Partneriaeth newydd i gefnogi llywodraeth leol i gyrraedd sero net

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi dod ynghyd i gefnogi’r newid yn y sector cyhoeddus i sero net.

Mae sero net yn un o brif flaenoriaethau y dau sefydliad a mae CLlLC wedi gofyn i ni i adolygu’r polisïau a’r arferion y mae awdurdodau lleol mewn gwledydd bach a rhanbarthau datganoledig eraill yn eu mabwysiadu i leihau allyriadau’r sector cyhoeddus ac annog newid ymddygiad yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Bydd CPCC yn dod â thystiolaeth, arbenigwyr ac adnoddau ynghyd i grynhoi hwyluswyr arfer gorau – ynghyd â rhwystrau allweddol i lwyddiant. Bydden ni’n nodi astudiaethau achos sy’n dangos ffyrdd o sicrhau newid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat ac yn archwilio’r potensial ar gyfer cyllido mentrau sero net yn y sector preifat.

Dywedodd Cyfarwyddwr CPCC Steve Martin:

“Mae gweithio gyda llunwyr polisïau lleol i’w helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu Cymru yn rhan allweddol o’n gwaith fel Canolfan, ac rydym yn croesawu’r prosiect newydd hwn sy’n adeiladu ar ein perthynas â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn ei chryfhau.

“Mae gan lywodraeth leol rôl hollbwysig i’w chwarae o ran arwain y newid i sero net. Ond mae cyfyngiadau ar gyllid cyhoeddus a’r angen i harneisio arbenigedd allanol i leihau allyriadau yn golygu bod ymgysylltu â’r sector preifat yn hanfodol.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’n partneriaid yn CLlLC i helpu i gefnogi ymdrechion cynghorau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol.”

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLllC :

“Newid yn yr hinsawdd yw her ddiffiniol ein hoes, ac mae llywodraeth leol wedi ymrwymo’n llwyr i gyflawni ei rôl i gyflawni’r uchelgais o gyflawni sector cyhoeddus sero net erbyn 2030. Dyna pam rydym yn edrych ymlaen, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i weithio’n agos gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i’n cefnogi ar y daith honno. ~
“Mae gweithio ar y cyd yn allweddol i sicrhau pontio cyfiawn, a bydd arbenigedd ychwanegol y WCPP yn ategu gwybodaeth leol cynghorau Cymru yn fawr.”