Tystiolaeth o brofiad uniongyrchol wrth lunio polisïau anabledd

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnwys tystiolaeth o brofiad uniongyrchol wrth lunio polisïau lle bynnag y mae hynny’n bosibl. Atgyfnerthwyd yr ymrwymiad hwn wrth lunio polisïau anabledd yn dilyn cyhoeddi’r Adroddiad Drws ar Glo yn 2021.

Mae’r adroddiad hwn – a gyhoeddwyd mewn iaith syml ac mewn fformat hawdd ei ddarllen – yn ystyried rôl tystiolaeth o brofiad go iawn a chyd-gynhyrchu wrth lunio polisïau anabledd yng Nghymru yn ymarferol, ac yn mynd i’r afael â’r cwestiynau a ganlyn:

  • Pa rôl sydd i dystiolaeth sy’n seiliedig ar brofiad uniongyrchol wrth lunio polisïau sy’n gysylltiedig ag anabledd, fel y mae llunwyr polisïau, sefydliadau brocera gwybodaeth, a grwpiau ar lawr gwlad yn ei gweld?
  • Ym mha ffordd mae tystiolaeth o brofiadau uniongyrchol yn cael ei chysyniadu a’i defnyddio?
  • Pa mor effeithiol yw gwahanol fathau o dystiolaeth (ymchwil, proffesiynol, dealledig a phrofiad uniongyrchol) wedi eu hintegreiddio mewn modd cydweithredol a chydgynhyrchiol?

Mae’r canfyddiadau’n seiliedig ar ddadansoddi dogfennau allweddol a saith cyfweliad gydag unigolion sy’n cynrychioli sefydliadau anabledd ar lawr gwlad a oedd wedi cyfrannu at lunio polisïau anabledd yng Nghymru, sefydliadau brocera gwybodaeth a oedd wedi darparu tystiolaeth i lywio’r gwaith o lunio polisïau anabledd yng Nghymru, a swyddogion yn Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â’r broses o lunio polisïau anabledd yng Nghymru.

Daw’r adroddiad i’r casgliad bod gan bobl ddealltwriaeth wahanol o’r hyn mae profiad byw a chydgynhyrchu yn ei olygu wrth lunio polisïau anabledd. I rai, gall profiad bywyd gynnwys gwybodaeth a phrofiad pobl anabl, yn ogystal â’u rhieni neu ofalwyr a sefydliadau proffesiynol a darparwyr gwasanaethau sy’n cynrychioli pobl anabl. Mewn rhai dogfennau a chyfweliadau, ystyriwyd bod tystiolaeth o brofiad go iawn yn gyfystyr ag ymchwil ansoddol dda. Gall hyn arwain at wahaniaethau barn ynghylch yr hyn sy’n cyfrif fel tystiolaeth ac arbenigedd profiad bywyd a phwy ddylai fod yn ymwneud â chyd-gynhyrchu polisi; gydag ymchwil a gwybodaeth broffesiynol yn aml yn cael eu disodli neu eu dyrchafu’n uwch na gwybodaeth a phrofiad pobl anabl.

Mae’r adroddiad hefyd yn canfod rhwystrau i gynnwys tystiolaeth profiad bywyd wrth lunio polisïau oherwydd y mecanweithiau a ddefnyddir i gael gafael ar dystiolaeth ac arbenigwyr, a diffyg ymddiriedaeth mewn prosesau llunio polisïau ymysg pobl anabl. Yn olaf, mae’r adroddiad yn canfod gwahaniaethau barn ynghylch beth mae cynnwys profiad bywyd a chyd-gynhyrchu polisi yn ei olygu a beth ddylai geisio ei gyflawni. Codwyd materion yn ymwneud â’r amser a’r adnoddau sydd eu hangen i gyd-gynhyrchu polisi, tra bod eraill yn pwysleisio’r potensial i arbed amser ac arian drwy osgoi methiannau polisi a gweithredu.

Cynhyrchwyd yr ymchwil a’r adroddiadau gan Kat Williams yn ystod interniaeth PhD 3 mis gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Mae Kat yn fyfyriwr PhD a gyllidir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal â chyfarwyddwr anweithredol sefydliad pobl anabl ac mae’n unigolyn sy’n agored am fod yn niwrowahanol. Daw Kat â’r adroddiad i ben gyda chyfres o argymhellion ar gyfer llunwyr polisïau a broceriaid gwybodaeth i wella rôl profiad byw a chydgynhyrchu wrth lunio polisïau anabledd yng Nghymru. Gallwch ddarllen blog Kat am ei phrofiad fel Intern PhD yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yma.

Ar hyn o bryd mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn croesawu Cymrawd Arloesi Polisi ESRC, Dr Rounak Nayak, i wella ein sgiliau, ein gallu a’n gwybodaeth mewn perthynas â chynnwys arbenigwyr drwy brofiad yn ein gwaith. Mae’r prosiect hwn yn cynnwys archwilio arfer cyfredol, defnyddio mewnwelediadau o ymchwil ehangach ac ymarfer polisi, arbrofi drwy ymchwil weithredol, a chyfnerthu a rhannu gwersi a ddysgwyd. Bydd y prosiect yn cael ei gwblhau ym mis Ebrill 2025.