Ymgysylltu cyhoeddus ar drawsffurfiad iechyd a gofal cymdeithasol

Statws prosiect Cwblhawyd

Mae’r prosiect hwn yn datblygu sut y gall ymrwymiadau i ymgysylltu cyhoeddus yng nghynllun “Cymru Iachach” Llywodraeth Cymru gael eu gwireddu yn ymarferol. Y cwestiwn rydym yn helpu i’w ateb yw: pa rôl sydd gan ymgysylltu cyhoeddus o ran cyflawni’r deilliannau a nodwyd yn y cynllun?

Mae ein dull gweithredu yn cynnwys cyfuniad o adolygiadau tystiolaeth a gweithdai. Mae’r adolygiadau tystiolaeth yn cyfuno’r arferion gorau mewn cyfathrebu ac ymgysylltu i gyflawni tri o brif deilliannau yr ymgysylltu sydd wedi’u nodi yn Cymru Iachach. Maent yn cynnwys: y cyhoedd yn cyfrannu at wella system gofal cymdeithasol ac iechyd; cleifion yn rhan flaenllaw o benderfyniadau am eu gofal; a phobl yn cymryd cyfrifoldeb dros fyw bywyd iach.
Mae gennym bartneriaeth agos â’r elusen ymgysylltu Involve i hwyluso cyfres o drafodaethau gydag arbenigwyr, swyddogion Llywodraeth Cymru ac ymarferwyr o’r system gofal ac iechyd, sydd wedi’i lywio gan ein hadolygiadau tystiolaeth.

Sail ddamcaniaethol ein gwaith yw Sbectrwm Cyfranogiad y Cyhoedd y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Cyfranogiad y Cyhoedd, sy’n nodi’r lefelau ymgysylltu cynyddol gan ddechrau gyda hysbysu drwy ymgynghori, cynnwys, cydweithio, ac yn olaf, grymuso. Rydym yn cyfuno hyn gydag edrych ar y raddfa y mae’r ymgysylltu yn digwydd; naill ai yn genedlaethol, yn rhanbarthol neu ar lefel rhyngweithio unigol proffesiynol y cyhoedd a gofal iechyd.