Profiad Kat Williams, intern PhD yn CPCC

Sgwrs gyda Kathryn Williams ar ôl treulio 3 mis fel intern PhD yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.

1. At ei gilydd, sut brofiad oedd eich cyfnod yn y Ganolfan?

Rwyf wedi mwynhau gweithio yn y Ganolfan gyda thîm arbennig o groesawgar. Mae’n teimlo fel y bod tri mis wedi hedfan heibio, clywais gymaint am beth mae’r Ganolfan yn ei wneud mewn cyfarfodydd tîm a sesiynau 1:1 gyda staff. Roedd y Ganolfan yn dathlu 10 mlynedd yn y Senedd ac roeddwn yn ffodus iawn i fod yn rhan o’r dathliadau. Roedd yn brofiad hyfryd i glywed am yr holl brosiectau diddorol mae’r Ganolfan yn gysylltiedig a, ac i wrando ar y Prif Weinidog yn siarad mor gadarnhaol am waith y Ganolfan.

2. Beth ydych chi wedi gallu ei wneud / cymryd rhan ynddo trwy eich interniaeth na fyddech wedi gallu ei wneud fel arall?

Mae’r interniaeth hon wedi fy ngalluogi i gynnal ymchwil ar rôl tystiolaeth profiad bywyd mewn polisi anabledd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad yn ddiweddar i weithio’n gydgynhyrchiol gyda phobl anabl, ac i gynnwys tystiolaeth o brofiadau byw yn y broses o lunio polisïau. Roedd yn deimlad cyffrous gweithio ar rywbeth a allai gael ei gymhwyso’n fwy uniongyrchol i gymharu â’m mhrosiect PhD, ac i siarad â phobl o sefydliadau llawr gwlad, broceriaid gwybodaeth, a phobl o Lywodraeth Cymru am dystiolaeth profiad bywyd a chyd-gynhyrchu polisïau.

3. Sut ydych chi’n meddwl bod eich amser yn y Ganolfan wedi cefnogi’ch astudiaethau PhD?

Rwyf yn teimlo bod yr amser a dreuliais yn y Ganolfan wedi bod yn hynod ddefnyddiol ar gyfer fy astudiaethau PhD. Mae gennyf well dealltwriaeth o sut mae gwybodaeth ymchwil yn cael ei rhoi ar waith a’i defnyddio gan lunwyr polisi a sut i ysgrifennu allbynnau sy’n berthnasol i’r gwaith hwn. Mae’r prosiect hefyd wedi cryfhau fy mhenderfyniad i gynnwys cleifion ac ymarferwyr gofal iechyd yn fy mhrosiect PhD. Cyfwelais â phobl sy’n gweithio mewn sefydliadau amrywiol ar gyfer fy mhrosiect interniaeth, ac roedd clywed sut roedd y lleisiau hyn yn wahanol ac yn debyg yn cryfhau’r data a’r dadansoddiad dilynol.

4. Sut ydych chi’n meddwl bod eich amser yn y Ganolfan wedi cefnogi’ch datblygiad proffesiynol ehangach?

Mae’r prosiect hwn wedi rhoi profiad i mi o weithio ar brosiect o’r dechrau i’r diwedd mewn amser byr iawn. Nid oes cyfyngiadau amser fel hyn mewn astudiaethau PhD ond maent yn hanfodol ar gyfer datblygiad proffesiynol ehangach. Mae hefyd wedi fy ngalluogi i weld sut y gellir cymhwyso profiad a sgiliau ymchwil y tu allan i’r byd academaidd ac yn gyfagos ato. Rwyf hefyd yn meddwl fy mod yn fwy hyderus wrth ysgrifennu’n gryno ac yn uniongyrchol.

5. Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth fyfyrwyr PhD eraill sydd â diddordeb mewn interniaeth gyda’r Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP)

Byddwn yn sicr yn eu hannog i fynd amdani. Er y gall fod yn anodd gosod eich PhD o’r neilltu am rai misoedd, mae’r profiad a enillwyd yn debygol o gryfhau eich PhD pan fyddwch yn dychwelyd ato. Mae’n helpu i fwrw llygad dros sut mae ymchwil a thystiolaeth yn gweithio ‘yn y byd go iawn’, sydd ar adegau’n gallu ymddangos wedi datgysylltu o’r broses PhD.