Plant sy’n derbyn gofal

Statws prosiect Ar Waith

Bu’r cynnydd sylweddol a pharhaus yng nghyfradd y plant sydd mewn gofal yng Nghymru yn ystod y 25 mlynedd diwethaf yn destun pryder o safbwynt polisi.

Gwelwyd cynnydd yn nifer a chyfradd y plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru.  Mae’r gyfradd bellach yn uwch nag ar unrhyw adeg ers y 1980au. Yn ogystal, bu gan Gymru fwy o blant yn gyson yn derbyn gofal fesul 10,000 o’r boblogaeth na gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r duedd hon yn destun pryder; yn enwedig yr effaith ar ganlyniadau plant sy’n cael eu cymryd i ofal o ran cyrhaeddiad addysgol, iechyd, diweithdra, digartrefedd a chyfiawnder troseddol. Ar ben hynny, disgwylir bod pandemig Covid-19 wedi gwaethygu’r sefyllfa.

Cyhoeddodd y Ganolfan nodyn briffio (Plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru – Tueddiadau) yn disgrifio’r tueddiadau sy’n gysylltiedig â phlant sy’n derbyn gofal yng Nghymru ar lefel genedlaethol a lleol.

Rydym hefyd wedi datblygu adroddiad sy’n crynhoi’r llenyddiaeth ar farn plant a phobl ifanc am y system ofal ac yn nodi canfyddiadau allweddol comisiynwyr yng Nghymru. Gwnaed y gwaith hwn gyda’r ddealltwriaeth bod gan blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, yn ogystal â’u teuluoedd, bersbectif unigryw ar y system ofal. At hynny, mae mabwysiadu dull gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn mynnu bod cyrff cyhoeddus yn ceisio barn plant a phobl ifanc ac yn eu cymryd i ystyriaeth mewn prosesau gwneud penderfyniadau.

 

Rydym ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i archwilio pam ceir amrywiadau yng nghyfraddau’r plant sy’n derbyn gofal ledled Cymru.

Er bod y rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer a chyfradd y plant sy’n derbyn gofal, mae amrywiad sylweddol; ac mae rhai wedi profi gostyngiad yng nghyfradd y plant sy’n derbyn gofal ers 2014.

Gan ddefnyddio data cyhoeddedig, datblygwyd nifer o sesiynau briffio (Plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru: ffactorau sy’n cyfrannu at amrywiad cyfraddau, Plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru – Y llif i mewn ac allan o’r System Ofal yng Nghymru) yn archwilio’r ffactorau sy’n gyrru’r tueddiadau hyn. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod ffactorau sy’n gysylltiedig â nodweddion y boblogaeth; gwahaniaethau polisi ac ymarfer; rôl capasiti rhianta ac adnoddau yn egluro rhywfaint ar yr amrywiadau ar lefel leol.

Mae’r Ganolfan hefyd wedi ffurfio partneriaeth â CASCADE i gynnal arolwg o’r gweithlu gofal cymdeithasol plant yng Nghymru i archwilio sut mae ymarfer yn gyrru amrywiadau ledled Cymru. Ymatebodd gweithwyr cymdeithasol, rheolwyr, penaethiaid gwasanaethau a chyfarwyddwyr i arolwg a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â phenaethiaid gwasanaethau plant, Gofal Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru, oedd yn mynd i’r afael â’r meysydd pwnc canlynol:

  • Pa ffactorau mae gweithwyr cymdeithasol ac uwch-reolwyr yn tybio sy’n dylanwadu ar gyfraddau gofal ledled Cymru.
  • A oes amrywiad yn y gwerthoedd, y penderfyniadau a wneir, safbwyntiau, ac arfer sefydliadol ac arweinyddiaeth mewn awdurdodau lleol sydd â gwahanol newidiadau mewn cyfraddau (cynyddu, sefydlog, gostwng), a rhwng gweithwyr cymdeithasol ac uwch-reolwyr yn yr awdurdodau lleol hynny.
  • Effaith pandemig COVID-19 ar asesiadau risg ac ymarfer.

Mae adroddiad arolwg ar y gweill.

 

Mae’r Ganolfan wedi archwilio dulliau o reoli darpariaeth lleoliadau a sut gall gwaith amlasiantaeth mewn gwasanaethau plant arwain at ganlyniadau cadarnhaol yng Nghymru

Buom yn gweithio gyda’r Sefydliad Gofal Cyhoeddus ym Mhrifysgol Oxford Brookes (IPC) i adolygu tystiolaeth ar ddulliau rhyngwladol o reoli darpariaeth lleoliadau ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal.

Mae’r adroddiad yn nodi pum maes allweddol lle ceir gwahaniaethau rhwng y gwledydd a astudiwyd, a fyddai’n addas i’w harchwilio ymhellach:

  1. Y cydbwysedd rhwng ailuno a sefydlogrwydd.
  2. Ymgorffori llais plant a theuluoedd mewn lleoliadau a phenderfyniadau.
  3. Y cydbwysedd rhwng darpariaeth y wladwriaeth, darpariaeth breifat a darpariaeth y trydydd sector;
  4. Y math o wasanaethau lleoli.
  5. Y dull o fynd ati i gomisiynu’n strategol.

Bydd plant a theuluoedd ‘mewn perygl’ yn rhyngweithio’n aml ag asiantaethau a gwasanaethau lluosog. Mae wedi bod yn ddyhead ers amser maith bod y cyrff hyn a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu yn cael eu cydgysylltu’n well ac, ar ben hynny, yn troi o gwmpas y bobl y maent yn ceisio eu helpu. Mae’r dyhead hwn wedi arwain at gyfres o bolisïau gan Lywodraeth Cymru sy’n ceisio hyrwyddo gwaith amlasiantaeth i gefnogi plant a theuluoedd.

Rydym wedi edrych ar y dystiolaeth ynghylch ffactorau sy’n gallu cynyddu effeithiolrwydd gwaith amlasiantaeth mewn gwasanaethau plant a’r hyn y gall yr effeithiolrwydd hwnnw ei olygu o ran canlyniadau i blant mewn gofal a’u teuluoedd.