Ddechrau 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru’ (Llywodraeth Cymru 2020), ei strategaeth ar gyfer cynyddu amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus yng Nghymru.
Gofynnodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gefnogi gweithrediad y strategaeth drwy ddau brosiect:
- Adolygiad tystiolaeth cyflym o arferion recriwtio i gynyddu amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus; a
- Bwrdd crwn arbenigol i ddeall sut y gellir rhoi gwell cefnogaeth i ymgeiswyr ‘agos ati’ (rheini sy’n ymgeisio ond na chânt eu penodi) a darpar ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol er mwyn iddynt ymgeisio’n llwyddiannus am benodiadau cyhoeddus.
Gwneir o ddeutu 100 o benodiadau bob blwyddyn gan neu ar ran gweinidogion Llywodraeth Cymru i fyrddau dros 54 o gyrff cyhoeddus. Gweledigaeth y strategaeth yw bod byrddau’r cyrff cyhoeddus hyn yn adlewyrchu amrywiaeth demograffig a nodweddion gwarchodedig pobl Cymru. Ceir pum nod i’r strategaeth:
- Casglu a rhannu data;
- Creu cymuned o unigolion sydd â diddordeb, sy’n ymwybodol ac sydd bron yn barod i fod yn aelodau o fwrdd;
- Sicrhau arferion recriwtio agored a thryloyw;
- Sicrhau ymrwymiad byrddau;
- Cryfhau arweinyddiaeth.
Yn benodol, mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb i weld sut y gellir rhoi gwell cefnogaeth i ymgeiswyr Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig ac anabl allu ymgeisio a llwyddo i sicrhau penodiadau cyhoeddus. Ar hyn o bryd does dim cynrychiolaeth ddigonol i’r grwpiau hyn ar fyrddau yng Nghymru.
Canfu ein hadolygiad cyflym o’r dystiolaeth ar recriwtio a’n bwrdd crwn o arbenigwyr fod heriau sylweddol yn y system gyfredol o benodiadau cyhoeddus sy’n ei gwneud yn anodd i ymgeiswyr anabl a lleiafrifol ethnig ymgeisio am swyddi ar fyrddau, er gwaethaf y ffaith bod llawer ohonynt eisoes yn barod i ymgymryd â’r gwaith. Gellir gwella prosesau recriwtio gyda chydnabyddiaeth ehangach o ba fath o brofiad sydd ei angen ar ymgeiswyr i wasanaethu, technegau cyfweld amgen, prosesau dethol tryloyw, a threfniadau adborth adeiladol. Ymhlith y mentrau a all hwyluso mynediad ymgeiswyr posibl at swydd ar fyrddau mae rhaglenni mentora a choetsio, cyfleoedd i gysgodi ac arsylwi byrddau, cefnogaeth cymheiriaid ac amlygrwydd modelau rôl. Dylid teilwra prosesau recriwtio a rhaglenni cymorth newydd i grwpiau penodol gan gydnabod sut mae anghydraddoldebau’n croestorri.