Sut all llywodraethau ymgysylltu â’r cyhoedd am ofal iechyd?

Mae un o’r prosiectau sydd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar y gweill yn edrych ar ffyrdd y gall llywodraethau ymgysylltu â’r cyhoedd am ofal iechyd. Mae cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol “Cymru Iachach” yn gosod ymgysylltiad â’r cyhoedd fel rhan greiddiol o’i dull gofal iechyd wrth edrych tua’r dyfodol, ond nid oes sicrwydd eto sut fydd hyn yn edrych. Rydym ni’n adeiladu ar waith blaenorol ar gyllidebu cyfranogol gan ragflaenydd y ganolfan, Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru, ynghyd ag ymchwil ehangach i ddulliau ymgysylltu yng Nghymru ac yn rhyngwladol, er mwyn sefydlu sut fydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â’r cyhoedd ar iechyd yn edrych yn ymarferol.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn unigryw yn ei diddordeb mewn ffyrdd o wella rôl y cyhoedd mewn penderfyniadau ar lunio polisi. Mae melin drafod Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau wedi tynnu sylw at ddemocratiaeth cydgynghorol (ffordd o gynyddu ymgysylltiad y cyhoedd mewn democratiaeth) fel un o’r prif feysydd ymgyrchu.  Maent hefyd wedi ymuno â’r elusen Involve, sy’n gweithio’n gyfan gwbl ar wella lefelau cymryd rhan y cyhoedd. Mewn cynhadledd ddiweddar ar lwyddiant a methiant polisi yn Sefydliad Bennet ar gyfer Polisi Cyhoeddus yng Nghaergrawnt, cafodd y mater o ymgysylltiad cyhoeddus ei grybwyll yn aml. Mae ymdeimlad y gallai’r sefyllfa wleidyddol bresennol fod yn ffafriol ar gyfer annog mwy o’r cyhoedd i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau uwchlaw’r norm democrataidd presennol; mewn geiriau eraill, efallai bod “cyfle” ar hyn o bryd ar gyfer y syniad hwn.  Mae hyn yn benodol wir yng Nghymru, sydd hyd yn oed â deddfwriaeth ar ffurf Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sy’n rhestru cymryd rhan fel egwyddor gwneud penderfyniadau craidd ar gyfer cyrff cyhoeddus.

 

Sbectrwm ymgysylltu

Mae’r graddau a’r math o ymgysylltu yn amrywio’n fawr gan ddibynnu ar y cyd-destun a’r canlyniadau a ddymunir. Rydym ni o’r farn fod Sbectrwm Cyfranogiad Cyhoeddus y Gymdeithas Cyfranogiad Cyhoeddus Ryngwladol (a ddangosir yn y ddelwedd isod) yn ffordd dda o feddwl am hyn.  Mae’n mapio’r lefelau ymgysylltu cynyddol gan ddechrau gyda “hysbysu” a symud at “ymgynghori” “cynnwys,” “cydweithio” ac yn olaf “grymuso”.  Yn syml, mae hysbysu yn golygu diweddaru’r cyhoedd am bwnc penodol, ond nid yw’n gyfle iddynt gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau. Mae ymgynghori yn cynnwys casglu adborth cyhoeddus ar benderfyniadau’r llywodraeth, tra bo cynnwys a chydweithio yn golygu gweithio gyda’r cyhoedd drwy gydol y broses.  Grymuso yw’r math uchaf o ymgysylltu â’r cyhoedd ac mae’n rhoi i’r cyhoedd y gair olaf wrth wneud penderfyniadau. O ddweud hynny, fe ddylem ni fod yn wyliadwrus o ddyfarnu gwerth i’r sbectrwm yn awtomatig. Nid yw’r ffaith mai grymuso yw’r lefel ymgysylltu uchaf yn golygu mai dyna’r ffordd fwyaf priodol bob tro. Bydd hynny’n dibynnu ar y cyd-destun penodol.

Llun: Involve

Gwahanol ffyrdd o ymgysylltu

Yn ymarferol, mae ymgysylltu yn dueddol o fod ar ffurf modelau penodol. Cynhaliodd Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru adolygiad o dystiolaeth ar gyllidebu cyfranogol, ffurf o ymgysylltu lle mae poblogaethau lleol yn cymryd rhan mewn penderfyniadau am y ffordd y caiff cyllid cyhoeddus ei ddyrannu. Mae’r adolygiad o dystiolaeth yn fframwaith ar gyfer penderfynu pa ffurf o gyllidebu cyfranogol sy’n briodol ar gyfer y cyd-destun, yn seiliedig ar gyfres o gwestiynau: Beth yw’r nod? Beth ddylai’r lefelau cyfranogi fod? Beth yw graddfa’r broses? Pwy fydd yn rhan o’r broses? Ar ba gam y bydd pobl yn cael eu cynnwys? Beth yw’r dull cynnwys? Er bod y cwestiynau hyn yn deillio o’r gwaith cyllidebu cyfranogol, maent yn berthnasol i ymgysylltu cyhoeddus yn gyffredinol, ac rydym ni’n eu defnyddio fel rhan o ymchwil gynnar ar gyfer ein prosiect presennol ar ymgysylltiad cyhoeddus ac iechyd.

Un dull poblogaidd o ymgysylltu yng nghyd-destun iechyd yw’r rheithgor dinasyddion. Mae hwn fel arfer yn cynnwys grwp o rhwng 12 a 24 o bobl a gaiff eu dewis i gynrychioli demograffeg ardal benodol, ac sy’n cymryd rhan mewn cyfres o sesiynau trafod ar fater penodol dros gyfnod o sawl diwrnod. Caiff tystiolaeth gan arbenigwyr ei chyflwyno a’i hadolygu ac mae’r rheithgor yn penderfynu o blith amrywiaeth o gamau gweithredu amgen, mewn ffordd debyg i reithgor cyfreithiol. Mae tystiolaeth ym awgrymu bod rheithgor dinasyddion yn ffordd effeithiol o ymgysylltu, gan fod y rheithgor yn ddigon bach i ganiatáu trafodaeth gynhyrchiol, ond hefyd yn ddigon amrywiol i ddwyn amrywiaeth o safbwyntiau ynghyd,

Mae cynulliadau dinasyddion yn debyg ond ar raddfa fwy; o tua 40 i 100 o gyfranogwyr, ac yn aml dros gyfnod hirach o amser.  Roedd y refferendwm diweddar yng Ngweriniaeth Iwerddon dros b’un a ddylid cael gwared ar Wythfed Diwygiad y Cyfansoddiad yn seiliedig ar argymhellion o gynulliad dinasyddion, ac mae’n enghraifft proffil uchel o effaith bosibl y dulliau ymgysylltu hyn.  Hefyd, mae cynulliadau dinasyddion diweddar wedi bod ar gyllid gofal cymdeithasol yn Lloegr ac Iwerddon. Mae modelau ymgysylltu eraill na chânt eu defnyddio mor eang yn cynnwys polau cydgynghorol a chynadleddau consensws, ond mae’r sylfaen dystiolaeth am eu heffeithiolrwydd yn fwy cyfyng.

 

Ein hymagwedd ni

Gan gadw hyn oll mewn cof, fe ddechreuon ni drwy adolygu’r gwahanol fathau o ymgysylltu sydd eisoes ar waith yng Nghymru. Yn gyfochrog â hynny, fe nodon ni gyfeiriadau at ymgysylltu yn “Cymru Iachach” ac edrych ar y ffurf y gallant gymryd yn ymarferol o ran ble maent yn ffitio ar y sbectrwm ymgysylltu, a pha raddfa o ymgysylltu fyddai fwyaf addas. Gan adeiladu ar hyn, rydym ni wrthi’n adolygu’r dystiolaeth ar ymgysylltu cyhoeddus o amgylch tri chanlyniad a nodir yn “Cymru Iachach”. Sut i annog poblogaethau i ddilyn ffordd iachach o fyw, sut i ddylunio gofal o amgylch y claf, ac ymgysylltiad cyhoeddus er mwyn newid systemau. Bydd y rhain yn sail i gyfres o weithdai a fyddwn yn eu cynnal yn ddiweddarach eleni lle byddwn yn hwyluso trafodaeth ag arbenigwyr, swyddogion Llywodraeth Cymru ac ymarferwyr o’r system iechyd a gofal cymdeithasol a sectorau perthnasol eraill. Yn y rhain, byddwn yn trafod y gwahanol fodelau ymgysylltu sydd wedi gweithio mewn mannau eraill a goblygiadau hyn o ran ymgysylltiad mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

 

Llun gan Mikael Kristenson ar Unsplash