Sut gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni erbyn 2035?

Mae ein hallbynnau yn dangos, er bod cyrraedd y targed 2035 yn gyraeddadwy, y bydd angen gweithredu’n gyflym ac ar raddfa fawr er mwyn darparu’r lefel angenrheidiol o gapasiti cynhyrchu trydan.

Bydd datgarboneiddio’r system drydan drwy symud at gynhyrchu trydan carbon isel a di-garbon a thrydaneiddio prosesau gwres, trafnidiaeth a diwydiannol yn rhan hanfodol o gyrraedd targedau sero net. Mae llywodraeth y DU wedi gosod targed ar gyfer datgarboneiddio cynhyrchu trydan erbyn 2035.

Fel rhan o’i Gytundeb Cydweithredu â Phlaid Cymru, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ‘gomisiynu cyngor annibynnol i archwilio llwybrau posibl tuag at sero net erbyn 2035’. Mewn ymateb i hyn, mae Grŵp Her Cymru Sero Net 2035 wedi cael ei ffurfio, dan gadeiryddiaeth y cyn weinidog, Jane Davidson.

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth annibynnol i’r Grŵp Her, i’w helpu i gael gafael ar dystiolaeth ac arbenigedd perthnasol i lywio eu gwaith. Mae’r allbynnau hyn yn ffurfio ein cyflwyniad ynghylch yr ail Faes Her, ‘Sut gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni erbyn 2035 wrth roi’r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil yn raddol?’

Mae ein hallbynnau yn dangos, er bod cyrraedd y targed 2035 yn gyraeddadwy, y bydd angen gweithredu’n gyflym ac ar raddfa fawr er mwyn darparu’r lefel angenrheidiol o gapasiti cynhyrchu trydan.

Mae ein gwaith ar Heriau a chyfleoedd i ddatgarboneiddio system drydan Cymru erbyn 2035 yn dangos maint yr her. Bydd angen i ni ddyblu’r gyfradd adeiladu orau o ran seilwaith ynni rydym wedi’i gyflawni yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf, a gwneud hynny bob blwyddyn dros y deuddeg mlynedd nesaf.

Bydd angen rheoli capasiti yn erbyn cynnydd yn y galw am drydan yn sgil trydaneiddio; digideiddio’r economi; a newidiadau demograffig. Gan gydnabod pwysigrwydd canolog ynni i’n heconomi a’n cymdeithas, mae’r papur yn galw am feddwl cydgysylltiedig a hirdymor ynghylch sut i reoli’r trawsnewidiad ynni.

Yn Cyflymu’r defnyddio o seilwaith ynni, rydym yn troi at y ffyrdd y gallai llywodraethau gyflymu’r gwaith o adeiladu prosiectau ynni adnewyddadwy newydd a seilwaith ynni cysylltiedig arall.

Gan adeiladu ar y Bil Seilwaith (Cymru), rydym yn ystyried astudiaethau achos o wledydd eraill sydd wedi llwyddo i gynyddu seilwaith. Mae’r rhain yn dangos gwahanol ffyrdd y gellir rhoi prosesau newydd ar waith, yn ogystal â darparu trefniadau dros dro tra bydd deddfau newydd yn cael eu pasio. Rydym hefyd yn ystyried sut i fanteisio i’r eithaf ar ymgysylltu â’r cyhoedd a’r ffordd orau o ddefnyddio hynny heb ymestyn amserlenni prosiectau’n sylweddol.

Yn gryno:

  • Mae llawer i’w wneud i ddatgarboneiddio’r system drydan, gan gynnwys lefel anferthol o ddefnyddio seilwaith;
  • Gall newidiadau i’r broses gynllunio a chaniatáu gyflymu lefel y defnydd yn sylweddol, a gwelir hynny mewn astudiaethau achos o fannau eraill; a
  • Bydd angen i unrhyw raglen ddatgarboneiddio fod ledled Prydain Fawr ac nid yn benodol i Gymru, gyda gwaith partneriaeth cryf rhwng gwahanol lefelau o’r system ynni i sicrhau bod Cymru a’r DU yn cyrraedd eu targedau datgarboneiddio.