Ehangu cyrhaeddiad rhwydwaith ‘What Works’

Rydym yn rhan o rwydwaith What Works yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Dyma grŵp o 13 (mae’n cynyddu) o ganolfannau sy’n anelu at wella’r defnydd o dystiolaeth wrth wneud penderfyniadau mewn amryw o feysydd polisi o addysg, i bolisi i les.

Rydym o’r farn bod gennym lawer i’w rannu gyda gweddill rhwydwaith What Works, a bod llawer iawn y gallwn ni, gwasanaethau cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, ei ddysgu yn gyfnewid am hynny. Dyna pam ein bod ni’n gwahodd canolfannau What Works eraill i ymweld â Chymru, megis ymweliadau diweddar gan yr Athro Jonathan Sharples o’r Sefydliad Gwaddol Addysg (EEF), ac Anna Dixon o’r Ganolfan Heneiddio’n Well.

Dyma pam ein bod ni hefyd wedi bod yn gweithio ar brosiect a ariennir gan ESRC i gynyddu effaith rhwydwaith What Works yn y DU, drwy feithrin partneriaethau ar y cyd ymysg canolfannau What Works a gwella cyrhaeddiad rhwydwaith What Works mewn gwledydd datganoledig.

Fel rhan o’r prosiect, gwnaethom gydweithio â Phrifysgol Queen’s yn Belfast, What Works yr Alban a Chynghrair y Dystiolaeth Ddefnyddiol i gynnal cyfres o ddigwyddiadau What Works yn Belfast, Glasgow, Caerdydd a Chasnewydd.

Daeth y digwyddiadau hyn â chanolfannau What Works a llunwyr polisïau lleol ac ymarferwyr at ei gilydd i rannu tystiolaeth ar bynciau megis digartrefedd ymhlith pobl ifanc, y blynyddoedd cynnar, iechyd meddwl pobl ifanc, deilliannau plant a phobl ifanc a pherfformiad economaidd lleol.

Gwnaethom hefyd gynnal trafodaeth bwrdd crwn yn Llundain gydag uwch-gynrychiolwyr o ganolfannau What Works, yr ESRC, Swyddfa’r Cabinet, gweinyddiaethau datganoledig, a gynhaliwyd gan Gynghrair y Dystiolaeth Ddefnyddiol. Yn y drafodaeth, trafodwyd yr hyn y gwnaethom ei ddysgu o’r prosiect hwn a thrafod beth arall y gallwn ei wneud i gynyddu effaith rhwydwaith What Works ledled y DU.

Gwnaethom ddysgu llawer o gynnal y prosiect hwn, yn benodol:

  • Ceir manteision posibl i ganolfannau What Works yn ymgysylltu â rhannau gwahanol o’r DU, gan gynnwys y cyfle i brofi perthnasedd tystiolaeth mewn cyd-destunau gwahanol ac i fanteisio i’r eithaf ar wahaniaethau fel ffynhonnell i gynnal dadansoddiadau cymharol a threialon.
  • Er bod gan y rhan fwyaf o ganolfannau What Works gylch gwaith i weithio ledled y DU a cheir enghreifftiau gwych o waith llwyddiannus mewn gwledydd datganoledig, mae canolfannau What Works yn wynebu nifer o heriau wrth ymgysylltu â gwledydd datganoledig, gan gynnwys diffyg cyllid a phrinder gwybodaeth am gyd-destunau polisïau gwahanol.
  • Mae chwant am dystiolaeth What Works mewn gwledydd datganoledig, gyda’r uwch-gynadleddau’n denu mwy na 300 o gyfranogwyr ledled Gogledd Iwerddon, Cymru a’r Alban. Nid oedd y rhan fwyaf ohonynt yn ymwybodol o ganolfannau What Works cyn y digwyddiadau, ac roedd yr uwch-gynadleddau’n ddefnyddiol iawn yn eu barn nhw.
  • Mae canolfannau What Works yn gwerthfawrogi cydweithio â chanolfannau eraill ac roedd yr uwch-gynadleddau’n cynnig cyfle iddynt weithio gyda’i gilydd. Mae enghreifftiau o gydweithio’n cynnwys casglu adnoddau ynghyd drwy ariannu darnau o waith ymchwil ar y cyd a rhannau profiadau a chyngor, yn enwedig gyda chanolfannau newydd.

Rydym yn awyddus i barhau i gydweithio â chanolfannau What Works eraill, a nod ein prosiect nesaf ar ddatblygu’r gwaith o weithredu ar draws y rhwydwaith yw datblygu’r hyn rydym wedi’i ddysgu drwy’r prosiect hwn i annog dysgu pellach rhwng y rhwydwaith a’n partneriaid yng Nghymru.