Dyfodol polisi ffermio Cymru

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn datblygu cynigion polisi amaethyddol sydd â’r nod o gynorthwyo ffermwyr i fabwysiadu arferion ffermio cynaliadwy. Gellir gweld eu bwriad ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol ym Mhapur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru), a daeth yr ymgynghoriadau i ben ar ei gyfer ym mis Mawrth 2021.

Eu bwriad yw i’r Bil gael ei ‘lywio gan y dystiolaeth orau sydd ar gael’ gan ystod eang o randdeiliaid, gan alinio’r broses benderfynu hon â hawl y cyhoedd i gymryd rhan mewn penderfyniadau amgylcheddol a nodwyd yng Nghonfensiwn Aarhus 1998.

Nod ein prosiect ymchwil diweddar oedd archwilio sut y gallai dull cyfranogol o ddylunio arferion rheoli tir cynaliadwy gefnogi ffermwyr ar gyfer newidiadau sectoraidd ar ôl Brexit. Mae’n hanfodol deall profiadau ffermwyr ar yr adeg hon o newid sylweddol yn y sector amaethyddol. Wrth wneud hynny, gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod polisïau’n cynnig fframwaith priodol lle mae ffermwyr yn cael eu cefnogi i wneud newidiadau i’w harferion wrth geisio rheoli tir ac adnoddau yn gynaliadwy.

Mae profiadau grwpiau a arweinir gan ffermwyr, fel y grŵp Fferm Ifan, a ariennir gan y Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS), yn cynnig mewnwelediad cyfoethog i ddylunio a gweithredu arferion ffermio cynaliadwy, ar raddfa tirwedd. Gyda chefnogaeth sawl partner, bu’r grŵp yn llwyddiannus yn eu cais i’r SMS a chawsant £696,352 i weithio tuag at sawl nod ar y cyd trwy arbrofi gydag atebion sy’n briodol yn lleol, megis plannu gwrychoedd a choed ar ffermydd aelodau unigol. Mae eu gwaith cydweithredol i wella cynaliadwyedd adnoddau naturiol ar eu tir wedi gweld gwartheg yn pori ar y Migneint, rhostir mawr yng nghanol Eryri, am y tro cyntaf o fewn cof.

Mae llwyddiannau Fferm Ifan yn sgil cyfuniad o arbenigedd gwyddonol a phrofiadol a lefelau uchel o gydlyniant cymdeithasol. Roedd eu perthnasoedd â’u partneriaid yn allweddol trwy gydol y broses SMS, gan ganiatáu iddynt ddatblygu cais cryf wedi’i seilio ar ddata gwyddonol a darparu monitro a gwerthuso parhaus i gofnodi newidiadau amgylcheddol. Roedd y priodoleddau hyn hefyd yn cynnig cryn bŵer cyfunol i’r grŵp yn y broses benderfynu ac yn sicrhau bod yr atebion amgylcheddol a ddarparwyd yn foddhaol i bawb a gymerodd ran. Gallwch ddysgu mwy am eu gwaith ar eu cyfrif Twitter.

Er bod profiad Fferm Ifan wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan, mae yna sawl gwers allweddol y gellir eu dysgu wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu Bil Amaeth (Cymru) a’r polisi cysylltiedig. Dylai’r broses ymgynghori gael ei hysbysebu’n briodol a’i gwneud yn hygyrch i bawb. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod ffermwyr a rheolwyr tir yn cael gwybod am gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithdai mewn iaith o’u dewis mewn modd amserol. Dylid dyrannu digon o amser i’r broses ymgynghori i adeiladu perthnasoedd llawn ffydd. Efallai y bydd angen mwy o amser ar rai grwpiau nag eraill i deimlo’n gyffyrddus yn cyfrannu.

Mae monitro a gwerthuso polisi ac arfer yn hanfodol i wella dyluniad a gweithrediad polisi yn y dyfodol. Mae ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio i’r amgylchedd wedi newid yn sylweddol dros y degawd diwethaf yn unig. Bydd yn bwysig myfyrio’n feirniadol ar lwyddiannau a methiannau cynlluniau amaeth-amgylchedd blaenorol, megis Tir Cynnal, Tir Gofal a Glastir.

Dylid cynnig cyfle i randdeiliaid, gan gynnwys ffermwyr a pherchnogion tir eraill, gyflwyno eu barn ar y ffordd orau i fynd i’r afael â materion amgylcheddol cymhleth, gan ddefnyddio cyfuniad o arbenigedd gwyddonol a phrofiadol. Dylai fod cyfeirio gwell at rwydwaith hwyluswyr Farming Connect, oherwydd bydd achosion lle gallai fod yn briodol i grŵp o ffermwyr fynd i’r afael â materion ar raddfa tirwedd, fel y gwaith a ddangosir gan Fferm Ifan. Gellir defnyddio’r gwasanaeth presennol hwn yn fwy effeithiol i annog ffermwyr cyfagos i archwilio’r posibilrwydd o weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â materion ar raddfa sy’n fwy na’u fferm unigol. Bydd hwyluso yn hanfodol i sicrhau bod unrhyw weithio ar y cyd yn llwyddiannus.

Wrth i effeithiau gadael yr Undeb Ewropeaidd a phandemig y Coronafeirws ddod yn gliriach, bydd cyfleoedd i alinio anghenion cymunedau amaethyddol â chymunedau gwledig yn fwy cyffredinol. Wrth i bolisi amaethyddol newydd gael ei ddatblygu, mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i’w alinio â’r gofynion polisi allweddol a amlinellir yng Ngweledigaeth Cymru Wledig Fforwm Gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae pwyslais yn y Papur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru) ar yr hyn y gall ffermio ei gyflawni ar gyfer yr amgylchedd, ond mae hyn yn anwybyddu rolau ffermwyr fel cynhyrchwyr. Mae cynhyrchu bwyd yn elfen allweddol o lawer o fywoliaethau ffermio a dylid rhoi ystyriaeth fwy gofalus i’w gefnogi mewn polisi. Dylid cydnabod hefyd y cyfraniadau y mae ffermwyr yn eu gwneud i gydlyniant cymunedol. Er enghraifft, mae ffermwyr yn chwarae rhan hanfodol o ran cynnal y Gymraeg: mae’r rhai a gyflogir yn y sector amaethyddol yn fwy tebygol na’r rheini mewn unrhyw sector arall i siarad Cymraeg, gyda 53% o ffermwyr yr ucheldir yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf.

Os eir i’r afael â’r materion pwysig hyn yn briodol, gall polisi ffermio Cymru gynorthwyo ffermwyr yn ystyrlon i gyfrannu at sawl nod a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.