Beth fydd sectorau’r addysg, swyddi a gwaith yng Nghymru erbyn 2035?

Addysg a gwaith yw asgwrn cefn bywydau pobl, yn ogystal â bod o’r pwys mwyaf i ddatblygiad economaidd a chymdeithasol Cymru. Mae cyflawni sero net yn gofyn am ddatblygu diwydiannau newydd, creu a newid rolau a lliniaru effeithiau diwydiannau sy’n cau.

Mae Llywodraeth Cymru, fel rhan o’i Chytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, hefyd wedi ffurfio Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru, dan gadeiryddiaeth y cyn Weinidog Jane Davidson, fel rhan o’r ymrwymiad i ‘comisiynu cyngor annibynnol i edrych ar lwybrau posibl at sero net erbyn 2035.’ Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ddarparu cymorth tystiolaeth annibynnol i’r Grŵp Her. Mae’r canlyniadau hyn yn rhan o’n sylwadau ar bumed maes her y Grŵp, ‘Sut allai addysg, swyddi a gwaith yng Nghymru edrych erbyn 2035?’ Mae papur cefndir WCPP yn rhoi crynodeb lefel uchel o rai o’r prif ystyriaethau yn y maes hwn, gan edrych ar ein papurau blaenorol i ystyried sut y gallai system sgiliau Cymru hybu pontio cyfiawn at sero net:

Mae’r papur cefndir hefyd yn cynnwys trosolwg byr ar incwm sylfaenol cyffredinol ac wythnos waith bedwar diwrnod yng nghyd-destun ailhyfforddi a dysgu sgiliau newydd, gan gydnabod eu natur gostus a’r ansicrwydd ynglŷn â’u cyfraniad at gyflawni sero net a phontio cyfiawn.

Mae’r pontio i sero net yn gofyn am ddatblygu sgiliau cyffredinol, gwyrdd a diwydiant. Er bod tystiolaeth y bydd hyn yn creu mwy o swyddi a chynnydd yn y galw am sgiliau technegol, mae gan Gymru nifer uchel o weithwyr sgiliau isel a chyfradd gyfranogi mewn addysg bellach sy’n gostwng. Mae hyn, ynghyd â’r ffaith bod economi Cymru wedi cael ei ffurfio gan ei hanes diwydiannol, yn golygu bod angen ystyriaeth ofalus i gyflawni targedau datgarboneiddio ac ar yr un pryd amddiffyn gweithwyr a phontio cyfiawn.