Llunio polisi yn seiliedig ar dystiolaeth: a yw brocera gwybodaeth yn gweithio?

Mae Sarah Quarmby yn cynnig cip y tu ôl i’r llenni yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i weld sut mae eu gwaith o ddydd i ddydd yn manteisio ar y corff o wybodaeth sydd ar gael am y defnydd o dystiolaeth wrth lunio polisi.

Mae yna ddiddordeb eang a pharhaus ynghylch rôl tystiolaeth yn y broses o lunio polisi. Ond gan fod y gwaith o lunio polisi yn flêr a chymhleth yn ei hanfod, nid oes un ffordd gyffredinol o sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei defnyddio. Yn y cyd-destun hwn, mae “broceriaid gwybodaeth” yn cael eu cydnabod fwyfwy fel ffordd bosibl o wella’r broses o lunio polisi yn seiliedig ar dystiolaeth.

Mae broceriaid gwybodaeth yn unigolion neu sefydliadau sy’n pontio’r bwlch rhwng ymchwil academaidd a’r broses o lunio polisi. Maent yn gweithio i sicrhau bod tystiolaeth ddefnyddiol yn cyrraedd y bobl gywir, mewn fformat priodol, ar adeg addas.

“Mae brocera gwybodaeth llwyddiannus yn seiliedig ar adeiladu perthnasau sy’n llawn ffydd. Mae hyn yn gofyn am ddealltwriaeth fanwl o’r byd academaidd a’r broses o lunio polisi, gan gynnwys eu gwerthoedd, eu harferion a’u cymhellion.”

Cyfyngedig yw’r sail dystiolaeth am froceriaid gwybodaeth, ond mae canfyddiadau rhagarweiniol yn awgrymu bod ganddynt y potensial i wella a chynyddu’r defnydd o dystiolaeth.

 

Sut mae brocera gwybodaeth yn gweithio yn ymarferol?

Am y chwe mis diwethaf, dwi wedi bod yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, canolfan ymchwil annibynnol sy’n gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Agorodd y Ganolfan ym mis Hydref 2017, gan adeiladu ac ehangu ar waith ei rhagflaenydd, y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, ac mae’n aelod o’r rhwydwaith o Ganolfannau What Works sydd wedi’u lleoli ledled y DU.

Rydym yn gweithio’n agos â Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i’w helpu i nodi eu hanghenion tystiolaeth a hwyluso’r broses o ddarparu’r dystiolaeth honno. Yn ymarferol, golyga hyn ein bod yn arwain cyfres o brosiectau, pob un yn gysylltiedig â pholisi neu bwnc gwasanaeth cyhoeddus gwahanol, o’r cam syniadau cyntaf i gyflwyno’r cynnyrch terfynol.

Edrychwn ar ein gwaith gyda Llywodraeth Cymru fel enghraifft. Mae’r prosiectau fel arfer yn dechrau drwy gwrdd â Gweinidogion, eu cynghorwyr arbennig a/neu swyddogion polisi (dan nawdd Swyddfa’r Cabinet) i drafod meysydd gwaith posibl.

Pan fyddwn wedi cytuno ar y math o dystiolaeth a fyddai’n ddefnyddiol iddynt, byddwn yn cynnal adolygiad byr o’r hyn rydym eisoes yn ei wybod am y pwnc. Ar y pwynt hwn, gallwn benderfynu a fyddwn yn gwneud yr ymchwil yn fewnol neu’n ei gomisiynu i arbenigwr allanol. Os rhown y prosiect ar gontract allanol, byddwn yn dod o hyd i’r arbenigwyr mwyaf priodol ac yn cysylltu â nhw i weld a fyddai diddordeb ganddynt mewn gweithio gyda ni.

Mae pob prosiect yn wahanol, ond mae ein gwaith yn aml yn cynnwys hwyluso a rheoli perthnasau rhwng yr arbenigwyr a Llywodraeth Cymru yn ogystal â sicrhau cyfathrebu effeithiol fel bod y cynnyrch terfynol yn bodloni disgwyliadau.

Mae ffurf y dystiolaeth sy’n cael ei llunio yn dibynnu ar fanylion pob prosiect. Gall fod yn adroddiad (gallwch weld enghraifft yma), digwyddiad, gweithdy, neu’n syml gyfres o sgyrsiau strwythuredig rhwng yr arbenigwr a Llywodraeth Cymru.

“Fel hyn, gallwn bontio’r bwlch rhwng ymchwilwyr academaidd a llunwyr polisi, sydd wedi cael eu hystyried yn ddwy gymuned ar wahân ers cryn amser.”

Mae theori “Dwy Gymuned” Nathan Caplan yn dal i fod yn adnodd defnyddiol ar gyfer meddwl am sut mae cau’r bwlch rhwng ymchwil academaidd a llunio polisi. Mae’n awgrymu bod y systemau gwerth a’r amserlenni y mae’r byd ymchwil a’r byd llunio polisi yn eu defnyddio yn hollol wahanol i’w gilydd – fel petai’r ddwy gymuned yn siarad ieithoedd gwahanol.

Mae llunwyr polisi’n wynebu pwysau gwleidyddol a chraffu cyhoeddus ac yn chwilio am fewnbwn amserol ac ymarferol i mewn i faterion polisi, tra bod gan academyddion fwy o ddiddordeb mewn ymchwil tymor hwy sy’n cael ei lywio gan theori, ac maent dan bwysau i gyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd. Soniodd Caplan am yr angen am gyfryngwyr sy’n sympathetig i’r ddau ddiwylliant; gall y rhain gyfryngu a sicrhau’r canlyniadau gorau posibl.

Pam bod hyn yn bwysig?

Mae ein gwaith yn y Ganolfan yn gweithredu rhywfaint o’r ymchwil diweddaraf ar annog y defnydd o dystiolaeth wrth lunio polisi.

Edrychodd astudiaeth ddiweddar gan y Gynghrair ar gyfer Tystiolaeth Ddefnyddiol ar yr hyn y gellir ei wneud i roi llunwyr polisi mewn safle lle maent yn gallu ac yn cael eu cymell i wneud defnydd o dystiolaeth, a nodwyd chwe “mecanwaith” i wella a chynyddu’r defnydd o dystiolaeth. Mae ein dull gweithredu’n canolbwyntio ar bedwar o’r rhain: meithrin cyd-ddealltwriaeth o anghenion tystiolaeth a chwestiynau polisi, hwyluso cyfathrebu a mynediad i dystiolaeth, hwyluso rhyngweithio rhwng pobl sy’n gwneud penderfyniadau ac ymchwilwyr, ac adeiladu’r set sgiliau sydd ei hangen i ymgysylltu ag ymchwil.

Yn wir, mae’r ffordd rydym yn gweithredu yn cael ei llywio gan amrywiaeth eang o lenyddiaeth academaidd ar lunio polisi. Er enghraifft, rydym yn edrych ar ddulliau amgen o gyflwyno tystiolaeth ar hyn o bryd.

Mae ymchwil yn awgrymu bod llunwyr polisi yn aml yn ymateb i naratifau ac astudiaethau achos sy’n dangos sut mae polisïau yn effeithio ar fywydau unigolion o ddydd i ddydd. Mae cefnogwyr y ffordd hon o feddwl yn honni bod tystiolaeth sy’n cael ei chyflwyno fel hyn yn fwy tebygol o lawer o gael ei defnyddio. Y broblem gyda’r dull gweithredu hwn yw bod yna oblygiadau o ran yr angen am niwtraliaeth academaidd, a dydyn ni ddim eisiau cyfaddawdu statws diduedd y Ganolfan.

“Mae brocera gwybodaeth yn broses sy’n mynd rhagddi, ond mae ymchwil yn awgrymu ei bod hi’n bwysig sicrhau nad yw’r dull ‘profi a methu’ cynnar o hwyluso’r defnydd o dystiolaeth yn y gwaith o lunio polisi yn troi’n strategaeth anaddas yn y tymor hwy.”

Am y rheswm hwn, rydym yn mireinio ein ‘theori newid’, h.y. yr hyn rydym eisiau ei wneud, sut byddwn yn gwneud hynny, a sut byddwn yn mesur ein llwyddiant. Maes o law bydd hyn yn ein galluogi i asesu a ydym wedi bod yn effeithiol, a pha dulliau sydd wedi gweithio’n well neu’n waeth nag eraill.

Rydym yn gwybod bod ein model yn gweithio yn ein cyd-destun ni, ac mae gennym lawer o enghreifftiau o’n gwaith gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi hyn. Ond yr her yw systemu ffyrdd o weithio a chasglu enghreifftiau clir o le a pham rydym wedi gallu cael effaith yn y ‘byd go iawn’.

Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol ar flog British Politics and Policy Ysgol Economeg Llundain (LSE).