Josh Coles-Riley

Teitl swydd Cydymaith Ymchwil
Sefydliad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Ebost cyswllt josh.coles-riley@wcpp.org.uk

Mae Josh Coles-Riley yn Gydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, gan ymuno â’r tîm ar secondiad o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ym mis Gorffennaf 2021.

Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae Josh yn gweithio yn nhîm Gwybodaeth a Dysgu Cymru, mewn rôl sy’n canolbwyntio ar gefnogi’r defnydd o dystiolaeth wrth wneud grantiau, o ddatblygu rhaglenni ariannu newydd i gefnogi deiliaid grantiau i wneud y defnydd gorau o’u mewnwelediad a’u dysgu. Cyn hyn, gweithiai Josh yn y trydydd sector, gan arwain ar nifer o brosiectau ysgogi gwybodaeth gwahanol gyda phwyslais ar dystiolaeth i ymarfer mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.

Bydd Josh yn cydlynu rhaglen waith y Ganolfan ar gysylltiadau cymunedol i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol. Mae ei brif ddiddordebau ymchwil mewn polisi ac ymarfer gofal cymdeithasol, datblygu cymunedol, cyd-gynhyrchu, cyfranogiad a democratiaeth fwriadol.

Tagiau