Beth mae plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal a’u teuluoedd yn ei feddwl o ofal?

Mae gan blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn ogystal â’u teuluoedd bersbectif unigryw o’r system ofal ac mae ymgorffori eu safbwyntiau hwy mewn prosesau penderfynu yn golygu ystod o fuddiannau ehangach i gomisiynwyr.

Hefyd, mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi mabwysiadu dull gweithredu Hawliau Plant sy’n seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Yn ôl y dull hwn rhaid i gyrff cyhoeddus holi barn plant a phobl ifanc a’u hystyried mewn prosesau penderfynu.

Yn y cyd-destun hwn, mae corff cynyddol o lenyddiaeth wedi datblygu sy’n adrodd ar farn plant a phobl ifanc am y system ofal gyda’r nod o lywio polisïau ac arferion gweithio. Mae llenyddiaeth fwy cyfyngedig hefyd sy’n cyflwyno safbwyntiau rhieni biolegol.

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r llenyddiaeth hon ac mae’n nodi’r canfyddiadau allweddol canlynol i gomisiynwyr yng Nghymru.

Darllenwch ein holl waith ar blant sy’n derbyn gofal yma.