Plant dan ofal yng Nghymru

Ar 31 Mawrth 2019, roedd yna 6,845 o blant dan ofal yng Nghymru, cynnydd pellach o 440 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. O ganlyniad, mae’r bwlch rhwng y gyfradd o blant dan ofal yng Nghymru a rhannau eraill o’r DU wedi parhau i ledu.

Yng Nghymru, er bod y mwyafrif o Awdurdodau Lleol wedi gweld cynnydd yn nifer a chyfradd y plant sy’n derbyn gofal, mae amrywiad sylweddol; ac mae rhai wedi profi gostyngiad yng nghyfradd y plant sy’n derbyn gofal ers 2014. Drwy ddefnyddio data a gyhoeddwyd, mae’r gyfres hon o friffiadau’n ystyried beth allwn ni ddweud am y ffactorau sy’n sbarduno’r tueddiadau hyn, ac yn diweddaru’r adroddiad cynharach, Dadansoddiad o Ffactorau sy’n Cyfrannu at Gyfraddau Uwch o Ofal yng Nghymru.

  1. Plant dan ofal yng Nghymru: Tueddiadau
  2. Plant dan ofal yng Nghymru: Ffactorau sy’n cyfrannu at gyfraddau amrywiol
  3. Plant dan ofal yng Nghymru: Llifoedd i mewn i ofal ac allan ohono

Darllenwch ein holl waith ar blant sy’n derbyn gofal yma.