Tyfu sylfaen drethu Cymru drwy ardrethi busnes: peryglon, gwobrwyon a gwneud iawn

Aeth chwe mis heibio ers i ni gyhoeddi ein hadroddiad ar beryglon a chyfleoedd datganoli ariannol i sylfaen drethu Cymru. Cododd ein trafodaethau â chydweithwyr polisi trethu yn Llywodraeth Cymru ac ag arbenigwyr ac academyddion o bob rhan o’r DU lawer o faterion nad oedd modd eu harchwilio’n llawn o fewn cyfyngiadau ein hymchwil, ac ers ei gyhoeddi mae’r datblygiadau a’r trafodaethau wedi bod yn llawer ehangach na’r penawdau. Felly rydyn ni wedi gwahodd blogwyr gwadd i ymhelaethu ar rai o’r cwestiynau ehangach hyn ynghylch polisi trethu.

Yn y blog hwn, mae Daria Luchinskaya a Nikos Kapitsinis yn ystyried ardrethi annomestig, neu ardrethi busnes, ac unrhyw gyfraniad mwy y gallent ei wneud i gyllid y wlad yng Nghymru.

Beth yw ardrethi annomestig?

Treth yw ardrethi annomestig (non-domestic rates neu NDR) ar eiddo amhreswyl, fel ysgolion, siopau, swyddfeydd, gwestai a safleoedd ac adeiladau eraill. Yng Nghymru, gosodir ardrethi annomestig drwy bennu’r lluosydd ardrethi annomestig (sydd wedi’i gysylltu â chwyddiant ac wedi’i osod gan Lywodraeth Cymru) i werth trethiannol eiddo (wedi’i osod gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio).

Mae’r cyfraniad y mae ardrethi annomestig wedi’i wneud i incwm blynyddol llywodraeth leol Cymru wedi bod yn cynyddu’n raddol o 10.9% yn 2011-12 i dros 12% yn 2016-17, ac mae’n werth tua £1 biliwn.

Ffynonellau refeniw Llywodraeth Leol fel canran o gyfanswm cyllid Llywodraeth Leol

Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol (2011; 2016), Llywodraeth yr Alban (2011; 2017a), ac i Gymru: Cyllido gwariant refeniw gros a chasgliadau trethi cyngor fesul blwyddyn. Noder: Mae Grant y Llywodraeth Ganolog yn cynnwys Budd-dal y Dreth Gyngor cyn 2013-14, a Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar ôl 2013-14.

Roedd ardrethi domestig a godwyd yng Nghymru yn arfer cael eu crynhoi gyda refeniw a gynhyrchwyd yn Lloegr a’u hailddosbarthu i Gymru. Fodd bynnag, o 2015 datganolwyd y cyfrifoldeb dros ardrethi annomestig i Lywodraeth Cymru, a heddiw mae’r holl ardrethi annomestig yn cael eu casglu gan gynghorau Cymru ac yn cael eu crynhoi gan Lywodraeth Cymru, sydd wedyn yn ailddosbarthu’r refeniw yn ôl i gynghorau Cymru, yn ôl eu poblogaeth. Mae’r ailddosbarthu hwn yn ffordd o leihau anghydraddoldebau rhwng cynghorau sydd â sylfeini trethu uchel/isel a rhai sy’n tyfu’n gyflym/araf.

Lliniaru’r anghydraddoldeb rhanbarthol

Mae rhai cynghorau yng Nghymru yn derbyn mwy o incwm ardrethi busnes yn dilyn yr ailddosbarthu nag y maent yn ei gyfrannu (gwahaniaeth cadarnhaol), ond i gynghorau eraill mae eu cyfraniadau’n fwy na’r setliadau (gwahaniaeth negyddol). Yn benodol, mae eiddo Caerdydd yn cyfrif am ryw bumed ran o holl werth ardrethol Cymru, gyda gwahaniaeth ardrethi annomestig negyddol o ryw £30m y flwyddyn. Bwriad y model cyfredol hwn o ailddosbarthu ardrethi annomestig yw lleihau’r anghyfartaledd o ran gallu gwario rhanbarthol a lleol ac o ganlyniad ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

Yng Nghymru, mae’r drafodaeth ynghylch ardrethi annomestig wedi canolbwyntio’n aml ar gynlluniau rhyddhad ardrethi er mwyn lliniaru effaith ardrethi busnes ar fusnesau bach. Fodd bynnag, wrth i fodelau o gadw ardrethi annomestig yn lleol gael eu mabwysiadu yn Lloegr ac yn yr Alban fel ffordd o gymell twf economaidd a busnes, mae’r mater yn dod i’r amlwg yma hefyd.

Cadw neu ailddosbarthu – a oes ffordd ganol?

Efallai fod cadw ardrethi annomestig yn ffordd o annog cynghorau i dyfu eu sylfeini treth, ond heb amddiffyniadau cyfatebol, byddai cadw 100% ar lefel cynghorau yn arwain at fwy o anghydraddoldeb rhanbarthol. Yn ein hadroddiad, trafodon ni a fyddai cynllun cadw rhannol ar lefel dinas-ranbarth yn ffordd arall ymlaen. Awgrymon ni ddau ddull o weithredu:

  • Yn gyntaf, gosod gwaelodlin Dinas-Ranbarth o ran targed ardrethi busnes, e.e. ar sail tueddiadau twf refeniw ardrethi busnes, a byddai pob partneriaeth ranbarthol yn cadw cyfran y refeniw dros y targed y cytunwyd arni. Byddai’r dull hwn yn canolbwyntio ar y twf cyffredinol mewn gweithgarwch economaidd fel y’i hadlewyrchir yn nhwf ardrethi busnes ac mae’n fersiwn o’r dull a gymhwyswyd i ardrethi annomestig yn yr Alban.
  • Byddai’r ail ddull yn golygu cadw hanner refeniw’r ardrethi busnes a fyddai’n dod o unrhyw ddatblygiadau penodol o ganlyniad i fuddsoddiadau’r dinas-ranbarth, h.y. adeiladau newydd neu asedau diriaethol eraill a gafodd eu creu drwy’r bargeinion twf. Fodd bynnag, heblaw am anawsterau priodoli prosiectau cyfalaf yn uniongyrchol i fargeinion twf, gallai’r dull ‘seiliedig ar brosiectau’ hwn sgiwio cynlluniau o blaid datblygu prosiectau cyfalaf yn hytrach na mentrau cymdeithasol neu seilwaith pwysig eraill.

Mae’n werth ystyried dau fater allweddol: (1) gwneud iawn rhwng ailddosbarthu ardrethi annomestig a mentrau i dyfu’r sylfaen drethu, a (2) effaith bosibl cadw ardrethi annomestig ar refeniw arall llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru. Yn gyntaf, mae gwneud iawn allweddol yn digwydd rhwng ailddosbarthu a mentrau i dyfu sylfaen drethu rhanbarth (a chyngor). Po fwyaf y mae’r system ardrethi annomestig yn ceisio ailddosbarthu, mwyaf yw’r rheolaeth dros reoli gwahaniaethau rhanbarthol, ond isaf yw’r cymhelliant i dyfu’r sylfaen drethu. Po fwyaf y mae’r system ardrethi annomestig yn rhoi cymhelliant i dyfu’r sylfaen drethu leol drwy gadw, mwyaf y mae’n gwneud cynghorau a rhanbarthau’n agored i risg, a all ddod ar draul mwy o wahaniaethau rhanbarthol. Yn ail, mae’r cwestiwn ynghylch pa effaith y gall cadw ardrethi annomestig ei chael ar incwm arall llywodraeth leol a refeniw arall Llywodraeth Cymru.

Mae mater datganoli yn enwedig yn tynnu sylw at beryglon anghyfartaledd mewn twf refeniw rhwng Cymru a Lloegr. Yn hanesyddol, mae twf yn sylfaen eiddo ardrethol Cymru wedi bod yn unol â’r twf yn Lloegr yn fras. Fodd bynnag, amlygodd adroddiad Sylfaen Drethu Cymru y gallai gwahaniaethau allweddol yn y sylfaen drethu ardrethi annomestig rhwng Cymru a Lloegr o ran sector a diwydiant gynyddu’r perygl o anghyfartaledd yng nghyfraddau twf refeniw ardrethi annomestig rhwng y gwledydd, yn enwedig petai diwydiannau penodol yn dirywio wrth i eraill ehangu. Gallai anghyfartaledd fel hwn gael effaith ar gyllideb Cymru, gan fod newidiadau i incwm ardrethi busnes yn Lloegr yn dylanwadu ar faint grant bloc Cymru drwy fformiwla Barnett.

Diwygio cyffredinol

Ym mis Ebrill 2018 newidiodd y lluosydd ardrethi annomestig o gael ei gysylltu â’r Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) i’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), sydd wedi golygu trethi is i fusnesau, ond hefyd refeniw llai i ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r ffaith fod pwerau trethu ehangach wedi’u datganoli yn golygu bod angen i Lywodraeth Cymru fynd yn ôl i edrych yn gyffredinol ar strwythurau a pholisi trethu. Fel rhan o hyn mae hi’n bwriadu edrych ar ddiwygiadau posibl i ardrethi annomestig, gan gynnwys o bosibl disodli ardrethi annomestig â threth gwerth tir.

Yn y pen draw, gan fod dyfodol mwy tymor hir ardrethi busnes yn cael ei gwestiynu, credwn fod mater risg ac anfantais yn allweddol. Fel nad yw unrhyw awdurdod lleol ar ei golled, mae angen i unrhyw gynllun cadw fod a) yn gymharol gymedrol o ran maint, a b) rhaid i awdurdodau gael eu hamddiffyn yn ddigonol wrth wneud iawn am yr amddiffyn hwnnw yn erbyn y mentrau i gymryd peth risg ac i dyfu eu sylfeini trethu. Rydym yn argymell y dylai gwneuthurwyr polisi geisio cael cydbwysedd priodol rhwng mentrau i dyfu’r sylfaen drethu a pherfformiad economaidd rhanbarthol ar y naill law, ac ailddosbarthu i leihau anghyfartaledd rhanbarthol ar y llall.