Mae angen gweithredu’n gyflym ac yn barhaus i gynyddu capasiti cynhyrchu trydan Cymru   

‘Bydd cyrraedd targedau 2035 o ran cynhyrchu ynni yn gofyn am fwy na dyblu’r gyfradd adeiladu seilwaith ynni orau a gyflawnwyd yn ystod y 60 mlynedd diwethaf, a chynnal hynny dros 12 mlynedd.’

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyflwyno ei dystiolaeth i ail her Grŵp Her Sero Net Cymru 2035, “Sut gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni erbyn 2035 wrth roi’r gorau i ddefnyddio tanwyddau ffosil yn raddol?”

Cefndir

Disgwylir i’r galw am drydan gynyddu’n sylweddol gyda’r newid i sero net – hyd at 50% yn uwch na’r lefelau cyn Covid erbyn 2035, a 100% yn uwch erbyn 2050 (CCC, 2023).

Canfyddiadau

Mae ein briff polisi gan Jack Price yn dangos, er bod cyrraedd targed sero net o 2035 yn dal yn gyraeddadwy yn y maes hwn, y bydd angen ‘gweithredu cyflym, ar raddfa fawr ac yn barhaus’ i gynyddu ei gapasiti i ddiwallu’r galw am drydan, sef ffocws yr adolygiad hwn. Mewn gwirionedd bydd yn golygu mwy na dyblu’r gyfradd adeiladu seilwaith ynni orau a gyflawnwyd yn ystod y 60 mlynedd diwethaf, a chynnal hynny dros 12 mlynedd.

Bydd angen i gapasiti cynhyrchu ychwanegol adlewyrchu’r cynnydd a ragwelir yn y galw am drydan mewn meysydd fel gwres, trafnidiaeth a thrydaneiddio diwydiannol, digideiddio’r economi a newidiadau demograffig.

Mae’r adolygiad o dystiolaeth yn canfod enghreifftiau lle mae gwledydd eraill fel yr Iseldiroedd, y Ffindir a’r Unol Daleithiau wedi cyflymu prosesau cynllunio er mwyn cyflymu’r gwaith o adeiladu seilwaith ynni adnewyddadwy. Rydym yn argymell:

  • Gellid symleiddio agweddau ar system gynllunio Cymru dros dro, yn unol ag uchelgeisiau’r Bil Seilwaith, wrth i’r Bil hwnnw fynd drwy’r Senedd.
  • Gellid datblygu ymhellach ardaloedd sydd wedi’u hasesu ymlaen llaw ar gyfer ynni gwynt yng Nghymru.
  • Dylai ymgysylltu â’r cyhoedd fod yn ystyrlon, yn gyfranogol ac yn cael ei arwain gan ddinasyddion lle bo hynny’n bosibl, a dylai ddechrau’n gynnar yn y broses gynllunio.
  • Gallai Cymru ddefnyddio offer digidol tebyg i FAST-41 yn yr Unol Daleithiau i gynyddu tryloywder prosiectau ac ymgysylltu â’r cyhoedd.
  • Ni ddylai gweithdrefnau a fwriedir i annog defnydd cyflym greu rhwystrau gweinyddol newydd yn anfwriadol ar lefelau eraill o’r system gynllunio.

Cyfleoedd i Gymru

Mae’r dystiolaeth hefyd yn dangos bod cyfleoedd i Gymru, gan gynnwys:

  • Potensial ynni morol helaeth Cymru, ardal a allai alluogi Cymru i fod ar flaen y gad mewn datblygiadau newydd gan gynnwys gwynt arnofiol y môr a môr-lynnoedd llanw, gyda chymorth y llywodraeth.
  • Gallai Trawsfynydd, pe byddai’n cael ei ddewis ar gyfer defnyddio adweithyddion modiwlaidd bach, gynhyrchu sgiliau ac arbenigedd newydd a allai roi proffil sgiliau byd-eang i Gymru
  • Gallai cysylltiad trosglwyddo ynni rhwng y gogledd a’r de ddarparu datblygiad economaidd a gallai gweithlu tanwydd ffosil medrus Cymru chwarae rhan allweddol yn y newid hwn.
  • Gallai seilwaith a swyddi adnewyddadwy gael eu dosbarthu’n fwy cyfartal ledled Cymru, gan helpu i gadw’r boblogaeth oedran gweithio iau.

Gan gydnabod pwysigrwydd canolog ynni i’n heconomi a’n cymdeithas, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn galw am feddwl cydgysylltiedig a hirdymor ynghylch sut i reoli’r trawsnewidiad ynni – gan gydnabod yr angen am ymgysylltu â’r cyhoedd a newid ymddygiad.

Dywedodd awdur y briff polisi, Dr Jack Price o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, “Bydd datgarboneiddio’r system drydan erbyn 2035 yn gofyn am lefel anferthol o ddatblygu seilwaith, llawer mwy nag unrhyw beth rydym wedi llwyddo i’w gyflawni yn ystod y 50 mlynedd diwethaf.

“Felly, bydd cyflymu’r broses o wneud penderfyniadau mewn achosion cynllunio a chefnogi’r gwaith o gyflwyno capasiti ychwanegol mewn meysydd datganoledig yn hanfodol. Nid yw trydan wedi’i ddatganoli’n llawn a bydd angen i Gymru weithio’n agos gyda llywodraeth y DU, Ofgem a’r Gweithredwr System Trydan i gyflawni ei nodau.”

Ychwanegodd Cadeirydd Grŵp Her 2035 Sero Net Cymru, Jane Davidson, “Bydd datgarboneiddio system drydan Cymru drwy symud at gynhyrchu trydan carbon isel a di-garbon a thrydaneiddio prosesau gwres, trafnidiaeth a diwydiannol yn rhan hanfodol o gyflymu’r camau gweithredu yma sy’n gymesur â gwyddor yr hinsawdd.

“Mae ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru am wledydd eraill yn dangos y gall newidiadau i broses gynllunio a chaniatáu Cymru gyflymu cynnydd yn y maes hwn yn sylweddol. Byddwn yn edrych ar y dystiolaeth bwysig hon o ddifrif wrth i ni barhau â’n hadolygiad. ”