Y Sylfaen Drethu Gymreig: Risgiau a Chyfleoedd ar ôl Datganoli Cyllidol

O dan y Fframwaith Cyllidol newydd, o Ebrill 2019, bydd Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn rheoli refeniw trethi o bron £5 biliwn, sy’n gyfwerth â 30 y cant o’u gwariant cyfredol ar y cyd.

Yn yr adroddiad hwn rydym wedi gweithio gyda Chanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd i archwilio prif nodweddion sylfaen drethu Cymru, risgiau a chyfleoedd i’r sylfaen drethu Gymreig ar ôl datganoli cyllidol, a rhai goblygiadau i bolisi Llywodraeth Cymru.

Casgliad yr adroddiad yw dylid diwygio polisi trethi mewn ffordd integredig, gyda’r holl drethi datganoledig a lleol yn cael eu hystyried ar y cyd. Mae e hefyd yn amlygu bod sialensiau croes-adrannol i Lywodraeth Cymru i sicrhau rheolaeth lwyddiannus y risg gynyddol sy’n gynhenid â datganoli cyllidol, oherwydd dylanwad mae meysydd polisi ehangach fel addysg a thai yn cael ar yr economi.