Yr Hyn sy’n Gweithio wrth Drechu Tlodi Gwledig: Adolygiad o Dystiolaeth o Ymyriadau sy’n Canolbwyntio ar Dai

Mae diffyg tai fforddiadwy yn ffactor pwysig sy’n cyfrannu at dlodi gwledig. Mae gan rai cymunedau mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru anghenion tai hirsefydledig nad ydynt wedi’u diwallu, ac mae tai yn un o’r pum blaenoriaeth drawsadrannol a nodir yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru.

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio pa mor effeithiol yw 13 o fentrau sy’n darparu tai gwledig mewn amrywiaeth o wledydd OECD. Maent yn cynnwys darparu cymorth ariannol a chymhellion treth cenedlaethol gan y llywodraeth a chynlluniau cymunedol bach.