Amrywiaeth mewn Recriwtio

Statws prosiect Ar Waith

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) gefnogi ei gwaith ar gynyddu’r gyfran y bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ac anabl sy’n cael eu penodi, er mwyn cywiro’r gynrychiolaeth anghyfrannol bresennol yng ngweithlu Llywodraeth Cymru. .

Yn benodol, mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb yn y meysydd recriwtio canlynol:

  • Bod yn gyfarwydd â modelau o gyfweld ac asesu gwahanol a ddefnyddir gan sefydliadau eraill o fewn a thu hwnt i wasanaeth cyhoeddus Cymru;
  • Bod yn gyfarwydd o ddulliau eraill o hysbysebu swyddi, allgymorth, a’r modd o gyfathrebu’r rolau a manylion y sefydliad: ac i
  • Ddeall y defnydd o weithredai positif, gan gynnwys cynlluniau sy’n gwarantu cyfweliad ar draws ystod o nodweddion gwarchodedig, wrth recriwtio a phenodi ymgeiswyr.

Mae’r WCPP wedi cynnal adolygiadau tystiolaeth a chyfarfodydd bord gron i edrych ar ffyrdd o annog amrywiaeth wrth recriwtio. Nid yw’r adolygiadau hyn wedi edrych yn benodol ar recriwtio i’r gwasanaeth sifil na’r gwasanaeth cyhoeddus ehangach yng Nghymru, ar wahân i benodiadau cyhoeddus lefel uchel, ond maent yn cynnwys tystiolaeth y gellir ei throsglwyddo i’r cyd-destunau hyn.

I gefnogi ac ychwanegu at y dystiolaeth y mae’r WCPP wedi’i chasglu eisoes, rydym yn cynnal digwyddiad bord gron i Lywodraeth Cymru ddod ag arbenigedd academaidd ac ymarfer yn seiliedig a’r arbenigedd ynghyd a fydd yn canolbwyntio ar y tri maes a’i hamlinellir uchod. Byddai’r ford gron yn cael ei chynnal yng nghyd-destun ymrwymiadau presennol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys defnyddio’r model cymdeithasol o anabledd; ymrwymiadau recriwtio a wnaed yng Nghynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru; a newidiadau i arferion recriwtio sydd eisoes wedi’u gwneud.

Bydd pwyntiau allweddol o’r ford gron yn cael eu crynhoi i nodyn briffio byr a fydd WCPP yn ei baratoi a’i gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.