Gwella Canlyniadau Iechyd a Chyflogaeth

Statws prosiect Cwblhawyd

Er bod diweithdra’n isel yng Nghymru ar hyn o bryd o gymharu â’r degawdau diwethaf, mae anweithgarwch economaidd oherwydd salwch yn dal i fod yn uchel. Er mwyn cydnabod hyn, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i helpu pobl i aros yn y gwaith a dychwelyd i’r gwaith. Mae tystiolaeth yn awgrymu mai’r ffordd fwyaf effeithiol o wneud hyn yw rhoi cymorth sy’n integreiddio gwasanaethau iechyd a chyflogaeth.

Aeth y prosiect hwn ati i adolygu’r hyn sy’n hysbys am wneud hyn yn effeithiol; gan ganolbwyntio ar y ddau gyflwr iechyd mwyaf cyffredin sy’n cyfyngu ar allu pobl i weithio: salwch meddwl ac anhwylderau cyhyrysgerbydol.