Aros am ofal

Mae aros am ofal yn deillio o’r diffyg cyfatebiaeth rhwng yr angen am ofal, a chapasiti gwasanaethau’r GIG i ddiwallu’r anghenion hynny, a gall arwain at ganlyniadau niweidiol.

Mae’r adroddiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn amlygu sut mae’r amser a dreulir yn aros am atgyfeiriad i driniaeth (RTT) wedi bod yn cynyddu ers cyn y pandemig, a waethygodd y duedd sylfaenol ymhellach. Gwelir y patrwm hwn yn cael ei ailadrodd mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Mae’r adroddiad yn awgrymu camau polisi ymarferol a allai helpu i addasu sut caiff gwasanaethau eu trefnu a’u cyflwyno yn y tymor byr i’r tymor canolig. Fodd bynnag, dylid anelu at sicrhau newid cynaliadwy tymor hwy i wasanaethau yn hytrach na gwneud ‘mwy o’r un peth’ mewn ffordd well yn unig.

Yn yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2018) fe wnaethom ni nodi y bydd y pwysau am fwy o fuddsoddiad mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau, wedi’i yrru gan ffactorau fel iechyd cyffredinol y boblogaeth, anghydraddoldebau, prinder yn y gweithlu, a’r cynnydd cyflym mewn triniaethau newydd.

Gan gydnabod y bydd adnoddau bob amser yn brin, ein cyngor ni oedd y dylai ‘mwyafu gwerth gofal a bod yn fwy effeithlon fel bod modd cyfeirio adnoddau i’r meysydd sy’n cael mwy o effaith ar iechyd a lles’ fod yn nod allweddol.

Mewn ymateb, pennodd Llywodraeth Cymru strategaeth uchelgeisiol ar gyfer rhoi newid ar waith ar draws y system ofal gyfan, gyda’r nod o fod yn fwy effeithiol, effeithlon a theg (Cymru Iachach). Nod y strategaeth yw lleihau’r angen am ofal drwy ataliaeth ac ymyrraeth gynnar a darparu gwasanaethau di-dor, gwell, a gefnogir gan y defnydd gorau posibl o dechnoleg ar draws y system gyfan. Yn fuan, dilynwyd cyhoeddi’r strategaeth gan her enfawr y pandemig.

Ymatebodd y GIG yng Nghymru i’r pandemig ag ynni ac arloesedd. Mae adroddiad Conffederasiwn y GIG Addressing the planned care backlog (2022) yn dangos sut gall y gwersi hynny helpu i ymateb i bryderon ynghylch amseroedd aros. Ond yn realistig mae’r egni i arloesi yn galw am lefelau staffio digonol a rhywfaint o amser adfer personol i staff ar ôl pwysau’r pandemig.

Felly beth sy’n gallu cael ei wneud i ymateb i her sy’n ymddangos yn amhosibl ei goresgyn?

Y cam nesaf at wireddu’r strategaeth, wedi’r pandemig, yw, yn gyntaf – asesu’n realistig y capasiti sy’n angenrheidiol i leihau’r amser aros i lefel sy’n optimeiddio’r canlyniad a’r profiad ac yn ymgorffori’r lefel o alw yn y tymor hwy.  Er enghraifft, mae pob maes gofal arbenigol yn darparu ar gyfer gwahanol glefydau a gellir rhagweld a chynllunio ar gyfer lefelau angen yn y dyfodol, er enghraifft llawdriniaeth cataract, gan gydnabod bod gan rai cleifion gyflyrau lluosog.

Yn hanfodol, bydd hyn yn arwain yr ail fater. Mae cynllun gweithlu hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol, sy’n cynnwys digon o gapasiti i ddarparu gwasanaethau ataliaeth a gofal yn y gymuned yn ogystal â gwasanaethau arbenigol. Mae hyfforddiant mewn sgiliau newydd a defnyddio technoleg fel llawdriniaeth trwy gyfrwng robotiaid yn bwysig i gefnogi arferion gwaith newydd.

Yn drydydd, mae angen ail-feddwl am drefniadaeth gofal o safbwynt y defnyddwyr terfynol. Er y gall canolfannau rhagoriaeth a hybiau llawfeddygol wella effeithlonrwydd a helpu gyda staffio, mae angen eu cynllunio gyda defnyddwyr gwasanaeth i wella eu profiad.

Yn gynyddol, mae gan gleifion gyflyrau cronig lluosog a gallant gael eu hunain yn mynychu ystod o wasanaethau diagnostig a thriniaeth heb fawr o gydlynu rhyngddynt. Gellir dod o hyd i atebion ond mae angen eu cyd-ddylunio a’u cefnogi â pharodrwydd i newid arferion gwaith. Mae cynnwys ymagweddau ataliol cyn triniaeth ac adsefydlu cryf ar ôl triniaeth hefyd yn hanfodol i gyflawni’r canlyniadau gorau.

Mae Cymru yn arloesi wrth ddatblygu ‘gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth’ sy’n helpu i ganolbwyntio ar gyflawni nodau cleifion a rheoli disgwyliadau drwy gydol eu gofal neu eu triniaeth. Gwella sut mae cleifion yn cael eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau, defnyddio’r dystiolaeth orau, osgoi unrhyw amrywiadau diangen mewn gofal, a bod yn fwy creadigol i benderfynu ar y lle gorau i wario adnoddau er mwyn gwella’r canlyniadau i gleifion. Dylai hyn fod yn ganolog i’r broses o ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol, wedi’i ategu gan ddata a gwybodaeth i lywio penderfyniadau ar lefel y claf a’r gwasanaeth.

Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio ynghylch dull simplistig o reoli perfformiad yng nghyswllt amserau aros.  Mae llwyddiant i weddnewid gwasanaethau mewn gwirionedd a sicrhau Cymru Iachach yn galw am ffordd o fesur cynnydd sy’n cefnogi cyflawni nodau hirdymor ochr yn ochr â dangos i’r cyhoedd a gwleidyddion bod gwelliannau mewn amseroedd aros yn digwydd yn y tymor byr.

Mae cleifion eisiau ‘gofal amserol’, ac mae staff eisiau ‘amser i ofalu’. Mae hyn yn bwysig ar gyfer canlyniadau o safon uchel a phrofiad da i gleifion. Dylai gofal brys fod yn fater brys; mynediad at brofion diagnostig fod yn syml ac wedi’i gydlynu’n dda; amser fod ar gael ar gyfer gwneud penderfyniadau a rennir yn effeithiol ynghylch opsiynau triniaeth; amser ar gyfer paratoadau cyn llawdriniaeth lle bo angen, ac amser ar gyfer trefniadau rheoli da i glefydau tymor hir, a ddarperir gyda dilyniant a lywiwyd gan y cleifion.

Mae’r her yn sylweddol.  Mae gan Weithrediaeth newydd GIG Cymru gyfle i ailbennu sut caiff cynnydd ei fesur er mwyn sicrhau bod y strategaeth hirdymor yn cael ei chyflawni yn ogystal â sicrhau bod y cyhoedd yn gallu dibynnu ar ofal brys a gofal wedi’i gynllunio sy’n darparu gwell profiad a chanlyniadau. Nid yw hyn yn mynd i fod yn hawdd, ond mae’n hanfodol ar gyfer dyfodol y system iechyd a gofal.