Beth gall Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ei wneud i wella llesiant o safbwynt cymunedol?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) gynhyrchu cynlluniau llesiant lleol bob pum mlynedd, ar sail asesiad o anghenion llesiant yn eu hardaloedd lleol, gan nodi amcanion llesiant a chamau arfaethedig i’w cyflawni.

Yn dilyn ein gwaith blaenorol yn 2021 yn darparu sesiynau briffio i BGCau i’w cynorthwyo gyda’u hasesiadau llesiant, yn 2022 gofynnodd Llywodraeth Cymru i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru arwain cyfres o weithdai ar gyfer BGCau am ‘beth sy’n gweithio’ mewn meysydd llesiant penodol, gyda’r nod o ddefnyddio’r dystiolaeth hon wrth greu eu cynlluniau llesiant.

Gofynnwyd i CPCC gyflwyno gweithdai mewn dau faes: tlodi a gwella llesiant o safbwynt cymunedol.

Roedd pandemig COVID-19 wedi cynyddu pryderon am unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, yn ogystal ag iechyd meddwl a llesiant cymdeithasol yn fwy cyffredinol. Tynnodd sylw at bwysigrwydd cymunedau o ran cefnogi llesiant a rhoddodd lawer o enghreifftiau o arfer da o gymunedau’n cydweithio i helpu’r rhai mwyaf agored i niwed. Cyflwynodd y gweithdy am lesiant cymunedol dystiolaeth o sawl prosiect CPCC yn ystod y pandemig am weithredu cymunedol a’r hyn y gall gwasanaethau’r sector cyhoeddus a gwirfoddol ei wneud i’w alluogi a’i gefnogi. Mae tystiolaeth yn awgrymu na ddatblygodd gweithredu cymunedol mewn gwagle yn ystod y pandemig, a bod gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddol – gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol – wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o benderfynu pa mor effeithiol yr oedd cymunedau’n gallu gweithredu mewn ymateb i’r pandemig.

Mae’r pecyn gweithdy yn rhoi crynodeb o’r gweithdy, gan gyfuno’r hyn a ddysgwyd o nifer o brosiectau ymchwil CPCC am alluogi cymunedau a gwella llesiant i gyflwyno tystiolaeth am ‘yr hyn sy’n gweithio’ a darparu argymhellion y gellir eu gweithredu ar gyfer BGCau. Mae hefyd yn rhoi trosolwg o’r drafodaeth ymhlith cyfranogwyr ar yr hyn y mae’r dystiolaeth hon yn ei olygu iddynt.