Uchafbwyntiau cynhadledd incwm sylfaenol

Lansiwyd y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer Pobl sy’n Gadael Gofal yng Nghymru gan y Prif Weinidog ar 1 Gorffennaf 2022, yn unol ag ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i dreialu dull o ymdrin ag incwm sylfaenol yng Nghymru. Bydd y cynllun peilot gwerth £20 miliwn yn rhoi trosglwyddiad arian parod diamod o £1,600 y mis cyn treth (net £1,280) i garfan o bobl ifanc sy’n gadael gofal, ac mae’n cael ei werthuso gan dîm o CASCADE, canolfan ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gynnull cynhadledd gydag arbenigwyr academaidd – o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol – i drafod y cynllun peilot a’i werthusiad. Nod y gynhadledd oedd sicrhau bod swyddogion a’r tîm gwerthuso yn gallu defnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael yn ymwneud â’r hyn sy’n gweithio i gefnogi pobl sy’n gadael gofal, yn ogystal â mewnwelediadau o dreialon incwm sylfaenol blaenorol.

Cynhaliwyd y gynhadledd ar 15 Rhagfyr 2022 ac roedd yn cynnwys prif anerchiad gan yr Athro Syr Michael Marmot, yn ogystal â chyfraniadau gan yr Athro Guy Standing, swyddogion Llywodraeth Cymru, y gwerthuswyr, a sefydliadau eraill sy’n ymwneud â threialon mentrau incwm sylfaenol.

Cyn y gynhadledd, ysgrifennodd Uwch-gymrawd Ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru Amanda Hill-Dixon flog yn gosod y gynhadledd o fewn yr argyfwng costau byw a gwaith arall gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar dlodi a phlant a theuluoedd. Mae pecyn ‘uchafbwyntiau’ y digwyddiad yn cynnwys crynodebau o drafodaethau rhwng cynrychiolwyr a recordiadau fideo o gyflwyniadau siaradwyr.

Mae fersiwn hygyrch o’r ddogfen yma yn gallu cael ei lawr lwytho fel ffeil ‘PowerPoint’