Goblygiadau Brexit i incwm aelwydydd

Yn 2019, gofynnodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddadansoddi goblygiadau Brexit ar gyfer incwm a chyllidebau cartrefi yng Nghymru. Byddai hyn yn ystyried canlyniad tebygol trafodaethau Brexit, yn nodi grwpiau sydd mewn perygl ac yn ceisio llywio ymatebion Llywodraeth Cymru i bontio Ewropeaidd.

Gohiriwyd trafodaeth bwrdd crwn arbenigol ym mis Mawrth 2020 oherwydd pandemig y Coronafeirws, ac yn lle hynny cynhaliwyd cyfres o sesiynau briffio, cyflwyniadau a thrafodaethau ar-lein rhwng Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr: Yr Athro Jonathan Portes, yr Athro Gill Bristow a Dr Peter Levell.

Mae’r nodyn briffio hwn yn crynhoi ymatebion yr arbenigwyr i sesiynau briffio Llywodraeth Cymru. Mae’n wahanol i lawer o’n cyhoeddiadau, gan ei fod yn darparu cyfres o fewnwelediadau unigol mewn ymateb i ddadansoddiadau a meddwl Llywodraeth Cymru. Wrth wneud hynny, mae’n darparu dadansoddiad gwerthfawr o effeithiau tebygol gadael yr Undeb Ewropeaidd ar economi Cymru, cyllidebau ac incwm cartrefi, ac i ba raddau y mae Cymru – neu rannau o Gymru – yn debygol o fod yn fwy neu’n llai agored i niwed. O ystyried y materion sy’n gorgyffwrdd, mae eu hymatebion hefyd yn trafod goblygiadau pandemig y Coronafeirws i’r materion hyn.