foesol neu’n gymdeithasol gynaliadwy?

I gloi, mae pawb yn sicr yn haeddu sicrwydd incwm a dylid archwilio’r holl atebion posibl ar gyfer bywyd mewn urddas. Y dull gorau yn sicr yw system amddiffyn cymdeithasol gyffredinol, eang a chydlynol er mwyn dileu tlodi, gyda hawliau llafur helaeth – ac o bosibl system o swyddi gwarantedig – ac yn bennaf oll rhwydwaith helaeth o wasanaethau cyhoeddus. System undod llorweddol a strwythurol yw hon sy’n ystyried anghenion penodol pawb.

Gall difidendau cyffredinol hyrwyddo mwy o gyfiawnder cymdeithasol. Gall isafswm incwm gwarantedig fod yn rhan o ddiogelwch cymdeithasol. Nid yw incwm sylfaenol cyffredinol yn hyrwyddo cyfiawnder a thegwch.

Mae gan Francine Mestrum radd PhD yn y gwyddorau cymdeithasol ac mae’n gweithio ar gyfiawnder cymdeithasol a globaleiddio, trawsnewidiadau teg, systemau incwm sylfaenol a rhywedd. Darllenwch adroddiad Francine ar ‘diogelwch incwm’

Ym mis Rhagfyr 2022, cynhaliodd Canolfan Polisi Cyhoeddi Cymru gynhadledd ar gyfer academyddion ac arbenigwyr polisi mewn perthynas â’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer Pobl sy’n Gadael Gofal yng Nghymru. Ers hynny, rydym wedi cyhoeddi pecyn uchafbwyntiau’r digwyddiad, a blog gyda phum dysgiad allweddol am incwm sylfaenol.

Mae ein tri blog ar incwm sylfaenol yn cael eu croes-bostio gyda’r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol (IPPO), sydd wedi cyhoeddi adolygiad tystiolaeth cyflym o arbrofion incwm sylfaenol yng ngwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygu Economaidd.