Hyrwyddo Cysylltiadau Ystyrlon rhwng Tystiolaeth ac Ymarfer

Lleoliad Siambr y Cyngor, Prif Adeilad, Prifysgol Caerdydd
Dyddiad 21 Tachwedd 2019

Mae mobileiddio gwybodaeth yn ymwneud â chysylltu gwaith ymchwilwyr â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i helpu i lywio polisi cyhoeddus ac ymarfer proffesiynol. Mae’n fwy na lledaenu ymchwil mewn llif gwybodaeth unffordd yn unig. Mae’n ymwneud ag ymgysylltu, cynnwys defnyddwyr terfynol a ffocws ar effaith.

Daeth y digwyddiad hwn ag arbenigwyr mewn mobileiddio gwybodaeth ynghyd i drafod yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu, ac enghreifftiau o arfer gorau. Traddodwyd ein prif anerchiad gan yr Athro Jonathan Sharples ar ei waith ar ddefnyddio gwybodaeth yn y Sefydliad Gwaddol Addysg. Trafododd yr hyn y mae’r EEF wedi’i ddysgu hyd yma ynglŷn â sut i ddefnyddio tystiolaeth ar raddfa, gan gynnwys sut i wreiddio defnydd tystiolaeth yn y system addysg ehangach a rôl ymarferwyr wrth ddod â thystiolaeth yn fyw. Amlinellodd waith diweddar yr EEF ar weithredu, sy’n tynnu ar adroddiad canllaw diweddar, Rhoi Tystiolaeth i Weithio – Canllaw i Weithredu Ysgol.

Yna cymerodd Jonathan ran mewn trafodaeth banel gydag academyddion Parc Ymchwil Gwyddor Gymdeithasol Prifysgol Caerdydd (SPARK) gan gynnwys:

  • Dr Rhiannon Evans – Canolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ar gyfer Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer)
  • Dr Eleanor MacKillop – Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

Darllenwch fwy am y digwyddiad hwn yn ein moment Twitter.