Datgarboneiddio economi Cymru

Lleoliad Y Deml Heddwch, Rhodfa’r Brenin Edward VІІ, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3AP
Tocynnau Bwciwch yma
Dyddiad 18 Ionawr 2023

Sut bydd Cymru yn 2050 yn wahanol i Gymru heddiw?

Yn sgîl addewid Llywodraeth Cymru i gael gwared ar allyriadau carbon erbyn 2050 a chanlyniad cynhadledd COP27 yn yr Aifft, mae’n amlwg y bydd yr ymdrechion i ddatgarboneiddio ein heconomi a’n cymdeithas yn mynd yn fwyfwy pwysig yng nghyd-destun polisïau a thrafodaethau cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd a’r degawdau sydd i ddod.

Er ein bod yn gwybod beth mae’n rhaid inni ei wneud i osgoi effeithiau gwaethaf newidiadau yn yr hinsawdd, mae’n aneglur o hyd sut y byddwn ni’n llwyddo i wneud hyn, na chwaith pa fath o gymdeithas fydd yn y pen draw. Mae’n rhaid i lywodraethau a llunwyr polisïau eraill fod yn glir ynglŷn â’r dewisiadau rydyn ni’n eu hwynebu, y penderfyniadau anodd sydd ynghlwm wrth y rhain yn ogystal â’r hyn y bydd hyn yn ei olygu i bobl. Mae’r dewisiadau hyn yn bwysig ond mae’n rhaid eu cyfuno’n strategol yn rhan o’r broses feunyddiol o wneud penderfyniadau.

 

Bydd ein rhaglen yn cynnwys sesiynau ar y canlynol:

  • Rhwydweithiau ynni: Bydd awduron yn ymgynnull yn y sesiwn hon i fynegi barn ac yn amlinellu sefyllfaoedd i drafod opsiynau ar gyfer dyfodol ynni Cymru mewn economi datgarboneiddio, yn enwedig ar ôl y rhyfel yn yr Wcráin.
  • Modelu carbon mewn tai: Bydd y sesiwn hon yn amlinellu prif ganfyddiadau adolygiad tystiolaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ar y modelau ynni diweddaraf sydd ar gael yn y sector tai, a sut y gallai llunwyr polisïau ddefnyddio a chymhwyso modelau i helpu i gynllunio ar gyfer sero net.
  • Twf, dad-dwf ac economi gylchol: Yn y sesiwn hon byddwn yn trin a thrafod safbwyntiau gwahanol ynghylch a ellir neu a ddylai twf gael ei flaenoriaethu yn ystod y newid i sero net, a lle mae’r economi gylchol yn cyd-fynd â hyn, efallai bod ‘tir canol’ i’w geisio.
  • Defnydd tir: Yn y sesiwn hon byddwn yn trafod y ffyrdd y gallai defnydd tir Cymru newid yn y dyfodol, ac i ba raddau y bydd hyn yn golygu adfer ecosystemau yn llawn neu’n rhannol (ailwylltio); coedwigo a chadwraeth; a ffurfiau amaethyddol traddodiadol neu amaeth ecolegol. Bydd pwysigrwydd cymunedau gwledig, diwylliannau a’r iaith Gymraeg yn cael eu hamlygu.
  • Sgiliau sero net: Bydd y sesiwn hon yn trin a thrafod sut y gellir defnyddio’r system sgiliau i hyrwyddo a sicrhau datgarboneiddio, pa anghenion sgiliau sydd wedi’u nodi, sut y gellir mynd i’r afael â hwy, a sut y gall polisi sgiliau hyrwyddo trosglwyddiad cyfiawn i sero net.

 

Bydd Dr Rowan Williams, cyn-Archesgob Caergaint, yn traddodi’r prif anerchiad.

 

Pam mynd i’r achlysur?

  • Bydd y sawl fydd yn bresennol ar flaen y gad o ran trafod pa opsiynau polisi y dylai Cymru eu dilyn a sut mae’r dewisiadau a wnawn nawr yn pennu ein dyfodol cyffredin.
  • Bydd arbenigwyr yn rhannu eu barn am y llwybrau a’r opsiynau polisi a allai arwain at sero net a sut y bydd y rhain yn llunio ac yn effeithio ar feysydd polisi eraill.
  • Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn trafodaethau a fydd yn helpu’r rhai sy’n bresennol i integreiddio meddwl strategol hirdymor am ddatgarboneiddio i wneud penderfyniadau bob dydd ac ar draws meysydd polisi eraill.
  • Cyfle i rwydweithio ag arbenigwyr eraill yn y maes hwn, ac i gymryd rhan mewn sesiynau holi ac ateb gyda’n paneli.

Mae dau fath o docyn ar gael:

  • Presenoldeb person
  • Presenoldeb ar-lein

Sylwch fod presenoldeb ar-lein yn rhywbeth gwylio yn unig. Bydd manylion yn cael eu e-bostio at y rhai sy’n mynychu cyn y digwyddiad.

Tagiau