Hyrwyddo Cysylltiadau Ystyrlon rhwng Tystiolaeth ac Ymarfer

Yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCCP) rydym ni’n barhaus yn adfyfyrio ar ein rôl fel ‘corff brocera gwybodaeth’. Rydym ni’n gweld ‘brocera gwybodaeth’ fel cysylltu ymchwilwyr â phenderfynwyr er mwyn helpu i lywio polisïau cyhoeddus ac arferion proffesiynol. Er bod potensial mawr gan frocera gwybodaeth, rydym ni hefyd yn cydnabod y cymhlethdod sy’n rhan annatod o’n gwaith.

Er mwyn archwilio rhai o’r cymhlethdodau hyn, yn ddiweddar fe gynhaliom ni ddigwyddiad ochr yn ochr â SPARK (Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd), gan ddod â brocerwyr gwybodaeth ac aelodau eraill o’r gymuned polisi yng Nghymru at ei gilydd i rannu dysgu ac ymarfer gorau.

Cynigiodd yr Athro Jonathan Sharples o’r Sefydliad Gwaddol Addysg (EEF) a Dr Rhiannon Evans o’r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) safbwyntiau o feysydd addysg ac iechyd cyhoeddus yn eu tro.  O dîm ymchwil WCPP cynigiodd Dr Eleanor MacKillop gipolwg ar ein gwaith ar ddeall y rôl mae tystiolaeth yn ei chwarae wrth lunio polisïau.

Er bod y drafodaeth yn eang, bydd y blog hwn yn canolbwyntio ar adfyfyrio ar natur tystiolaeth a gwleidyddiaeth defnyddio tystiolaeth.

Thema allweddol yn y drafodaeth oedd gwerth dulliau cymysg ac ymchwil ansoddol ym maes brocera gwybodaeth, y cyfeirir ato hefyd fel symudedd gwybodaeth. Bu panelwyr yn gwerthuso’r defnydd o hierarchaethau tystiolaeth sy’n breintio ymchwil ansoddol (yn benodol hap-dreialon wedi’u rheoli) yn lle canolbwyntio ar y ffit rhwng y cwestiwn a’r dulliau ymchwil. Er enghraifft ar gyfer gwerthuso gwaith EEF gydag awdurdodau lleol i wella’r defnydd o Gynorthwywyr Addysgu roedd angen ymagwedd dulliau cymysg i gwmpasu elfennau allweddol brocera ar lefel ranbarthol. Caniataodd yr ymagwedd hon i EEF grynhoi dysgu am y perthnasoedd a’r rhwydweithiau oedd yn hanfodol i gyflawni effaith.

Yn yr un modd, mae WCPP yn cynnal ymagwedd eang a beirniadol wrth bennu beth sydd ac nad sy’n ‘dystiolaeth’, gan dynnu ar ddata ansoddol a meintiol cadarn heb freintio dulliau penodol. Wrth symud ymlaen, bydd WCPP yn cynnal ymchwil i ddeall beth mae ‘tystiolaeth’ yn ei olygu i wahanol randdeiliaid yn y broses polisi yng Nghymru ac yn ystyried sut y gallai hynny effeithio ar ein gwaith.

Thema arall a drafodwyd oedd ‘cyd-gynhyrchu’ tystiolaeth rhwng ymchwilwyr ac ymarferwyr. Er bod cyd-gynhyrchu wedi’i gydnabod gan y panelwyr fel elfen hanfodol mewn brocera gwybodaeth, fe’i cydnabuwyd fel cysyniad llithrig gydag amrywiaeth o ystyron posibl. Yng nghyd-destun gwaith EEF gydag ysgolion, gellid defnyddio’r term ‘cyd-gynhyrchu’ ar gyfer llawer o wahanol weithgareddau, yn amrywio o gymryd rhan mewn hap-dreialon wedi’u rheoli i gyd-gynllunio canllawiau ar y defnydd gorau o Gynorthwywyr Addysgu.

Gallai ymagweddau sydd wedi’u seilio mewn cyd-gynhyrchu helpu i ‘bontio’r bwlch’ rhwng gwahanol gredoau ynghylch tystiolaeth, gan ganiatáu dialog rhwng cynhyrchwyr tystiolaeth a’i defnyddwyr yn y pen draw. Fodd bynnag, nid yw defnydd o gyd-gynhyrchu yn rhydd o’i gymhlethdodau ei hun. Fel yr amlygodd Dr MacKillop, mae’n bwysig i ymchwilwyr a broceriaid gwybodaeth archwilio’r cysyniad o gyd-gynhyrchu’n feirniadol, yn enwedig ei allu i eithrio yn ogystal â chynnwys amrywiol leisiau. Mae ymarfer cyd-gynhyrchu yn anochel yn wleidyddol ac fel broceriaid gwybodaeth mae angen i ni herio anghydraddoldebau o ran pwy sy’n cael penderfynu beth sy’n dystiolaeth ddefnyddiol a beth nad yw’n ddefnyddiol.

Yn gyffredinol, roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i symud y sgwrs am frocera gwybodaeth yn ei blaen – gallwch gael blas o’r sgwrs fywiog a gawsom yn yr ystafell ac ar-lein drwy ein moment Twitter. Edrychwn ymlaen at barhau â’r drafodaeth gyda phawb sy’n gweithio yn y rhyngwyneb tystiolaeth a pholisi.