Angen polisïau newydd i atal yr effaith gostyngiad y boblogaeth ar economi Cymru

Angen gwahanol bolisïau i gynyddu ffrwythlondeb, cadw a denu pobl o oedran gweithio i atal yr effaith sylweddol y mae poblogaeth sy’n heneiddio a’r gostyngiad posibl yn y boblogaeth yn ei chael ar economi Cymru 

Gyda phoblogaeth Cymru’n heneiddio, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi adolygu dulliau rhyngwladol o ymdrin â’r duedd hon ac wedi canfod y gallai gwahanol bolisïau i gynyddu ffrwythlondeb, cadw a denu pobl, helpu i leihau her economaidd fawr.

Mae tueddiadau mewn ffrwythlondeb a marwolaethau yng Nghymru wedi arwain at gynnydd yn nifer y marwolaethau  o gymharu â’r nifer o enedigaethau ers 2015/16 yng Nghymru. Syrthiodd Cyfanswm y Gyfradd Ffrwythlondeb yng Nghymru yn is na’r gyfradd amnewid (o 2.1) yn 1974 ac mae wedi aros yno ers hynny, gyda dim ond 1.5 genedigaeth i bob menyw yn 2021.

Rhagwelir y bydd gan boblogaeth Cymru gyfran gynyddol o bobl oedrannus, a chyfran sy’n gostwng yn araf o bobl o oedran gweithio, a chyfran sy’n gostwng o bobl ifanc. Mae perygl gwirioneddol o ostyngiad yn y boblogaeth, yn enwedig ymhlith y poblogaethau iau a’r rhai sydd o oedran gweithio yn enwedig os yw niferoedd mewnfudo yn gostwng.

Mae’r cyfuniad hwn o ffactorau’n peri risgiau sylweddol i les economaidd a chyllidol Cymru. Gallai’r effeithiau hyn gynnwys newidiadau yn y galw am nwyddau a gwasanaethau, fel gwasanaethau cyhoeddus, gweithlu sy’n crebachu, sylfaen drethu is, a llai o grant bloc gan Drysorlys y DU.

Nid yw’r duedd o boblogaeth sy’n heneiddio a’r risg o ostyngiad yn y boblogaeth yn unigryw i Gymru. Mae llawer o wledydd, fel yr Eidal a gwledydd Ewropeaidd eraill a Japan, wedi dechrau arbrofi gydag amrywiaeth o bolisïau i ymateb i’r tueddiadau hyn.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynnal adolygiad a synthesis o’r dystiolaeth orau sydd ar gael ar sut mae gwledydd eraill yn ymateb i heriau cyllidol yn sgil heneiddio a gostyngiad yn y boblogaeth, yn enwedig o ran polisïau i gynnal a chynyddu maint y poblogaethau ifanc ac oedran gweithio. Roedd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar dri ymateb allweddol i’r posibilrwydd o boblogaeth sy’n heneiddio a gostyngiad yn y boblogaeth:

  • Galluogi ac annog ffrwythlondeb
  • Dal gafael ar bobl, yn enwedig gweithwyr ifanc a medrus
  • Denu mewnfudwyr, yn enwedig gweithwyr ifanc a medrus

Un o brif ganfyddiadau’r adroddiad yw mai polisïau sy’n ffafrio teuluoedd, sy’n annog pobl i wneud y dewis i gael plant, fel absenoldeb ar gyfer rhieni a gofal plant, sydd â’r sylfaen dystiolaeth gryfaf mewn perthynas â hybu ffrwythlondeb. Fodd bynnag, dim ond dros y tymor hir y bydd polisïau o’r fath yn cael yr effaith a ddymunir, a dim ond os bydd y plant hynny’n penderfynu aros yng Nghymru i weithio. Gan hynny, bydd cadw pobl a mewnfudo hefyd yn allweddol.

Meddai Amanda Hill-Dixon, Uwch Gymrawd Ymchwil Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru: “Mae ein hadolygiad o’r dystiolaeth wedi dangos bod camau pendant y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i liniaru’r duedd o heneiddio a’r gostyngiad yn y boblogaeth yng Nghymru.

“Mae poblogaeth Cymru yn newid gyda nifer genedigaethau’n gostwng a phoblogaeth sy’n heneiddio. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus yn ystyried yr effaith y gallai’r tueddiadau hyn ei chael ar yr economi, yn ogystal ag ar wasanaethau cyhoeddus a chymunedau.

“Er bod y newidiadau hyn yn cynnig cyfleoedd posibl, megis llai o bwysau amgylcheddol, mae risgiau sylweddol i’w hystyried hefyd megis sylfaen drethu is a mwy o alw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Buom yn edrych ar y sylfaen dystiolaeth sy’n gysylltiedig â dulliau rhyngwladol o hybu maint y boblogaeth, y sylfaen dreth yn y dyfodol a’r gweithlu.

“Mae dulliau gwledydd eraill o hybu ffrwythlondeb, yn fras, yn dilyn dau lwybr: mesurau economaidd-gymdeithasol, sy’n annog  rhieni i wneud y dewis i gael plant, fel taliadau babanod, absenoldeb ar gyfer rhieni, a darpariaeth gofal plant; ac ymyriadau meddygol sydd wedi’u cynllunio i sicrhau bod rhieni’n gallu cael plant yn gorfforol unwaith y byddant wedi gwneud y dewis, fel Therapi Atgenhedlu â Chymorth. Yn y naill achos neu’r llall, dylai polisi ganolbwyntio ar alluogi pobl i gael y nifer o blant y maent yn eu dymuno.

“Yn gyffredinol, mae’r gwaith a wnaed i werthuso polisïau ar gyfer teuluoedd ledled y byd yn awgrymu mai ychydig o effaith hirdymor a gaiff cymhellion cyn-geni untro fel taliadau babanod ar gyfraddau ffrwythlondeb ond y gall ‘gwahanol bolisïau’ o ymyriadau ategol sy’n ystyriol o deuluoedd, fel cymorth gofal plant, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, trefniadau gweithio hyblyg, gael effaith sylweddol.

“Fodd bynnag, bydd unrhyw gynnydd i’r gyfradd ffrwythlondeb yng Nghymru yn cymryd nifer o flynyddoedd i gael yr effaith a ddymunir ar y sylfaen dreth a dim ond os bydd y plant hynny’n penderfynu aros yng Nghymru i weithio. Felly, mae cadw poblogaeth a denu mewnfudwyr yn allweddol.

“O ran cadw poblogaethau ifanc ac oedran gweithio yng Nghymru, gallai cynlluniau cadw graddedigion ganolbwyntio ar leoliadau gwaith ac ar symleiddio prosesau denu a chadw. Mae gan Awdurdodau Lleol rôl i’w chwarae hefyd wrth ddenu pobl i’w hardaloedd drwy grantiau adleoli a chymhellion eraill, a thrwy helpu i ddatblygu’r canlynol, fel swyddi, tai, gwasanaethau cyhoeddus a hamdden.

“Byddai’n ddoeth hefyd cynnwys llawer o randdeiliaid wrth baratoi cynlluniau ailboblogi er mwyn gweld yn well ble a pha grwpiau sydd eu hangen ar yr economi leol.

“Mae ein hadolygiad o’r dystiolaeth wedi dangos bod camau pendant y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i wella i ba raddau y mae cymunedau Cymru yn llefydd y mae pobl eisiau ac yn gallu cael plant, ond hefyd lle mae pobl eisiau aros drwy gydol eu bywydau gwaith.”