Yr Hyn sy’n Gweithio wrth Drechu Tlodi Gwledig

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ystod eang o raglenni i fynd i’r afael â thlodi gwledig ac eto mae amcangyfrifon diweddar yn awgrymu bod bron i chwarter o’r boblogaeth wledig yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

Mae pwysau parhaus ar gyllideb Llywodraeth Cymru ynghyd â’r posibilrwydd y collir arian yr UE ar gyfer rhaglenni gwledig yn golygu ei bod yn hollbwysig bod ei adnoddau yn targedu’r dulliau mwyaf costeffeithiol o fynd i’r afael â thlodi gwledig.

Mae’r adroddiad hwn yn dadansoddi mwy na 50 o ymyriadau mewn 12 o wledydd OECD a geisiodd fynd i’r afael â phum agwedd allweddol ar dlodi gwledig – anghenion o ran tai, cael gafael ar wasanaethau, tlodi tanwydd, a datblygu economaidd gwledig.