Sut gall cynghorau gefnogi eu cymunedau drawy’r argyfwng costau byw?

Mae’r argyfwng costau byw yn her aruthrol i’n cymunedau ac mae’r tlotaf mewn cymdeithas yn cael eu heffeithio’n galed iawn.  Mae’r angen am help gyda hanfodion fel bwyd, tanwydd a dillad yn uwch nag erioed.  Gwyddom fod hyn yn flaenoriaeth uchel i lywodraeth leol, ac mae hynny’n gwbl briodol.  Ond mae cyllidebau cynghorau o dan bwysau difrifol gyda’r galw’n cynyddu, a hynny wedi’i ysgogi gan boblogaeth sy’n heneiddio a phwysau chwyddiant, ymhlith ffactorau eraill.  Mae hyn yn erbyn cefndir o ddegawd a mwy o gyni, gyda mwy i ddod: mae ymchwil gan y BBC wedi canfod bod cynghorau yng Nghymru yn disgwyl profi diffyg cyfunol o £394.8 miliwn yn y ddwy flynedd nesaf.

Er mwyn trafod yr her hon a’r hyn y gall cynghorau ei wneud, trefnodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) i banel gynnull yng Nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar 14eg Medi 2023. Ymunodd y cynghorwyr Nia Wyn Jeffries (Gwynedd) a Lis Burnett (Bro Morgannwg), ac Arweinydd Ymddiriedolaeth Trussell Cymru, Jo Harry â chydweithwyr WCPP, Dan Bristow ac Amanda Hill-Dixon mewn trafodaeth banel.

Yma mae Amanda Hill-Dixon yn rhannu ei phum pwynt allweddol a ddaeth i’r amlwg yn y drafodaeth.

  1. Mae’r argyfwng costau byw yn taro cymunedau Cymru yn galed, ond nid yw hyn yn effeithio’n gyfartal ar bob person neu le, ac i lawer nid yw’n argyfwng newydd ond yn un sydd wedi gwaethygu. Mae ymchwil Ymddiriedolaeth Trussell ar newynu yng Nghymru yn dangos bod ansicrwydd bwyd yn cynyddu, gyda 41% yn fwy o barseli’n cael eu dosbarthu yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2023 o gymharu â 2021/22. Hefyd, nid yw ansicrwydd bwyd yn brofiad anghyffredin yng Nghymru: profodd 1 o bob 5 o bobl yng Nghymru ansicrwydd bwyd yn 2022 (o gymharu ag 1 o bob 7 yn y DU). Ond mae rhai pobl yn llawer mwy tebygol o newynu nag eraill, yn arbennig pobl anabl a’r rhai â heriau iechyd meddwl, aelwydydd â phlant, aelwydydd sy’n derbyn y Credyd Cynhwysol a’r rhai mewn llety rhent.
  2. Mae effeithiau’r argyfwng yn mynd ymhell y tu hwnt i sefyllfa ariannol ac amodau materol pobl; mae tlodi’n effeithio ar iechyd meddwl, llesiant a bywydau cymdeithasol pobl. Canfu ymchwil diweddar gan Sefydliad Bevan bod 48% o bobl yng Nghymru yn dweud bod eu sefyllfa ariannol wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl. Nododd ein hymchwil ar dlodi ac allgau cymdeithasol yng Nghymru  bod stigma yn un o’r ffyrdd y mae tlodi ac iechyd meddwl gwael yn rhyngweithio.  Mae ysgolhaig blaenllaw ar dlodi, Ruth Lister, wedi dadlau ers tro, bod pobl yn profi tlodi ‘nid dim ond fel anfantais ac mewn cyflwr economaidd diogel, ond fel perthynas gymdeithasol gywilyddus a chyrydol’ (2004). Gan adleisio hyn, canfu ein hadolygiad diweddar o dystiolaeth Anghydraddoldebau Unigrwydd bod anawsterau ariannol yn ffactor risg pwysig ar gyfer unigrwydd.  Mae gwasanaethau cyhoeddus yn ymwybodol bod hyn yn cyfyngu ar barodrwydd a gallu pobl i geisio cymorth, neu i gyfranogi yn eu hardaloedd lleol, a gall arwain at unigrwydd a phroblemau iechyd meddwl.  Mae rhywfaint o dystiolaeth hefyd bod y stigma sy’n gysylltiedig â cheisio cymorth yn rhwystr arbennig mewn ardaloedd gwledig, lle mae diwylliant o ‘hunangynhaliaeth’, sy’n cyfrannu at yr hyn y mae pobl yn ei alw’n ‘dlodi cudd’ yn y cymunedau hyn.
  1. Gwyddom beth sy’n gweithio i leihau tlodi ond nid yw’n bosibl i lywodraeth leol gyflwyno rhai o’r ymyriadau mwyaf effeithiol. Mae cymorth nawdd cymdeithasol digonol a hygyrch yn hollbwysig er mwyn atal pobl rhag mynd yn amddifad, ond gwyddom fod y nawdd cymdeithasol yng Nghymru, gyda’r mwyafrif yn cael ei bennu gan Lywodraeth y DU, yn annigonol ar hyn o bryd i dalu am yr hanfodion sylfaenol. Nid oes llawer y gall llywodraeth leol Cymru ei wneud am hyn ac nid oes ganddynt adnoddau digonol i lansio eu cynlluniau trosglwyddo arian parod, fel yr un mae Llywodraeth Cymru’n ei dreialu ar hyn o bryd ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal.  Mae seilwaith cymdeithasol arall, gan gynnwys tai hygyrch, fforddiadwy o safon, gofal plant a thrafnidiaeth hefyd yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi pobl allan o dlodi neu eu hatal rhag cael eu gwthio i mewn i dlodi, ond mae buddsoddiad newydd sylweddol yn y meysydd hyn yn heriol i gynghorau ar hyn o bryd, wrth iddynt chwilio’n daer am arbedion costau ac sy’n wynebu’r rhagolygon o gwtogi a dim ond darparu’r gwasanaethau statudol yn unig.
  1. Yn realistig, mae’n rhaid canolbwyntio yn awr ar symud, ail-gynllunio neu ail-lunio’r gwasanaethau presennol er mwyn cynyddu’r defnydd ohonynt, neu ddad-flaenoriaethu darpariaeth bresennol pan fydd angen darparu gwasanaethau newydd. Gall newidiadau bach a rhad ond sydd wedi’u hystyried yn ofalus ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i ddylunio a chyflenwi gwasanaethau – yn arbennig yn nhermau’r amgylchedd adeiledig, rhyngwynebau digidol a’r iaith a ddefnyddir i gyfathrebu â chymunedau – wneud gwahaniaeth aruthrol yn y nifer o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau, yn arbennig pan fydd y rhain yn ystyried profiadau bywyd pobl. Er enghraifft, yn Arfon, canufwyd bod nifer y defnyddwyr yn gostwng yn sylweddol pan symudwyd y fynedfa o stryd ochr i’r stryd fawr; nid oedd pobl eisiau cael eu gweld yn dibynnu ar y cymorth hwn. Canfu astudiaethau hefyd bod newidiadau cynnil i’r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio budd-daliadau yn cael gwared ar y stigma o’u defnyddio ac yn esbonio’n glir i ddarpar hawlwyr ‘nad eich bai chi yw hyn’ yn gallu gwneud gwahaniaeth ystyrlon i’r nifer o bobl sy’n eu hawlio.  Nid yw £18 biliwn a mwy o fudd-daliadau sy’n seiliedig ar incwm a thariffau cymdeithasol yn cael eu hawlio yn y DU bob blwyddyn, felly mae cwmpas sylweddol i gynyddu’r nifer sy’n eu hawlio.  Yn hanfodol i gyllidebau cynghorau, mae unrhyw ymdrechion llwyddiannus i gynyddu nifer yr hawlwyr budd-daliadau nad ydynt wedi’u datganoli (er enghraifft y Credyd Cynhwysol) yn cynrychioli budd ariannol net clir i’r economi leol.
  1. Mae trechu tlodi yn ymwneud i raddau helaeth â meithrin perthnasoedd ac mae yna ffyrdd cost isel y gall cynghorau eu defnyddio i atgyfnerthu eu perthnasoedd â’u cymunedau a’r sector gwirfoddol. Fel y mae tystiolaeth o brofiad bywyd yn dangos, un o agweddau mwyaf niweidiol tlodi yw’r stigma, y cywilydd a’r eithrio cymdeithasol y mae pobl yn ei deimlo. Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos y gall ymdrechion gweithredol i gynnwys a grymuso pobl mewn tlodi neu mewn risg o dlodi leihau’r stigma maen nhw’n ei deimlo ac arwain at lunio polisïau ac arfer gwell. Mae comisiynau gwirionedd tlodi yn ceisio gosod pobl â phrofiad bywyd wrth wraidd y prosesau gwneud penderfyniadau ac mae meithrin perthnasoedd trawsnewidiol rhwng arbenigwyr drwy brofiad, llunwyr polisïau ac arweinwyr sefydliadau, yn un model addawol ar gyfer cyflawni hyn. Yn ogystal â gweithio mewn partneriaeth â Chomisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe fel rhan o’n gwaith ar stigma tlodi, yn WCPP rydym hefyd yn gwneud  gwaith fel rhan o’r Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar i archwilio sut y gall cynghorau weithio’n effeithiol gyda sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedau eu hunain.

Er mwyn archwilio’r mater o stigma tlodi ymhellach, ac i nodi sut y gall WCPP ac eraill gefnogi gwasanaethau cyhoeddus i ddeall a mynd i’r afael â hyn, rydym yn cynnull gweithdy ar 10fed Tachwedd yn Wrecsam gyda llunwyr polisi, ymarferwyr ac arbenigwyr drwy brofiad.  Cynhelir y gweithdy hwn mewn partneriaeth â Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru ac fel rhan o’r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol, UCL.

Os oes gennych ddiddordeb ymgysylltu â’r gwaith yma, anfonwch e-bost at Charlotte.Morgan@wcpp.org.uk