Tegwch ym maes addysg drydyddol

Mae dysgu ôl-orfodol yn gysylltiedig ag ystod o ganlyniadau bywyd cadarnhaol megis gwell cyfleoedd cyflogaeth, enillion uwch a gwell lles. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn awgrymu bod sawl anghydraddoldeb ynghlwm wrth gyrchu addysg drydyddol a sicrhau dilyniant deilliannau o addysg drydyddol ymhlith grwpiau gwahanol.

Er mwyn mynd i’r afael â’r mathau hyn o anghydraddoldeb ac i ddarparu dull system gyfan o ymdrin ag addysg ôl-orfodol, mae Llywodraeth Cymru wrthi’n creu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER),a fydd yn cyllido, yn goruchwylio ac yn rheoleiddio holl addysg ôl-16 yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddarparu tystiolaeth i gefnogi’r Comisiwn i fodloni ei ddyletswydd, sef hyrwyddo cyfle cyfartal yn y sector addysg drydyddol yng Nghymru.

Deellir bod cyfle cyfartal yn cynnwys y broses o gynyddu a chadw cyfranogiad, lleihau bylchau cyrhaeddiad a chefnogi myfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Yn ogystal, bydd yn ofynnol i’r Comisiwn reoleiddio darparwyr i ddatblygu a chyflawni deilliannau mesuradwy sy’n ymwneud â gwella cyfle cyfartal.

Gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru fynd i’r afael â’r cwestiynau allweddol canlynol:

  1. Pa grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ym myd addysg drydyddol yng Nghymru ar hyn o bryd, gan ddefnyddio’r data gorau sydd ar gael?
  2. Pa dystiolaeth sydd ar gael gan wledydd eraill y DU ac Iwerddon ar yr hyn sy’n gweithio o ran hyrwyddo tegwch mewn addysg drydyddol?
  3. Pa ymyraethau allai unioni’r mathau hyn o anghydraddoldeb orau?

Rydym yn gweithio gydag YDG Cymru i gynnal ymchwil i ganfod pa grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd ac ym mha ffordd, a hynny drwy werthusiad carfan o ddysgwyr. Yn achos cwestiwn 2 rydym wedi cynnal adolygiad cyflym o’r dystiolaeth ynghylch ymyraethau mewn lleoedd eraill yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon, gan edrych ar yr hyn sydd wedi gweithio mewn lleoedd eraill ac y gellid eu gweithredu neu eu haddasu yng Nghymru. I ateb cwestiwn 3, byddwn yn gwahodd ystod o feddylwyr blaenllaw i fyfyrio ar y canfyddiadau yn sgil dadansoddi’r data ac adolygu’r dystiolaeth a byddant yn rhannu eu barn ar yr ymyraethau a allai leihau orau anghydraddoldeb ym maes addysg drydyddol yng Nghymru.

Dechreuodd y prosiect hwn yn 2022, a bydd yr allbynnau’n cael eu cyhoeddi ddechrau 2024.