Rôl 12 mis newydd i Steve Martin

Dros y 12 mis nesaf, bydd ein Cyfarwyddwr, yr Athro Steve Martin, yn camu’n ôl o arwain y Ganolfan o ddydd i ddydd er mwyn iddo allu gweithio gyda chydweithwyr i ddatblygu dealltwriaeth o ddulliau llwyddiannus o gefnogi’r gwaith o lunio polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Gyda chefnogaeth ein cyllidwyr – Llywodraeth Cymru, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Phrifysgol Caerdydd – bydd Steve yn gweithio gydag ymchwilwyr, cyllidwyr ymchwil a chanolfannau tystiolaeth eraill i ddwyn ynghyd a rhannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu dros y deng mlynedd diwethaf.

Mae ein Cyfarwyddwr Ymchwil, yr Athro James Downe, wedi cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Dros Dro am y 12 mis nesaf a bydd yn gyfrifol am arwain y Ganolfan o ddydd i ddydd gyda chefnogaeth uwch-gydweithwyr eraill.

Dywedodd Steve Martin, “Rydyn ni’n dathlu degfed pen-blwydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru fis nesaf. Rwy’n falch o’n cyfraniad at bolisi cyhoeddus Cymru ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o gam nesaf gwaith y Ganolfan o ddarparu tystiolaeth awdurdodol i arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus a gweinidogion ar rai o’r heriau mwyaf dybryd sy’n wynebu Cymru.

“Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i dreulio amser yn rhannu’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu dros y deng mlynedd a chyfnewid profiadau gyda chydweithwyr sy’n gwneud gwaith tebyg mewn rhannau eraill o’r DU ac yn rhyngwladol. Mae’r Ganolfan ar sylfaen gref iawn gyda chyllid ar gael am y pum mlynedd nesaf a grŵp gwych o staff ymroddedig, ac rwy’n gwybod y bydd mewn dwylo da iawn gyda James a gweddill ein tîm rheoli dros y 12 mis nesaf.”

Ychwanegodd James Downe, “Rwy’n edrych ymlaen at ymgymryd â’r her newydd hon a pharhau ag ymgyrch Steve i sicrhau bod Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn rhoi tystiolaeth i lunwyr polisïau Cymru a fydd yn gallu eu helpu i fynd i’r afael â’u blaenoriaethau allweddol dros y flwyddyn nesaf.”

 

Tagiau