Beth sy’n gweithio i drechu tlodi? Arbrofi gydag Incwm Sylfaenol yng Nghymru

Mae’r ‘argyfwng costau byw’ presennol wedi amlygu’r brys i ddatblygu a dod o hyd i ddulliau effeithiol o fynd i’r afael â thlodi, amcan a oedd yn sail i’r adolygiad tlodi a gyflawnwyd gennym ar ran Llywodraeth Cymru ym mis Medi 2022. Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu cynnydd o 69% yn nifer y bobl sy’n wynebu diffyg diogeledd bwyd yng Nghymru, a chynnydd o 50% yn nifer y bobl sy’n hwyr yn talu bil. Ond i lawer o bobl yng Nghymru nid yw tlodi’n broblem newydd – mae tua 25% o’r boblogaeth wedi bod yn byw mewn tlodi am y degawd diwethaf.

Un o’r atebion polisi posibl y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried ar hyn o bryd yw math o ‘drosglwyddiad arian parod’ a elwir yn ‘incwm sylfaenol’ sydd, yn syml iawn, yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl. Yn ogystal â rhoi hwb uniongyrchol i adnoddau ariannol pobl, mae potensial i’r dull hwn leddfu rhai o’r heriau emosiynol a seicolegol – megis cywilydd, stigma a phwysau meddyliol – y mae pobl yn aml yn eu profi o ganlyniad i fyw mewn tlodi neu wrth geisio cael help i ddod o hyd i ffordd allan o dlodi.

 

Cywilydd, stigma a phwysau meddyliol tlodi

Tynnwyd sylw at y profiadau hyn o gywilydd, stigma a phwysau meddyliol dro ar ôl tro yn ein hymchwil diweddar gyda phobl â phrofiad byw o dlodi, ac yn y sylfaen dystiolaeth bresennol o ran ‘profiadau bywyd‘. Un o’r ffactorau anodd a amlygwyd gan gyfranogwyr yw bod y profiadau negyddol hyn yn aml yn cael eu creu ar yr adegau pan mae pobl yn ceisio cymorth. Er enghraifft, mae prosesau ar gyfer gwneud cais am gymorth sy’n ei gwneud yn ofynnol i bobl ddangos eu bod yn ei ‘haeddu’, a phrosesau sy’n tynnu sylw at bobl am fod yn wahanol mewn rhyw ffordd, fel bwydlenni prydau ysgol sy’n wahanol i blant sy’n cael prydau ysgol am ddim o’u cymharu â’r rhai sy’n talu, i gyd yn gallu cyfrannu at deimladau o gywilydd, stigma a phwysau meddyliol. Fel y mae’r ymchwilydd tlodi blaenllaw Ruth Lister yn ein hatgoffa, mae pobl yn profi tlodi nid yn unig fel cyflwr economaidd difreintiedig ac ansicr, ond hefyd fel perthynas gymdeithasol gywilyddus a dinistriol.

Mae hyn yn bwysig nid yn unig oherwydd ei fod yn fath o ddioddefaint ynddo’i hun, ond hefyd oherwydd ei fod yn cyfrannu at iechyd meddwl gwael, sydd ynddo’i hun yn achosi tlodi. Gall newid ymddygiad pobl a’u hatal rhag manteisio ar y cymorth y mae ganddynt hawl iddo. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod tua £15biliwn o fudd-daliadau yn mynd heb eu hawlio bob blwyddyn yn y DU, ac nid yw hyn hyd yn oed yn cwmpasu mathau eraill o gymorth anariannol, megis prydau ysgol am ddim. Mae’r methiant i fanteisio ar gymorth o leiaf yn rhannol oherwydd rhwystrau systemig i fynediad, megis prosesau cymhleth, a ffactorau seicolegol sy’n troi pobl i ffwrdd, megis pwysau meddyliol, cywilydd a stigma.

 

Incwm sylfaenol: syniad ar gyfer yr oes sydd ohoni?

Un o’r syniadau polisi sydd wedi cael twf aruthrol o ran sylw dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd ei botensial, ymhlith pethau eraill, i gael gwared ar rwystrau i fanteisio ar gymorth a hefyd y stigma a all fod yn gysylltiedig â budd-daliadau prawf modd, yw’r Incwm Sylfaenol Cyffredinol. Mae hyn wedi arwain llawer o sylwebwyr i ofyn a yw Incwm Sylfaenol, sydd â’i wreiddiau mewn syniadau athronyddol o dros 500 mlynedd yn ôl, bellach yn syniad ar gyfer yr oes sydd ohoni.  Yn ei ffurf buraf dylai’r Incwm Sylfaenol Cyffredinol fod yn daliad arian parod cyfnodol a gyflwynir yn ddiamod i bawb yn unigol, heb brawf modd na gofyniad i weithio. Er mai ychydig iawn o dreialon sy’n bodloni’r diffiniad hwn yn gyfan gwbl, erbyn hyn mae tua 80 o dreialon o wahanol fathau o incwm sylfaenol yn cael eu cynnal ledled y byd. Mae rhai o’r rhain wedi bod yn agos at fod yn rhai cyffredinol, megis yn Iran lle mae pob dinesydd wedi cael trosglwyddiad arian parod diamod o tua $1.50 y dydd ers 2011 mewn cyfandaliad blynyddol, tra bod eraill wedi’u targedu’n fwy, fel B-MINCOME yn Barcelona a gynigiodd hyd at €1675 y mis am ddwy flynedd i 1000 o aelwydydd yn rhai o ardaloedd tlotaf Barcelona.

 

Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol Cymru

Yn nes adref yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru, dan arweiniad y Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dod yn un o’r awdurdodau cyhoeddus diweddaraf i lansio Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol gwerth £20 miliwn a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2022, a bydd yn rhoi trosglwyddiad arian parod diamod o £1600 y mis (cyn treth) am ddwy flynedd i 500 o bobl ifanc sy’n gadael gofal ‘i’w cefnogi wrth iddynt bontio i fywyd fel oedolyn’. Mae hwn yn un o ddim ond dau dreial incwm sylfaenol erioed sydd wedi canolbwyntio ar y rhai sy’n gadael gofal. Mae pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal yn fwy tebygol o fod wedi cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso yn ystod plentyndod, ac o wynebu ystod o heriau ym yn eu bywyd fel oedolion, megis digartrefedd, cyswllt â’r system cyfiawnder troseddol, iechyd corfforol a meddyliol gwael, cyrhaeddiad addysgol isel, a diweithdra. Ac fel yr ydym wedi dangos yn ein hymchwil ein hunain, bu cynnydd sylweddol a pharhaus yng nghyfradd y plant mewn gofal yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf, ac mae gan Gymru gyfraddau uwch na gweddill y DU.

Mae cynllun peilot Cymru yn cynnig cyfle cyffrous iawn i archwilio a all Incwm Sylfaenol wella canlyniadau i bobl ifanc sy’n gadael gofal a sut mae’n rhyngweithio â’r ystod ehangach o gymorth sy’n cael ei gynnig i’r rhai sy’n gadael gofal yng Nghymru. Yn allweddol i hyn fydd gwerthuso a monitro’r cynllun, sy’n cael ei arwain gan gyn Gomisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland, sydd bellach yn gweithio yn CASCADE, canolfan ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd a chymydog Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn SBARC, parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol newydd Caerdydd.

 

Ymuno â Chynllun Peilot Incwm Sylfaenol Cymru ynghyd ag ymchwil a thystiolaeth ryngwladol

Er mwyn sicrhau y gall y tîm gwerthuso ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwyd o dreialon incwm sylfaenol blaenorol, yn ogystal â gwerthusiadau o fathau eraill o gymorth i’r rhai sy’n gadael gofal, cynhaliodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gynhadledd ar 15 Rhagfyr 2022. Roedd hyn yn cynnwys siaradwyr o Lywodraeth Cymru, CASCADE ac arbenigwyr gan gynnwys yr Athro Syr Michael Marmot, yr Athro Guy Standing, yn ogystal â sefydliadau sy’n rhan o dreialon mentrau incwm sylfaenol, megis Sefydliad Young, GiveDirectly ac RSA, a’r Ganolfan Tystiolaeth a Gweithredu, sy’n canolbwyntio ar dystiolaeth ar gyfer ymyriadau i’r rhai sy’n gadael gofal. Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i’r gymuned ymchwil ehangach ddysgu am y cynllun peilot yng Nghymru a’r gwaith o’i werthuso.

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad neu am waith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar drechu tlodi, cysylltwch ag Amanda Hill-Dixon, Uwch-gymrawd Ymchwil.