Lleihau amseroedd aros yng Nghymru

Mae nifer y bobl ar restrau aros GIG Cymru am driniaeth wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed. Mae’r broblem hon wedi gwaethygu ers pandemig Covid-19, gyda’r amser aros cyfartalog am driniaeth wedi mwy na dyblu ers mis Rhagfyr 2019. Mae data ar amseroedd aros yn cael eu casglu gan Fyrddau Iechyd Lleol a’u hadrodd i Lywodraeth Cymru ar ffurf ‘amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth’ (RTT). Mae’r ffigurau hyn yn disgrifio cyfanswm yr amser aros rhwng atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall, i dderbyn triniaeth ysbyty a ariennir gan y GIG, megis apwyntiadau cleifion allanol, profion diagnostig, gwasanaethau therapi, a derbyniadau cleifion mewnol neu achosion dydd.

Er bod perfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros Llywodraeth Cymru wedi gwaethygu, mae’r achosion sylfaenol yn rhagflaenu’r pandemig, a gellir eu priodoli i anghenion iechyd newidiol y boblogaeth, prinder gweithlu, a galw cynyddol am wasanaethau’r GIG. Felly, er mwyn sicrhau gostyngiad parhaus mewn amseroedd aros o atgyfeiriad i driniaeth, bydd angen newid system gyfan sy’n mynd i’r afael â materion yn ymwneud â chyllid, darparu gwasanaethau, staffio a gofal cleifion. Bydd hyn yn cynnwys newidiadau i strwythurau llywodraethu ac ariannu, yn ogystal â ffyrdd o weithio.

Trwy adolygiad o lenyddiaeth a thrafodaeth gyda darparwyr gofal iechyd, ymchwilwyr, a swyddogion y llywodraeth, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi nodi pum maes allweddol lle gellid datblygu polisi i wella canlyniadau a lleihau amseroedd aros. Mae’r meysydd hyn yn targedu’r ffactorau sylfaenol sy’n achosi cynnydd mewn amseroedd aros, ac maent yn debygol o wella perfformiad cyffredinol y system iechyd, ac effeithio ar ganlyniadau sy’n bwysig i gleifion, gan arwain at ddull sy’n canolbwyntio mwy ar y claf:

  • Capasiti’r gweithlu
  • Technoleg ddigidol
  • Ail-ddychmygu gofal sylfaenol
  • Cydweithio rhwng systemau
  • Gofal dilynol

Mae amseroedd aros yn parhau i fod yn fater gwleidyddol amlwg iawn, ac er y gellir gweithredu polisïau sy’n gosod targedau ar gyfer amseroedd aros a’u rhoi ar waith yn gyflym, gall y targedau hyn wyro a chymell ymddygiadau. Gall hyn wedyn arwain at ganlyniadau anfwriadol gan gynnwys ansawdd gofal is a mwy o anghydraddoldebau iechyd. Dylai polisïau sy’n gosod targedau hefyd gynnwys ffordd o fesur cynnydd sy’n cefnogi cyflawni nodau hirdymor, sy’n cynnig gwell profiad a chanlyniadau i gleifion.