CPCC i gymorthwyo Grwp Herio Net Sero Cymru 2035

Bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cefnogi gwaith grŵp newydd, Cymru sero Net 2035, wrth ddefnyddio ymchwil ar sail tystiolaeth er mwyn darganfod sut gall Cymru cyflymu ei thrawsnewidiad i Sero Net.

Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi gwahodd ar y cyd, grŵp annibynnol sydd yn cael ei chadeirio gan cyn Gweindiog yr Amgylchedd, Jane Davidson, er mwyn benderfynu a fydd newid y targed yng Nghymru i 2035 o 2050 yn bosib.

Mae’r byd yn profi effeithiau trychinebus yr argyfwng hinsawdd ac nid ydym ar y trywydd iawn i osgoi effeithiau pellach a gall gael effaith negyddol ar ein hansawdd bywyd.

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd gan wyddonwyr blaenllaw “ein rhybudd terfynol”. Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ar y cyd wedi gwahodd grŵp annibynnol i archwilio sut y gall y wlad gyflymu ei throsglwyddiad i sero net, a sut y gallai fod yn bosibl diwygio ei tharged i 2035 o 2050 ymlaen.

Tasg y ‘Grŵp’, dan arweiniad y cyn Gweinidog Amgylchedd, Jane Davidson, yw:
• Darganfod a chyflwyno enghreifftiau gorau o newid trawsffurfiol o Gymru ac ar draws y byd.
• Herio llywodraeth Cymru a’r Senedd i fynd ymhellach a chyflymach;
• Dychmygu beth fydd Cymru deg a chynaliadwy yn edrych fel yn y dyfodol

Mae Dan Bristow, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer yn y Ganolfan yn arwain gwaith CPCC yn y grŵp. Dywed, ‘Mae Cynaliadwyedd yr amgylchedd yn flaenoriaeth yn ein gwaith ymchwil fel rhan o fwriad Cymru i greu dyfodol llewyrchus.

“Mae’r tîm yn edrych ymlaen at ddarparu’r grŵp newydd gydag ymchwil o safon uwch a chymorth annibynnol i gynorthwyo penderfyniad polisi a’i ganlyniadau.

Dywedodd y Cadeirydd, Jane Davidson:
“Mae sefydlu’r grŵp her yn dangos bod Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn “deall” difrifoldeb y sefyllfa fyd-eang a chymryd y camau i leihau’r effeithiau a pharatoi ar gyfer y dyfodol o ddifri.”

Mae’r grŵp yn chwilio am yr atebion mwyaf dychmygus er mwyn cyflwyno cynlluniau cyflawni sero net, rhwng 2025 a 2035.

Bydd y grŵp yn chwilio am safbwyntiau o Gymru a’r byd; creu casgliadau drafft yn gyhoeddus i’w rhoi ar brawf yn agored yng Nghymru a thu hwnt, cyn rhoi argymhellion i Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn Haf 2024.

Ewch i wefan y grŵp i gyflwyno tystiolaeth.

Bydd y Grŵp cyfathrebu efo’r Cymry, ei chymunedau a’r byd i wrando ar eu profiadau a’u syniadau, yn ystod cyfnod heriau allweddol.

Yr her gyntaf, sy’n cael ei lansio heddiw yw, Sut gallai Cymru fwydo’i hun erbyn 2035?

Mae’r Grŵp yn cynnwys 25 o aelodau annibynnol, di-dâl ac yn cynnwys cynrychiolwyr o Senedd Ieuenctid Cymru.

Y pum Her Net Sero 2035 yw:
1. Sut gallai Cymru fwydo ei hun erbyn 2035?
2. Sut y gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni erbyn 2035 a gwahardd tanwydd ffosil yn raddol?
3. Sut y gallai Cymru gynhesu ac adeiladu cartrefi a gweithleoedd erbyn 2035?
4. Sut y gellid cysylltu pobl ac ardaloedd ar draws Cymru erbyn 2035?
5. Sut gallai addysg, swyddi a gwaith edrych ar draws Cymru erbyn 2035?

Tagiau