Cynyddu amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus drwy recriwtio

Paratowyd yr adroddiad hwn i gefnogi Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru ar gyfer penodiadau cyhoeddus, gyda ffocws ar sut gall strategaethau recriwtio fod yn fwy cynhwysol.  Mae’n rhoi sylw i sut gall ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig ac ymgeiswyr anabl gael eu cefnogi’n well i ymgeisio am benodiadau cyhoeddus a llwyddo.

Mae cynyddu amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus yn bwysig am sawl rheswm.  Gan fod gwaith cyrff cyhoeddus yn gallu dylanwadu’n sylweddol ar fywydau dinasyddion, mae’n bwysig bod byrddau’r cyrff hynny yn cynrychioli’r bobl maen nhw’n eu gwasanaethu, ac yn deall y materion sy’n effeithio arnynt.  Mae byrddau amrywiol hefyd yn mwyafu’r doniau a’r arbenigedd sydd ar gael, ac yn helpu i osgoi ‘meddylfryd grŵp’, sy’n gallu digwydd os bydd byrddau’n cynnwys aelodau o gefndir tebyg yn unig.

Er nad oes ‘un dull unffurf’ o gynyddu amrywiaeth trwy arferion recriwtio, mae rhai strategaethau cyffredin sy’n gallu cefnogi ymgeiswyr o grwpiau a dangynrychiolir.

Bydd angen i unrhyw ddull gweithredu a fabwysiadir fod yn ymwybodol o sut mae gwahanol fathau o anghydraddoldeb yn gorgyffwrdd, a gallai fod angen strategaethau penodol ar sail yr anghydraddoldebau (lluosog) gall unigolion eu hwynebu er mwyn denu pobl o grwpiau a dangynrychiolir a’u penodi.