Deall sefydliadau sy’n darparu tystiolaeth ar gyfer polisi

Mae’r blogbost hwn yn seiliedig ar erthygl Evidence & Policy ‘Knowledge brokering organisations: a new way of governing evidence’.

Mae sefydliadau newydd wedi dod i’r amlwg mewn gwahanol wledydd i helpu i lywio’r gwaith o lunio polisi. Mae’r Sefydliadau Broceru Gwybodaeth (KBO) hyn yn wahanol i felinau trafod a chanolfannau ymchwil academaidd ac yn ceisio dylanwadu ar bolisi drwy gasglu tystiolaeth. Mae ein hymchwil yn edrych ar sut mae eu tarddiad a’u rolau wedi’u gwreiddio mewn gwleidyddiaeth, ac yn archwilio eu hangen i adeiladu hygrededd a dilysrwydd yn eu cymuned bolisi. Er i ni edrych ar KBOs ar wahanol gyfandiroedd – Canolfan Tystiolaeth Affrica, Canolfan Mowat yng Nghanada a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru – rydym ni’n dangos sut y maen nhw wedi dod yn offeryn a ddefnyddir mewn ffyrdd tebyg gan eu llywodraethau.

 

Beth yw KBOs?

Mae KBOs wedi ymddangos yn y gofod polisi-tystiolaeth fel sefydliadau newydd â’r bwriad o ddefnyddio – ‘broceru’ – tystiolaeth ymchwil a gwybodaeth mewn polisi. Mae’r graddau y maen nhw’n wahanol i felinau trafod neu ganolfannau ymchwil academaidd yn aml yn dibynnu ar sut mae pob KBO yn gwneud synnwyr o’i darddiad a’i weithgareddau.  Mae tair prif nodwedd yn gosod KBOs ar wahân i sefydliadau eraill:

  1. Mae tystiolaeth yn ganolog i’w gwaith, eu cenhadaeth a’u harferion.
  2. Eu strwythurau, perthnasoedd ac arferion penodol: e.e. staff â chefndir lluosog/sy’n croesi ffiniau, offer broceru gwybodaeth.
  3. Eu hagosrwydd at y llywodraeth – yn aml caiff KBOs eu hariannu gan y llywodraeth.

 

Pam fod KBOs yn ymddangos?

Er eu bod yn gweithio mewn gwahanol gyd-destunau, roedd y tri KBO a astudiwyd gennym yn debyg i’w gilydd mewn sawl ffordd. Roedd y tri wedi datblygu naratifau tebyg am eu hymddangosiad a’r rolau maen nhw’n eu chwarae yn y broses o lunio polisi. Er enghraifft, soniodd y KBOs fod angen eu bodolaeth am fod diffyg capasiti ar gyfer darparu tystiolaeth o fewn y llywodraeth. Roedd awydd hefyd i greu ‘siop dystiolaeth un stop’. Serch hynny, roedd cyd-destun yn bwysig, yn enwedig hanesion lleol, strwythurau a rôl unigolion allweddol, oedd oll yn dylanwadu ar rôl tystiolaeth mewn polisi.

 

Beth mae KBOs yn ei wneud?

Roedd rolau’r KBOs yn ‘waith ar y gweill’ parhaus. Bydden nhw’n adeiladu ar wahanol fathau o ddilysrwydd ac yn chwarae rolau lluosog a newidiol. Er enghraifft, efallai y bydden nhw’n creu tystiolaeth newydd, yn cyfuno tystiolaeth oedd yn bodoli eisoes, yn cynghori llunwyr polisi ac weithiau’n eiriol dros ymyriad penodol. Roedd KBOs yn gyson yn cydbwyso eu hannibyniaeth a’u trylwyredd (gan dynnu fel arfer eu sgiliau a staff academaidd eu naws) gyda’u defnyddioldeb i’r llywodraethau roedden nhw’n ceisio eu llywio.

Roedd y ffaith fod KBOs yn tueddu i wneud mwy a mwy a datblygu mathau newydd o allbynnau yn ei gwneud yn anodd dehongli eu teyrngarwch, rhywbeth a allai beri trafferth i arsylwyr allanol oedd yn archwilio eu hatebolrwydd. Diddymwyd un o’r safleoedd roeddem ni’n ei astudio – Canolfan Mowat – pan etholwyd llywodraeth newydd yn ystod ein gwaith maes. Mae’r digwyddiad hwn yn dangos sut mae bodolaeth KBOs yn dibynnu ar gyd-destun gwleidyddol y cyfnod. Rhaid i KBOs ddangos eu heffaith i’r llywodraeth yn gyson a phwysleisio eu hannibyniaeth yr un pryd.

 

Sut mae KBOs yn berthnasol i lunwyr polisi?

Roedd gan yr holl KBOs a astudiwyd gysylltiadau pŵer cymhleth â llunwyr polisi. Er eu bod yn sôn am bwysigrwydd galluogwyr traddodiadol llunio polisi ar sail tystiolaeth megis ymddiriedaeth a chyfathrebu da, roedden nhw’n aml yn dylanwadu ar bolisi mewn ffyrdd mwy cynnil ac anffurfiol megis siapio sut mae llunwyr polisi yn deall ac yn siarad am dystiolaeth. Roedd llywodraethau’n gwerthfawrogi KBOs am eu harddull anffurfiol a’u gwybodaeth ddealledig ar sail profiad. Mae’r nodweddion hyn wedi’u hadeiladu ar brofiad staff a hanes sefydliadol. Yn aml, roedd gwaith KBOs yn mynd y tu hwnt i drosglwyddo tystiolaeth safonol, i rolau cynghori a broceru mwy cymhleth.

Drwy dynnu sylw at brofiadau’r tri sefydliad, mae ein hymchwil yn helpu i wella dealltwriaeth o’r modd y caiff tystiolaeth ei chynnwys mewn polisi gan KBOs. Yn benodol, rydym ni’n dangos sut mae KBOs yn offeryn newydd i lunio polisi ar sail tystiolaeth sydd i bob golwg yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd tebyg gan wahanol lywodraethau. Mae hyn yn agor llwybrau ar gyfer ymchwil bellach sy’n edrych ar y sefydliadau hyn dros amser. Bydd mwy o ymchwil gymharol yn helpu i ddeall sut y caiff y sefydliadau hyn ac offerynnau eraill yn y dirwedd llunio polisi ar sail tystiolaeth eu defnyddio gan systemau llunio polisi gwahanol yn ôl agendâu, hanes a diwylliannau gwahanol.

 

Mae’r erthygl hon wedi’i hailbostio o Flog Evidence and Policy