Dan gadeiryddiaeth yr Athro Steve Martin, Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, roedd ein panel yn cynnwys:
- Milica Kitson OBE, Prif Weithredwr, Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru
- Matthew Mortlock, Cyfarwyddwr Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru, ac arweinydd ar adroddiad diweddar y WAO i gaffael cyhoeddus yng Nghymru
- Y Cynghorydd Phil Murphy, Aelod Cabinet dros Adnoddau, Cyngor Sir Fynwy, a chyn Gadeirydd Consortiwm Pwrcasu Cymru
- John Tizard, Ymgynghorydd Strategol Annibynnol ac arbenigydd ar farchnadoedd gwasanaethau cyhoeddus
Er bod Cymru yn sylweddol llai agored i ddarpariaeth breifat ar raddfa fawr o wasanaethau cyhoeddus o’i chymharu â Lloegr, mae achos Carillion yn rhoi cyfle i bawb sy’n ymwneud â chomisiynu a darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i fyfyrio ar gaffael a chontractio allanol fel penderfyniadau gwleidyddol a strategol.
Darllenwch ein blog am adlewyrchiadau o’r digwyddiad.