Pam mae amrywiaeth yn bwysig mewn materion penodiadau cyhoeddus

Oherwydd y diffyg amrywiaeth ymysg aelodau byrddau, mae llawer o fyrddau yng Nghymru nad ydynt yn adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethant, gydag ymgeiswyr Duon, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig ac ymgeiswyr anabl wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd.

Cyhoeddodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddau adroddiad yn ddiweddar ar wella arferion recriwtio mewn penodiadau cyhoeddus a sut gallai grwpiau a dangynrychiolir gael eu cefnogi i mewn i benodiadau cyhoeddus.

Mae Pippa Britton yn Baralympiad dwbl ac mae ganddi hefyd nifer o rolau cyhoeddus lefel uchel mewn grwpiau fel Chwaraeon Cymru ac UK Anti-Doping. Isod mae hi’n rhannu gyda ni ei phrofiad o chwalu rhwystrau i amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus.


Dwi’n falch iawn o fod mewn rôl gyhoeddus yng Nghymru ac yn aml dwi’n meddwl tybed sut digwyddodd hyn, sut ffeindiais i fy hun fan hyn?

Pan dwi’n meddwl nôl i ‘mhlentyndod i, roedd yn ddigon cyffredin mewn sawl ffordd. Cefais fy ngeni gydag anabledd, ond gwnaeth fy rhieni fy annog i wneud unrhyw beth ro’n i eisiau ei wneud, a’m magu gydag egwyddorion cryf, meddwl chwilfrydig a chwestiyngar, a dyhead i helpu eraill lle gallwn i.

Mewn rhai ffyrdd dwi’n gallu gweld sut mae’r meddwl ymholgar ‘na wedi fy ngwneud i’n saethydd da. Pan ddechreuais i wneud y gamp am y tro cyntaf, ro’n i bob amser eisiau gwybod sut gallwn i fod yn well na’r tro diwethaf ac, ymhen amser, fe ddes i’n ddigon da i ennill lle yn nhîm Prydain. Fe wnes i fwynhau gyrfa lwyddiannus, dod yn Baralympiad dwbl a threulio tipyn o fy amser fel athletwr-gynrychiolydd World Archery. Gwnaeth hyn fy ngalluogi i gyfrannu at wneud y gamp yn decach – y cyflawniad dwi fwyaf balch ohono oedd dylanwadu ar gyflwyno’r categori merched mewn digwyddiad a oedd i ‘ddynion yn unig’ o’r blaen.

Dwi’n meddwl bod hyn wedi gwneud i mi sylweddol ‘mod i wir yn poeni am drin pobl yn deg ac, yn bwysicach, i allu helpu i wneud y byd yn lle tecach. Dwi’n gwybod bod hyn yn swnio fel delfryd fawr, ond mae cael anabledd wedi dangos i mi, siŵr o fod, rai o’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu ym mhob maes o fywyd, a byddai’n wych pe gallwn i newid hynny mewn rhyw ffordd. Mae defnyddio fy mhrofiadau bywyd i allu cael sgyrsiau gyda phobl sy’n gwneud penderfyniadau yn ffordd o wneud i’r newid hwnnw ddigwydd.

Dwi ddim yn meddwl ‘mod i erioed wedi meddwl bod penodiadau cyhoeddus i ‘bobl fel fi’. Yn fy meddwl i, ro’n i’n gallu gweld ystafell fwrdd yn llawn hen ddynion mewn siwtiau, ond os ydych chi am wneud i newid ddigwydd mae’n rhaid i chi gyfrannu, felly penderfynais i gael profiad o lywodraethu ar lefel fwy lleol.

Mae pob penderfyniad sy’n cael ei wneud mewn ystafell fwrdd yn mynd i effeithio ar rywun yn rhywle. Mae meddwl am yr effaith y bydd eich penderfyniad yn ei gael ar eraill yn sgìl pwysig iawn.

Cafodd rôl ei hysbysebu yn Chwaraeon Cymru a phenderfynais wneud cais. Nid oes llawer o bobl ag anabledd gweledol mewn rolau cyhoeddus, a rywsut mae mynd i’r afael â her yn ymddangos yn haws pan mae pobl eraill wedi troedio’r llwybr o’ch blaen, ond beth oedd gen i i’w golli? Wedi’r cyfan, doedd dim rhaid iddyn nhw fy mhenodi i os nad oedden nhw’n meddwl bod fy mhrofiad i o werth.

Doedd y broses ymgeisio ddim yn rhy ddrwg, ond fe ddaeth â rhai heriau hefyd.  Er fy mod i wedi bod yn ddigon lwcus i ymuno â bwrdd sy’n cynnwys cymysgedd o oedrannau, rhyweddau a chefndiroedd ethnig, mae amrywiaeth yn dal i fod yn faes y mae angen ei wella yn y rhan fwyaf o benodiadau bwrdd. Mae cryn dipyn o rwystrau i amrywiaeth o hyd, o duedd ddiarwybod a phrosesau cyfweld gwaharddol i ddiffyg amrywiaeth yn y panel cyfweld, ac mae hynny’n cymryd na chewch chi eich digalonni gan y gwaith papur ar gyfer gwneud cais. I fi, mae llawer o hyn yn dibynnu ar le caiff rolau eu hysbysebu a’r math o iaith y mae’r hysbysebion yn ei ddefnyddio. Nid oedd brawddeg ar ddiwedd y ffurflen yn dweud ‘rydym yn croesawu ceisiadau o gefndiroedd amrywiol’ yn gwneud i mi deimlo bod croeso i fi. Yn hytrach, ro’n i’n awyddus i weld datganiad yn dweud faint mae’r sefydliad yn poeni, beth sy’n bwysig iddo, a pham bod angen ymgeiswyr amrywiol i wneud gwahaniaeth i’r gwaith mae’n ei wneud. Os ydym am fod yn gynrychioliadol a chynhwysol mae angen i bobl deimlo’n gynwysedig, nid yn ôl-ystyriaeth.

Mae wir angen i ni feddwl am y gwerth y mae meddwl a phrofiad amrywiol yn ei greu a dod o hyd i ffordd o gynnwys pobl nad oes ganddynt gefndiroedd gwaith safonol neu lwybr gyrfa ‘nodweddiadol’. Mae hefyd yn bwysig dweud pam wrth rywun sy’n aflwyddiannus, er mwyn iddo allu cael cefnogaeth i helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl.

Dwi wedi bod yn ddigon lwcus i allu cyfrannu at yr adolygiad tystiolaeth a’r cyfarfod bwrdd crwn ar amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus a dwi wrth fy modd fod yr angen am newid wedi’i gydnabod ac yn cael ei daclo. Dwi’n gwybod y bydd newid yn cymryd amser, ond dwi’n gobeithio y gall mwy o bobl fel fi gefnogi’r newid yn y broses – mae pob llais yn helpu i sbarduno newid. Dwi’n gobeithio y bydd y newidiadau y mae’r ymchwil yn eu hargymell yn helpu i greu byrddau cyhoeddus sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth a’r dalent sydd gennym ni ledled Cymru.