Tlodi gwledig: achos Powys

Fel rhan o’n cyfres Tlodi Gwledig, mae Dr Greg Thomas (Cyngor Sir Powys) yn defnyddio Powys fel astudiaeth achos i ymchwilio i’r problemau sy’n ymwneud â thlodi gwledig.

 

Mae tlodi gwledig yn aml wedi’i guddio o’r golwg ac yn gwrth-ddweud y darluniau ystrydebol hynny o ardaloedd gwledig o fryniau gwyrddion a phentrefi perffaith. Mae Powys yn un ardal sy’n dioddef o’r tlodi cudd hwn. Er nad oes llawer o bobl ym Mhowys heddiw yn dioddef o dlodi llwyr, mae rhai pobl yn methu â chyrraedd y safonau byw rydym yn eu disgwyl mewn gwlad gyfoethog, ddatblygedig.

Nid dim ond yr unigolyn y mae tlodi yn ei niweidio; mae hefyd yn effeithio ar les economaidd a chymdeithasol y wlad. Yng Nghymru, mae tlodi’n gysylltiedig â gwariant cyhoeddus ychwanegol o tua £3.6 biliwn y flwyddyn ar iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, yr heddlu a’r gwasanaethau cyfiawnder. Mae hyn yn cyfateb i fwy nag 20% o gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru.

Mae pum prif fath o dlodi’n effeithio ar drigolion Powys: tlodi ariannol, tlodi tanwydd, tlodi iechyd, tlodi digidol a thlodi plant.

Tlodi Ariannol

Mae tlodi ariannol ym Mhowys yn wahanol i dlodi ariannol mewn ardaloedd trefol. Er enghraifft, nid yw perchenogaeth o gerbyd yn ddangosydd addas mewn perthynas â thlodi ym Mhowys. Oherwydd natur wledig Powys, mae’n rhaid i bobl gael car i deithio i’r gwaith ac, yn eironig, mae angen car arnynt yn aml i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae poblogaeth Powys felly’n fwy tebygol o fod yn berchen ar gar na chyfartaledd Cymru; mae 17.5% o aelwydydd heb gar, o gymharu â 26% ar gyfartaledd yng Nghymru. Mae’r ffaith bod trigolion Powys yn llai tebygol o lawer o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus na gweddill Cymru yn gysylltiedig â hyn. Mae 1.6% o’r boblogaeth yn teithio i’r gwaith ar drafnidiaeth gyhoeddus o gymharu â 6.6% o’r boblogaeth genedlaethol.

Mae tlodi mewn gwaith, yn hytrach na thlodi ariannol a achosir gan ddiweithdra, hefyd yn broblem fawr ym Mhowys. Mae corff cynyddol o dystiolaeth yn dangos pa mor fregus y mae bywyd i’r rheini sydd mewn gwaith â thâl isel, yn arbennig y rheini ar gontractau dim oriau. Mae angen denu mwy o swyddi ‘da’ i Bowys i gyflogi pobl leol – rhywbeth a fydd yn arwain at lefelau uwch o incwm a hunan-barch.

Tlodi Tanwydd

Prif achosion tlodi tanwydd ym Mhowys yw pris ynni, lefel incwm cartrefi, ansawdd ffisegol ac effeithlonrwydd ynni tai, a pha mor fregus y mae’r preswylwyr. Mae tlodi tanwydd wedi dod yn amlycach yn ddiweddar gan fod pris cyfartalog trydan domestig wedi cynyddu gan 80% a phrisiau nwy wedi dyblu rhwng 2004 a 2016.  Yn yr un cyfnod, mae’r gyfran gyfartalog o incwm y cartref sy’n cael ei gwario ar ynni hefyd wedi dyblu, sydd wedi arwain at effaith anghymesur ar dlodion sy’n gweithio.

Tlodi Iechyd

Mae poblogaethau Powys yn dueddol o fod wedi’u lleoli mewn trefi bach a phentrefi, sydd yn aml â chysylltiadau ffordd a rheilffordd gwael, sy’n her fawr o ran cael mynediad i wasanaethau. Ym Mhowys, mae’n rhaid i 19.4% o gleifion deithio mwy na 15 munud at feddyg teulu, ac mae’r broblem hon yn waeth o lawer yng ngogledd y sir (22.6% o gleifion) nag yn y de (11.9%). I gyd, mae 26,330 o gleifion cofrestredig ym Mhowys y mae’n rhaid iddynt deithio mwy na 30 munud ar gyfer taith gron at feddyg teulu. Os nad oes gan y claf amser neu fynediad i drafnidiaeth i fynd i apwyntiad, mae’n bosibl na fydd yn ceisio help, ac ni fydd yn manteisio ar y buddion posibl o ganfod problemau iechyd ar gam cynnar. Mae’r problemau hyn yn cael eu dwysáu gan absenoldeb Ysbytai Cyffredinol Dosbarth ym Mhowys.

Tlodi Digidol

Nid yw mynediad i dechnoleg a gwasanaethau digidol yn cael ei gymryd yn ganiataol gan bobl Powys. Nid oes gan 27% o aelwydydd fynediad i’r rhyngrwyd. Mae’r rhyngrwyd sydd gan bobl yn aml o safon gwael – gyda chyflymder cyfartalog o rhwng 0.1 ac 8.5 Mbit/eiliad, o gymharu â 29.8 Mbit/eiliad ar draws y DU. Mae technoleg ddigidol yn dylanwadu ar sut rydym yn gweithio, cyfathrebu, defnyddio, dysgu, ymgysylltu a meddwl. Mae technoleg wedi galluogi mwy o wasanaethau personol, nwyddau a chynhyrchion rhatach, mwy o ddewis, cysylltiadau ehangach a mynediad gwell i wybodaeth a chyfathrebu. Mae sicrhau bod gan bawb fynediad i’r rhyngrwyd a thechnolegau digidol eraill yn parhau’n un o heriau pennaf cymdeithas fodern.

Tlodi Plant

Tlodi plant yw’r ffactor sy’n dylanwadu fwyaf ar iechyd a lles cenedlaethau’r dyfodol. Y newyddion da yw bod lefelau tlodi plant ym Mhowys yn is na holl awdurdodau lleol eraill Cymru, namyn un. Dim ond Sir Fynwy sydd â lefelau is. Ar ôl ystyried costau tai, ystyrir bod 21.47% o blant Powys mewn tlodi, o gymharu â 27.33% yng Nghymru gyfan.

Fodd bynnag, mae tlodi plant yn broblem ym Mhowys o hyd, a gall plant sy’n cael eu magu mewn tlodi wynebu risg uwch o iechyd gwael, trosedd a phroblemau ymddygiad. Gall y rhain i gyd gael eu lliniaru gan ymyriadau cynnar effeithiol. Mae incwm isel yn dueddol fod yn gysylltiedig â thangyflawni addysgol mewn plentyndod cynnar a gall gael effaith negyddol ar enillion yn y dyfodol, gan arwain at dlodi sy’n pontio’r cenedlaethau os bydd hyn yn parhau am gyfnod hir.

Beth nesaf?

Mae’r uchod yn awgrymu nad yw dangosyddion traddodiadol yn addas o bosib ar gyfer mesur effeithiau tlodi mewn ardaloedd gwledig fel Powys. Dylai amrywiaeth o ddangosyddion tlodi gwledig penodol gael eu datblygu i asesu’r effaith y mae tlodi’n ei chael ar y sir, ac i nodi gwasanaethau addas sy’n galluogi pobl i oresgyn rhwystrau i’w galluogi i gyfrannu’n llawn at gymdeithas a manteisio ar addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

Pobl sy’n dioddef o dlodi sydd yn aml yn y sefyllfa orau i benderfynu ar yr hyn fyddai’n eu helpu. Fel arfer, nid oes gan bobl mewn tlodi y pŵer i wneud penderfyniadau. Er mwyn mynd i’r afael â thlodi gwledig, bydd yn hanfodol sicrhau ein bod yn datblygu cymunedau cydlynol sy’n ymgysylltu â’u hardaloedd lleol ac sy’n cymryd perchnogaeth ohonynt. Oherwydd cyfyngiadau ariannol sy’n wynebu’r sector cyhoeddus, bydd gan y trydydd sector rôl gynyddol o ran mynd i’r afael â thlodi. Oherwydd hyn mae angen i ni sicrhau ein bod yn datblygu ymddiriedaeth a chefnogaeth rhwng y trydydd sector a chymunedau lleol.

Nid oes un ateb ar gael ar gyfer pob achos o dlodi gwledig, ac mae’n hanfodol ein bod yn deall y problemau’n llawn ac yn sicrhau bod y gymuned ehangach yn rhan o greu atebion. Dylai ymyriadau i daclo tlodi gael eu dylunio gan ddechrau ar lawr gwlad, gan sicrhau bod yr adnoddau’n cyfateb i bwrpas y system a bod y gymuned yn eu cefnogi.

 

Delwedd: Andrew Hill (CC BY-ND 2.0)