Beth sy’n gweithio ar gyfer sicrhau defnydd o dystiolaeth?

Un o brif swyddogaethau EIF yw sicrhau bod tystiolaeth ar ymyrraeth gynnar yn cael ei defnyddio mewn polisi, penderfyniadau ac arferion. Mae Jo Casebourne a Donna Molloy yn crynhoi rhai o’r dulliau amrywiol rydym wedi’u defnyddio i fynd i’r afael â’r her benodol hon, a’n hymrwymiad i wneud gwelliannau parhaus o ran sut rydym yn gweithio pan mae’r dystiolaeth yn symud ‘y tu hwnt i gyhoeddi’.

 

Dydyn ni ddim yn gwybod digon am yr hyn sy’n gweithio ar gyfer sicrhau defnydd o dystiolaeth

Rhan allweddol o fod yn ganolfan What Works yw pennu sut orau i gyfleu tystiolaeth a chefnogi cynulleidfaoedd gwahanol i ddefnyddio’r dystiolaeth honno. Ond fel y noda’r erthygl ddiweddar ‘What Works now? Continuity and change in the use of evidence to improve public policy and service delivery’, mae ugain mlynedd wedi pasio ers dechrau’r symudiad What Works yn y DU ac nid ydym yn gwybod rhyw lawer o hyd am yr hyn sy’n gweithio o ran sicrhau defnydd o dystiolaeth.

Er bod arbrofi cynyddol wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf gan ganolfannau What Works a llawer o sefydliadau ymchwil eraill gyda ffyrdd gwahanol o adeiladu perthnasau rhwng cynhyrchwyr tystiolaeth a defnyddwyr, y realiti, fel y noda’r erthygl, yw ‘nad oes llawer o fentrau sy’n defnyddio tystiolaeth wedi’u dogfennu’n dda, heb sôn am eu gwerthuso’ (cyfieithiad). Mae rhai eithriadau nodedig fel treialon Octopus EEF, ond nid ydym yn dueddol o werthuso strategaethau gwahanol sy’n defnyddio ymchwil. Y canlyniad yw ein bod i gyd yn gweithio gyda sail dystiolaeth eithaf cyfyngedig ar y defnydd o dystiolaeth ei hun. Mae hyn yn dechrau newid, ac mae cyhoeddiadau fel The Science of Using Science a What Works Now? Evidence-Informed Policy and Practice yn gam pwysig ymlaen.

Ers i ni gael ein sefydlu fel canolfan What Works yn 2013, mae EIF wedi bod yn arbrofi gyda ffyrdd gwahanol o sicrhau defnydd o dystiolaeth. Ni fyddai’r cyntaf i gyfaddef ein bod wedi bod yn gwneud hyn i raddau helaeth heb gyfeirio at y llenyddiaeth sy’n bodoli ar ddefnydd o dystiolaeth. Rydym yn awyddus i bontio’r bwlch rhwng sefydliadau sy’n wynebu’r ymarferydd, fel ein hun un, sy’n arbrofi gyda ffyrdd o wneud hyn ond nad ydynt yn aml yn profi’r hyn rydym yn ei wneud, a’r academyddion sy’n ceisio tyfu’r ddisgyblaeth o ddefnyddio tystiolaeth neu ‘symud gwybodaeth’ (i roi ei label mwy academaidd iddi). Rydym eisiau bod yn rhan o symudiad cydlynol i ddeall y rhwystrau i ddefnyddio tystiolaeth yn well o fewn y system rydym yn gweithredu ynddi, ac i asesu’r set amrywiol o ddulliau a ddyluniwyd i chwalu’r rhwystrau hyn a hyrwyddo defnydd o dystiolaeth.

 

Dull gweithredu EIF ar gyfer defnyddio tystiolaeth

Yn EIF, ein cenhadaeth yw sicrhau bod ymyrraeth gynnar effeithiol ar gael ac yn cael ei defnyddio i wella bywydau plant a phobl ifanc sy’n wynebu risg o ganlyniadau gwael. Rydym yn gwneud hyn drwy ddadlau’r achos dros ymyrraeth gynnar, drwy gynhyrchu a syntheseiddio tystiolaeth ac annog defnydd o dystiolaeth i newid polisi ac arfer, yn genedlaethol a lleol.

Rydym bob amser wedi mynd y tu hwnt i ddim ond cyhoeddi tystiolaeth, ac rydym wedi bod yn arbrofi gyda mecanweithiau gwahanol i gyfleu a chefnogi ei defnydd ers 2013. Mae ein strategaeth newydd (2018-2023) yn rhoi hyd yn oed yn fwy o bwyslais ar roi cynnig ar ffyrdd gwahanol o ymgysylltu’n rhagweithiol â’n cynulleidfaoedd gyda’r dystiolaeth rydym yn ei chynhyrchu, a’u cefnogi i feddwl am y goblygiadau i wasanaethau lleol. Yn y blog hwn, rydym yn cyflwyno rhai enghreifftiau o’r dulliau rydym wedi rhoi cynnig arnynt.

 

Dod â thystiolaeth yn fyw a’i gwneud yn hygyrch

Weithiau mae pobl yn dweud bod ‘y dystiolaeth yn siarad drosti ei hun’, ond o’n profiad ni nid yw hynny’n wir o gwbl. Mae’r dystiolaeth yn aml yn amhendant, ac felly gall fod yn anodd pennu goblygiadau ‘beth am hynny?’ i ymchwil. Rydym felly’n treulio llawer o amser yn EIF (fel eraill) yn ‘cyfieithu’r dystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys ystyried ystyr gwirioneddol canfyddiadau i gomisiynu lleol, datblygu gwasanaeth ac ymarfer, a throi hyn yn adnoddau a chanllawiau sy’n uniongyrchol berthnasol i gyd-destunau darpariaeth leol penodol. Nid yw hyn bob amser yn bosibl: weithiau mae gormod o gwestiynau na all y dystiolaeth eu hateb (am nawr). Ymysg yr enghreifftiau EIF presennol o’r adnoddau hyn mae adnoddau cynllunio, matricsau aeddfedrwydd, canllawiau comisiynwyr, briffiau, weminarau ac – yn fwy uchelgeisiol na’r gweddill i gyd – dod â’r adnoddau hyn ynghyd mewn hybiau ar-lein pwrpasol, lle gall ymarferwyr lleol ddod o hyd i amrywiaeth o wybodaeth am faes penodol o ymyrraeth gynnar, fel trawsnewid system blynyddoedd cynnar neu leihau gwrthdaro rhwng rhieni.

 

Mynd â’r dystiolaeth at ein cynulleidfaoedd

Mae’n amlwg, os ydym am i bobl ddefnyddio’r dystiolaeth, fod angen i ni ei rhoi yn eu dwylo. Mae mynd â’r dystiolaeth allan i’r byd ehangach yn hanfodol, drwy ddigwyddiadau, seminarau, gweithdai neu ddulliau eraill. Rydym wedi bod yn ceisio deall yr hyn y gellir ei gyflawni drwy’r dulliau ‘un ergyd’ yma. Rydym yn gwybod bod disgwyl i bawb newid eu harferion ar ôl digwyddiad untro yn afrealistig, ond mae’n dal i fod yn bwysig i ni ddeall yr hyn y gallwn obeithio ei gyflawni fel hyn.

Rydym wedi profi potensial hyn yn y gorffennol. Yn 2016 cyhoeddom adolygiad tystiolaeth mawr o 75 o ymyriadau gyda’r nod o gefnogi rhyngweithiadau cadarnhaol rhwng y rhiant a’r plentyn yn y blynyddoedd cynnar. Yna, i gefnogi’r adroddiad, gwnaethom gyflwyno digwyddiadau o feintiau amrywiol, gan ymgysylltu â thri chwarter o’r awdurdodau lleol.

Bu’n bosibl i ni bennu effeithiolrwydd y digwyddiadau hyn drwy gyfres o arolygon dilynol (gweler adroddiad blynyddol 2017/18 am ragor o fanylion ar y gwaith hwn). Dysgom, bedwar i chwe mis ar ôl mynychu ein cynhadledd, fod 60% o gyfranogwyr wedi dweud eu bod wedi myfyrio llawer ar eu harferion, bod 15% wedi newid eu hymddygiad yn sylweddol a bod 55% wedi newid eu hymddygiad ychydig. Gofynnom yn benodol i’n hunain a oedd mynegiant o fwriad i ddefnyddio’r dystiolaeth yn syth ar ôl digwyddiad dysgu yn trosi i mewn i weithgarwch yn y tymor hwy. Gan gydnabod cyfyngiadau data hunan-adrodd yn seiliedig ar ad-alw, codwyd ein calonnau o weld bod rhai cyfranogwyr wedi dweud bod hyn wedi digwydd. Bedwar i chwe mis ar ôl ein digwyddiadau seminar tystiolaeth, dywedodd 65% o ymatebwyr eu bod wedi defnyddio tystiolaeth EIF yn y chwe mis diwethaf, roedd 93% wedi trafod arfer gorau gyda’u cydweithwyr, ac roedd 90% wedi myfyrio ar eu harferion eu hunain.

 

Partneriaethau gyda chyrff sector a gweithlu

Weithiau, y ffordd orau o gael eich clywed yw cyfathrebu drwy a gyda’r sefydliadau y mae ein cynulleidfaoedd eisoes yn gwrando arnynt. Er enghraifft, yn ein hymdrechion i gyrraedd cynghorwyr sy’n aelodau arweiniol i blant, rydym wedi gweithio gyda’r Gymdeithas Llywodraeth Leol (CLlL) i adeiladu ein tystiolaeth i mewn i’w rhaglen dysgu a datblygu broffesiynol ac i gynhyrchu adnoddau i gynghorwyr, fel pecyn adnoddau cymorth cynnar.

 

Gweithio gyda lleoedd lleol a rhedeg rhwydweithiau

Rydym yn gweithio’n uniongyrchol gyda lleoedd lleol ac yn hwyluso rhwydweithiau’n rheolaidd, gan ddod â phobl mewn rolau tebyg ynghyd i drafod defnyddio tystiolaeth yn eu gwaith. Ein henghraifft fwyaf uchelgeisiol hyd yma yw Academi Trawsnewid y Blynyddoedd Cynnar, sy’n dod â thimau o arweinwyr systemau lleol sy’n gyfrifol am wasanaethau mamolaeth a’r blynyddoedd cynnar ynghyd o bum ardal (Dudley, Barking a Dagenham, Norfolk, Westminster, Kensington a Chelsea a Sandwell) i ddefnyddio’r dystiolaeth i archwilio dulliau gweithredu newydd, atgyfnerthu cynllunio lleol, cael mynediad i gymorth a her annibynnol, a buddsoddi mewn datblygu arweinyddiaeth. Rydym yn bwriadu gwerthuso effaith yr academi i gyfranogwyr a phrofi ymarferoldeb y model hwn fel sbardun i annog defnydd o dystiolaeth. Yn y gorffennol, rydym wedi rhedeg rhwydweithiau i arweinwyr yr heddlu sy’n ymwneud ag ymyrraeth gynnar ac ‘arloeswyr’ mewn lleihau gwrthdaro rhwng rhieni.

 

Archwilio potensial gwyddoniaeth ymddygiadol

Rydym yn dechrau arbrofi gyda’r defnydd o wyddoniaeth ymddygiadol i’n helpu i feddwl am ffyrdd o annog defnydd o’n tystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys dechrau gwaith i annog defnydd o dystiolaeth drwy archwilio agweddau ac ymddygiadau presennol cynulleidfaoedd penodol a defnyddio hyn i lywio gwaith dilynol. Er enghraifft, gwnaethom gyhoeddi canllaw yn ddiweddar i ysgolion cynradd ar ddysgu cymdeithasol ac emosiynol (SEL) yn seiliedig ar dystiolaeth, mewn partneriaeth â’r Sefydliad Gwaddol Addysgol, ac rydym wedi bod yn cydweithio ar brosiect ategol i archwilio’r rhwystrau y gallai ysgolion eu hwynebu wrth fabwysiadu ein hargymhellion. Mae ymchwil ansoddol, yn defnyddio’r model newid ymddygiad COM-B a ddatblygwyd gan yr Athro Susan Michie, wedi ein helpu i arfarnu sut mae ysgolion yn ystyried gweithgarwch SEL a’r rhwystrau canfyddedig i ddefnyddio tystiolaeth, ac i ddylunio cynllun symud gwybodaeth sy’n ymateb yn weithredol i’r canfyddiadau hyn.

Mae’r gwaith hwn wedi’i gefnogi gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) sydd â diddordeb yn ein myfyrdodau cychwynnol ar werth y math hwn o broses i’r rhwydwaith What Works. Mae’r gwaith hwn ar gam cynnar i ni, ac ni fydd y cyllid presennol yn galluogi unrhyw werthusiad difrifol o’r dulliau rydym yn eu defnyddio. Ond rydym eisoes yn gweld bod potensial go iawn i’r fethodoleg. Mae wedi ein helpu i osgoi’r trap o wneud rhagdybiaethau am yr hyn sy’n atal ysgolion rhag ymgysylltu â’r dystiolaeth SEL, a’n galluogi i deilwra ein negeseuon cyfathrebu cychwynnol i ymateb yn uniongyrchol i rai o’r rhwystrau a nodwyd.

Er enghraifft, gallem yn hawdd fod wedi rhagdybio bod angen goresgyn rhwystr ysgogiad: bod angen i ni berswadio ysgolion fod SEL yn bwysig. Fodd bynnag, rhoddodd ein gwaith ansoddol ddealltwriaeth glir i ni o’r manylion yma: bod ysgolion cynradd eisoes yn ystyried SEL yn rhywbeth pwysig iawn ac, yn hanfodol, yn rhywbeth y maent eisoes yn ei wneud, ac yn ei wneud yn dda. Mewn realiti, mae’r neges y mae angen iddi daro tant yn ymwneud â phwysigrwydd gweithrediad SEL o ansawdd uchel, a’r angen i ysgolion ymgysylltu â’r dystiolaeth. O ganlyniad, rydym nawr yn canolbwyntio ar allbynnau sy’n nodi sut beth yw ‘darparu SEL yn dda’, yn hytrach na’r rheini sy’n esbonio ‘pam mae SEL yn bwysig’.

 

Ble nesaf i ddysgu beth sy’n gweithio ar gyfer defnyddio tystiolaeth?

Dros y blynyddoedd, rydym wedi datblygu amrywiaeth o dulliau ar gyfer annog defnydd o dystiolaeth ar gyfer ymyrraeth gynnar yn  EIF, ond mae’r dulliau hyn wedi’u datblygu’n ‘fewnol’ yn bennaf, heb ddefnyddio na chyfrannu at y llenyddiaeth sy’n gysylltiedig â’r hyn sy’n gweithio o ran defnyddio tystiolaeth. Yn aml, gall fod yn anodd dod o hyd i’r adnoddau i fonitro a yw’r dulliau rydym yn eu defnyddio yn gweithio o ran newid ymddygiad a sicrhau defnydd o dystiolaeth. Mae angen i hyn newid. Rydym yn ymrwymedig i fod yn fwy ystyriol yn ein defnydd o ddulliau defnyddio tystiolaeth ac i wneud mwy i ddysgu beth sy’n gweithio orau o ran annog defnydd o dystiolaeth ymysg ein cynulleidfaoedd penodol.

Rydym o ddifrif ynghylch sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei defnyddio. Golyga hyn y bydd gweithio gyda chanolfannau What Works eraill ac academyddion sydd â diddordeb yn y defnydd o dystiolaeth yn ffocws mawr i ni dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, i sicrhau ein bod yn cyfrannu at theori ac arfer wrth gymryd y naid nesaf ymlaen.