Mynd i’r Afael â Chamfanteisio ar Weithwyr Cyflog Isel

Mae’r adroddiad hwn yn ymchwilio i ffyrdd o fynd i’r afael â chamfanteisio ar weithwyr cyflog isel. Er mwyn cyflawni’r nod llesiant o gael gwaith da yng Nghymru, mae angen fframwaith cyfraith cyflogaeth ar ôl Brexit sy’n cydymffurfio â chytuniadau rhyngwladol a chonfensiynau hawliau dynol sy’n gosod safonau llafur gofynnol yn fyd-eang. Mewn sawl maes allweddol, gan gynnwys ym meysydd arolygu safonau llafur a rhyddid undebau llafur, nid yw darpariaethau’r DU yn ddigon ar hyn o bryd.

Mae’r adroddiad yn gwneud pedwar sylw allweddol:

  • Mae angen gwneud ymchwil newydd er mwyn cymharu profiadau gweithwyr mudol ac anfudol yng Nghymru. Gallai hyn roi rhagor o wybodaeth i ni am yr opsiynau o ran cyflogaeth a strategaethau ymdopi gweithwyr.
  • Dylai undebau llafur fod ar gael i fwy o bobl, a dylid rhoi mesurau gwahanol ar waith i wella safonau llafur gofynnol a’r ffordd y cânt eu dyfarnu yng Nghymru. Gallai Llywodraeth Cymru weithio’n gadarnhaol gydag undebau llafur i gyflawni hyn.
  • Mae angen datblygu arbenigedd yn y ffordd y mae cyfraith cyflogaeth y DU yn cyd-fynd â chytuniadau rhyngwladol a chonfensiynau hawliau dynol.
  • Mae cyfle i fynd i’r afael â chamfanteisio drwy gyfraith cydraddoldeb. O dan ‘Ddeddf Cymru 2017’, mae gan Lywodraeth Cymru bwerau newydd i orfodi dyletswyddau a nodir yn ‘Neddf Cydraddoldeb 2010’.

(Mae adroddiad Dr Hayes yn dechrau ar dudalen 79)