Cynhadledd Flynyddol CLILC 2023 – Digwyddiad ymylol
Mae’r argyfwng costau byw yn her fawr i’n cymunedau ac mae’n taro’r tlotaf yn y gymdeithas yn arbennig o galed. Nid yw’r angen i gael cymorth o ran pethau sylfaenol fel bwyd, tanwydd a dillad erioed wedi bod yn fwy. Er enghraifft, dosbarthodd banciau bwyd rhwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell 41% yn fwy o barseli bwyd yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2023 nag yn ystod y 12 mis blaenorol. Ond mae cyllidebau cynghorau dan bwysau difrifol.
Felly yn realistig beth gallwn ni ei wneud i gefnogi cymunedau drwy’r argyfwng hwn?
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cynnull y digwyddiad ymylol a bydd panel o siaradwyr o fyd llywodraeth leol a sefydliadau ymchwil.
Bydd yn trafod:
- Beth mae cynghorau yn ei wneud i gefnogi pobl mewn tlodi?
- Beth yn fwy y gallan nhw a’u partneriaid lleol ei wneud?
- A beth rydyn ni’n ei wybod am yr hyn sy’n gweithio orau?
Cadeirydd: Dan Bristow Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cyrmu
Aelodau’r panel:
Amanda Hill-Dixon, Uwch Gymrawd Ymchwil, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd, Cyngor Bro Morgannwg
Cynghorydd, Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd, Cyngor Gwynedd
Jo Harry, Arweinydd Rhwydwaith Cymru, Trussell Trust
Bydd cyfle am gwestiynau. Ymunwch ni am y drafodaeth bwysig yma (3yp)
CLICIWCH YMA am fwy o wybodaeth am ein gwaith tlodi ac allgau cymdeithasol
CLICIWCH YMA i gael ein cylchlythyrau ebost a chyhoeddiadau
Am mwy o wybodaeth, cysylltwch a Liz Clutton, swyddog cyfathrebu CPCC tel 07736 056669 / liz.clutton@wcpp.org.uk