CPCC yn 10

Lleoliad Y Senedd, Bae Caerdydd
Tocynnau Bwciwch yma
Dyddiad 6 Rhagfyr 2023

Ymunwch â’r Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, tîm Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a’n partneriaid allweddol i ddathlu degfed pen-blwydd y Ganolfan.

Cyfle i ystyried y cyfraniad y mae’r Ganolfan wedi’i wneud dros y degawd diwethaf drwy ddarparu tystiolaeth ac arbenigedd annibynnol o ansawdd uchel sy’n helpu i wella’r broses o lunio a chyflawni polisïau. Cyfle hefyd i glywed sut mae’n cefnogi llywodraeth leol a chenedlaethol i fynd i’r afael â rhai o’r heriau polisi mawr sy’n wynebu Cymru ar hyn o bryd – diogelu’r amgylchedd a chyflawni sero net, lleihau anghydraddoldebau a hyrwyddo llesiant cymunedol.

Siaradwyr i ymuno â Steve Martin, Cyfarwyddwr CPCC:

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS Prif Weinidog Cymru
Y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC ac RCT
Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, Yr Athro Wendy Larner
Dr James Canton, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus ac Ymgysylltu ESRC

Noddir y digwyddiad gan Mark Drakeford AS

Tagiau