Syniadau rhanddeiliaid ar gyfer mynd i’r afael ag unigrwydd yng Nghymru drwy’r pandemig a’r tu hwnt

Ym mis Gorffennaf 2021, bu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Kaleidoscope Health and Care i gynnal rhaglen ymgysylltu amlochrog yn cynnwys rhanddeiliaid sy’n gweithio i fynd i’r afael ag unigrwydd a gwella llesiant yng Nghymru a’r tu hwnt. Roedd y rhaglen yn cynnwys digwyddiad digidol deuddydd (14 a 15 Gorffennaf) ac arolwg rhanddeiliaid. Bu’r cyfranogwyr yn myfyrio ar eu profiad o’r digwyddiad mewn cyfres o flogiau a blogiau fideo.

Nod y gwaith ymgysylltu hwn oedd arddangos gwaith sydd eisoes ar y gweill i fynd i’r afael ag unigrwydd a sut mae hyn wedi esblygu drwy’r pandemig, a hefyd i ddeall materion, blaenoriaethau, heriau ac anghenion y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i adferiad a arweinir gan lesiant.

Mae’r adroddiad o’r digwyddiad digidol yn crynhoi’r ddau ddiwrnod o drafod, lle nododd rhanddeiliaid bum maes gweithredu sy’n hanfodol i fynd i’r afael ag unigrwydd yng Nghymru drwy’r pandemig a’r tu hwnt:

  • Rôl technoleg wrth fynd i’r afael ag unigrwydd
  • Rôl cymunedau wrth fynd i’r afael ag unigrwydd
  • Profiad grwpiau sy’n agored i niwed
  • Rheoli’r pontio o Covid-19
  • Gwella cydweithio a ffyrdd o weithio ar y cyd

O dan bob maes gweithredu, cynigiodd cyfranogwyr yn y digwyddiad gyfres o syniadau ar gyfer gweithredu posibl gan randdeiliaid ledled Cymru, gan gynnwys yr angen am fynd i’r afael ag eithrio digidol, cyfuno gwasanaethau ar-lein ac all-lein wrth adfer wedi Covid-19, datblygu seilwaith i gefnogi cysylltiad cymdeithasol, gweithio gyda chymunedau i wella cynaliadwyedd gwasanaethau cymunedol sy’n cynnal llesiant, lleihau stigma trwy ailfframio unigrwydd fel profiad cyffredin a rennir, cefnogi pobl i gael mynediad i’r gwasanaethau mae arnyn nhw eu hangen, a rhannu dysgu a datblygu’r sylfaen o dystiolaeth ar yr hyn sy’n gweithio i fynd i’r afael ag unigrwydd.

Mae’r pecyn uchafbwyntiau yn crynhoi’r rhaglen ymgysylltu, gan gynnwys canlyniadau’r arolwg rhanddeiliaid, trosolwg manwl o sut datblygodd y drafodaeth dros y ddau ddiwrnod, a recordiadau o’r siaradwyr allweddol a oedd yn arddangos trawstoriad o waith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael ag unigrwydd ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Arweiniodd y rhaglen ymgysylltu hefyd at ddau flog a fideo yn crynhoi myfyrdodau personol cyfranogwyr ar y digwyddiad, yr hyn a ddysgwyd ganddyn nhw, a sut gallen nhw gymhwyso’r hyn a ddysgwyd wrth symud ymlaen. Fe glywson ni gan:

  • Rachel Gegeshiaze, Rheolwr Rhaglen Cymru, Credydau Amser Tempo
  • Simon Hewett-Avison, Cyfarwyddwr Gwasanaethau, Independent Age
  • Siân Davies, Pennaeth Rhaglenni Strategol, Mencap Cymru.
  • Alison Wood, Uwch Swyddog Ymgysylltu (unigrwydd ac ynysu cymdeithasol), Llywodraeth Cymru – gweler y blog yma
  • Lyndsay McNicholl, Rheolwr Cartrefi Gofal, Cyngor Sir Caerfyrddin – gweler y blog yma