Amanda Hill-Dixon

Teitl swydd Uwch-gymrawd Ymchwil
Sefydliad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Ebost cyswllt amanda.hill-dixon@wcpp.org.uk
Rhif ffôn 02922512047

Mae Amanda yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Mae ei rôl yn cynnwys datblygu ac arwain ymchwil i gynhyrchu tystiolaeth ddefnyddiol ac effeithiol ar gyfer llunwyr polisi Cymru ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus.

Mae gan Amanda gefndir mewn datblygu ymchwil gymdeithasol i wella, newid neu darfu ar arfer a pholisi. Cyn ymuno â’r Ganolfan, roedd Amanda yn Uwch-ymchwilydd yn The Young Foundation lle datblygodd ac arweiniodd amrywiaeth o brosiectau ymchwil polisi cymdeithasol cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys:

  • Dylunio a chreu’r Mynegai Lles Cymunedol gyda Co-op, mesur cyntaf y DU o les cymunedol ar lefel cymdogaeth.
  • B-MINCOME: ymchwiliad ethnograffig dwy flynedd manwl o brofiadau B-MINCOME, treial radical o isafswm incwm gwarantedig yn Barcelona.
  • Creu canllaw ar gyfer adeiladu a chryfhau cymunedau iach mewn lleoedd newydd fel rhan o brosiect y GIG Trefi Newydd Iach.

Yn ogystal, roedd Amanda yn Arweinydd Academaidd ac Ymchwil yn Project Oracle (Centre for Youth Impact bellach) ac yn Ymgynghorydd yn Cordis Bright. Yn y rolau hyn bu’n gweithio ar ystod eang o brosiectau ymchwil a gwerthuso dulliau cymysg yn ymwneud ag addysg, gwasanaethau plant ac ieuenctid, gofal cymdeithasol, a mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, gan gynnwys ar gyfer yr Adran Addysg, y Gronfa Loteri Fawr, Refuge, Cymorth i Fenywod a Llywodraeth Cymru.

Mae gan Amanda MSc mewn Ymchwil Polisi Cymdeithasol o Ysgol Economeg Llundain, TAR mewn addysg uwchradd (hanes) o Sefydliad Addysg Coleg Prifysgol Llundain, a BA (Anrh) mewn Hanes o Brifysgol Caergrawnt.

Tagiau