Archwilio a gwella rôl profiad ymarferol

Rydym yn falch iawn o fod yn cynnal Cymrodoriaeth Polisi Arloesi UKRI 18 mis ar y cyd i archwilio a gwella rôl arbenigedd sy’n deillio o brofiadau personol yng Nghanolfan Polisi Cyfoeddus Cymru (CPCC), ar draws y Rhwydwaith ‘What Works’ ac wrth lunio polisïau’n ehangach.

Mae Cymrawd CPCC, Dr Rounaq Nayak, o Brifysgol Bournemouth, yn un o 44 o gymrodyr polisi sy’n cael eu secondio gan UKRI o adrannau prifysgolion i adrannau gwasanaethau sifil a Chanolfannau What Works ledled y DU. Mae canolfannau What Works yn ganolfannau tystiolaeth annibynnol a’u pwrpas yw darparu tystiolaeth gadarn, hygyrch a defnyddiol i’r llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus i lywio polisi ac ymarfer. Gyda’i gilydd, mae’r 13 Canolfan What Works yn ffurfio’r Rhwydwaith What Works. Mae WCPP yn Ganolfan What Works ‘seiliedig ar leoedd’, sy’n arbenigo mewn cefnogi llunwyr polisi Cymru, yn enwedig mewn perthynas â mynd i’r afael ag Anghydraddoldebau, yr Amgylchedd a Sero Net, a Lles Cymunedol.

Yng Nghymru, mae’r egwyddor a’r arfer o gynnwys pobl wedi’i ymgorffori yn y sector cyhoeddus drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) sy’n gorfodi pob corff cyhoeddus i ‘gynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae’r corff yn ei gwasanaethu’.

Ac mae rhesymau da pam y gallai ymchwilwyr polisi fod eisiau cynnwys, ac yn aml yn cynnwys pobl ag arbenigedd ymarferol – yn hytrach nag arbenigedd a ddysgir – o’r mater y maent yn gweithio arno yn eu gwaith. Mae profiad ymarferol yn cyfeirio at ‘wybodaeth bersonol am y byd a geir drwy gyfranogiad uniongyrchol, ymarferol’ (Chandler & Munday, 2016). Tra bod ‘arbenigedd a ddysgir’ yn deillio o brofiadau proffesiynol neu addysgol, a dyma’r math o arbenigedd sydd gan lunwyr polisi, academyddion ac ymarferwyr, er bod gan rai pobl arbenigedd ymarferol ac arbenigedd a ddysgir.

Un o’r o’r rhesymau pam fod ymchwilwyr polisi yn cynnwys pobl ag arbenigedd ymarferol yw’r awydd i wneud cynnydd o ran ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn eu gwaith (The Young Foundation, 2021). Ond mae dadleuon ehangach dros ymgorffori tystiolaeth o brofiad ymarferol ac arbenigedd mewn ymchwil polisi, gan gynnwys rhesymeg ddemocrataidd sy’n pwysleisio y dylai pobl allu dylanwadu ar y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau (Bell & Reed, 2021); ac y dylid gwerthfawrogi gwybodaeth pobl drwy eu profiadau uniongyrchol ochr yn ochr â ffynonellau eraill o arbenigedd a gwybodaeth (Beresford, 2003). Gall hefyd wella penderfyniadau polisi a chanlyniadau, drwy sicrhau bod y dystiolaeth a’r arbenigedd sy’n llywio polisi yn cyd-fynd yn well â phrofiadau, anghenion a chyd-destun y bobl y mae’n ceisio effeithio arnynt (Smith-Merry, 2020), gan arwain at benderfyniadau polisi sy’n fwy ymarferol, perthnasol a dilys (Sefydliad Astudiaethau Cymunedol, 2020). Am y rhesymau hyn rydym wedi bod yn gweithio gyda grŵp o arbenigwyr sydd â phrofiad ymarferol fel rhan o’n gwaith i fynd i’r afael â stigma sy’n gysylltiedig â thlodi yng Nghymru.

Fodd bynnag, mae heriau a risgiau hefyd yn gysylltiedig â chynnwys arbenigwyr sydd â phrofiad ymarferol mewn ymchwil polisi, gan gynnwys:

  • Heriau moesegol fel sicrhau bod cyfranogwyr yn cael profiad cadarnhaol ac ystyrlon o gyfranogiad a’u bod yn cyfrannu at y broses ac yn elwa arni. Mae gormod o achosion o hyd lle gellir teimlo bod cyfranogiad yn symbolaidd, trawmatig ac wedi’i hwyluso heb hyfforddiant diogelu a lles digonol.
  • Heriau logistaidd fel cael gafael ar bobl berthnasol a dod o hyd i ffyrdd o dalu cyfranogwyr yn deg heb, mewn rhai achosion, effeithio ar eu taliadau nawdd cymdeithasol.
  • Heriau o ran adnoddau megis sicrhau bod digon o staff medrus yn gallu cael eu defnyddio i hwyluso cyfranogiad.
  • Heriau methodolegol o ran cydbwyso ‘safonau tystiolaeth’ a ‘thrylwyredd gwyddonol’ gyda gwybodaeth yn seiliedig ar sampl bach iawn o ran maint neu sampl unigol, a chyfuno profiad ymarferol â mathau eraill o arbenigedd. Mae cymhwyso cysyniadau megis ‘trylwyredd’ a ‘dilysrwydd’ i dystiolaeth o brofiad ymarferol neu arbenigedd hefyd yn ddull sy’n cael ei herio’n fawr.

Er mwyn cefnogi WCPP a’r Rhwydwaith What Works ehangach i fynd i’r afael â’r heriau hyn a rhai eraill, a’u goresgyn, bydd y Gymrodoriaeth Bolisi yn cynnwys pedwar cam allweddol:

  1. Dysgu o fewn Rhwydwaith What Works (WWN) i archwilio dealltwriaeth ac arferion cyfredol mewn perthynas ag ymgorffori arbenigedd drwy brofiadau ymarferol a deall arferion cyfredol, safbwyntiau a gwybodaeth ynghylch cyfranogiad gan arbenigwyr â phrofiad ymarferol ar draws y WWN.
  2. Dysgu o’r tu hwnt i’r Rhwydwaith What Works drwy adolygu llenyddiaeth ac arbenigedd yn y sector ehangach i archwilio sut, ym mha ffyrdd a ph’un ai y gall arbenigwyr â phrofiad ymarferol, lywio’r ymchwil polisi a’r broses o lunio polisi.
  3. Arbrofi ac arloesi o fewn rhwydwaith What Works drwy ddwyn ynghyd y dysgu yn sgil tri ymchwil gweithredu i rannu a chymhwyso dulliau perthnasol ar gyfer cynnwys arbenigwyr â phrofiad ymarferol.
  4. Rhannu’r dysgu a chynyddu galluoedd yn ehangach drwy baratoi astudiaethau achos ar y prosiectau ymchwil gweithredu, a’u cyflwyno i’r Rhwydwaith What Works a llunwyr polisi, a chynhyrchu briff i lunwyr polisi.

Yn ogystal â chael ei harwain gan WCPP, bydd y Gymrodoriaeth yn cael ei harwain a’i chefnogi gan weithgor sy’n cynnwys cynrychiolwyr o wahanol ganolfannau tystiolaeth blaenllaw yn y DU: Sefydliad Youth Futures, y Ganolfan Effaith Digartrefedd, y Ganolfan Heneiddio’n Well, Canolfan Dystiolaeth Polisi Caethwasiaeth Fodern a’r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol. Sarah Campbell, Pennaeth Cyfranogiad Sefydliad Joseph Rowntree fydd yn cynghori’r Gymrodoriaeth.

Am fwy o wybodaeth am y Gymrodoriaeth, cysylltwch â Dr Rounaq Nayak – nayakr@wcpp.org.uk